22 Ionawr, 2024
Mae uwch nyrs yn Ysbyty Gwynedd wedi cyrraedd 45 mlynedd yn y proffesiwn y mis hwn.
Dechreuodd Liz Hall ei gyrfa fel myfyriwr bydwreigiaeth yn Lerpwl yn 1979, a phedair blynedd yn ddiweddarach daeth yn fydwraig yn Ysbyty Dewi Sant ym Mangor.
Yn dilyn cau Ysbyty Dewi Sant, symudodd Liz i Ysbyty Gwynedd lle parhaodd gyda'i gyrfa ym myd bydwreigiaeth cyn mynd i’r afael â swydd nyrsio yn y clinig Obstetreg a Gynaecoleg yn yr ysbyty.
Daeth Liz yn Brif Nyrs yn y clinig yn 2000, a dwy flynedd yn ddiweddarach, derbyniodd hyfforddiant pellach i fod y Nyrs Golposgopi Arbenigol gyntaf yng Nghymru.
Wrth siarad am ei gyrfa wefreiddiol, dywedodd Liz: “Mae gennyf lawer o atgofion hapus o'm hamser yn Ysbyty Dewi Sant, gweithiais gyda rhai cydweithwyr anhygoel.
“Roeddwn bob amser yn awyddus i ddatblygu fy sgiliau, felly neidiais ar y cyfle gwych i ymgymryd ȃ hyfforddiant mewn Colposgopi.
“Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr ochr oncoleg o fewn Gynecoleg, ac yn 1995 ymunodd Mr Simon Leeson â'r adran. O ganlyniad, roedd cyfle go iawn i wneud hyn gan ei fod yn awyddus i ddatblygu ein gwasanaeth.”
“Yn 2002, cafodd Liz ei phenodi fel Nyrs Golposgopi a Gynaecoleg Oncoleg Arbenigol, a chynhaliodd glinigau dan arweiniad colposgopi yn yr adran am 10 mlynedd, yn ogystal ȃ chwblhau gradd Meistr mewn Gwyddorau Iechyd.
“Yn 2012, penderfynais gymryd cam yn ôl o golposgopi gan fod yr angen o fewn yr adran oncoleg yn tyfu, felly, penderfynais ganolbwyntio ar yr elfen honno.
“Ers hynny, rwyf wedi aros fel Nyrs Glinigol Arbenigol mewn Oncoleg Gynae, ac rwyf bellach yn gweithio deuddydd yr wythnos.
“Mae’n swydd arbennig iawn. Y rhan fwyaf arbennig i mi yw treulio amser gyda'r cleifion a rhoi cymorth iddynt yn ystod cyfnod anoddaf eu bywydau siŵr o fod.
Ychwanegodd, "Rwy'n teimlo fy mod wedi cael gyrfa wych. Ers y dechrau rwyf wedi bod yn hynod angerddol am nyrsio a datblygu o fewn y proffesiwn”.
Dywedodd Mr Richard Peevor, Meddyg Oncolegydd Gynaecolegol Ymgynghorol, sydd wedi gweithio gyda Liz am dros 10 mlynedd: “Rwyf ond wedi gweithio ochr yn ochr â Liz am 12 mlynedd o'r 45 mlynedd anhygoel y mae hi wedi gweithio yn ei gyrfa hyd yma. Yn ystod y cyfnod hwnnw rwyf wedi gweld yr ymroddiad sydd ganddi i'w chleifion canser a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddi ar ran ein tîm, ond hefyd ar ran y nifer fawr (dros fil) o fenywod y mae hi wedi rhoi cymaint o gefnogaeth iddynt dros y blynyddoedd yn ystod eu triniaeth canser."