Mae adnoddau newydd wedi cael eu datblygu er mwyn helpu i roi'r Dechrau Gorau mewn bywyd i deuluoedd yng Ngogledd Cymru.
Yn fras, mae rhyw 6,300 o bobl yn mynd i dudalennau gwe Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gael gwybodaeth cyn, yn ystod a rhwng beichiogrwydd.
Fel rhan o raglen waith ehangach i roi'r Dechrau Gorau i deuluoedd, mae ein Tîm Iechyd Cyhoeddus wedi gweithio gyda mwy na 50 o grwpiau a sefydliadau partner i ddatblygu adnoddau cyfredol ar sail tystiolaeth.
Mae'r adnoddau ar-lein yn cynorthwyo ffyrdd o fyw iach ac yn cyfeirio at wasanaethau cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd, ac wedi’u datblygu gyda grwpiau gan gynnwys Gynae Voices, Maternity Voices a Grŵp Llywio Iechyd Meddwl Amenedigol Gogledd Cymru.
O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae Hwb Dechrau Gorau wedi cael ei greu'n cynnwys yr adrannau cyrsiau bywyd
Mae'r tudalennau wedi'u hailstrwythuro yn symleiddio sut y gall unigolion, cyplau a theuluoedd gael gwybodaeth am iechyd a lles yn ystod cyfnodau perthnasol o'u bywydau.
Mae'r tudalennau wedi'u hadnewyddu hefyd yn ffynhonnell werthfawr i staff a rhanddeiliaid BIPBC, gan gynnig gwybodaeth am ystod eang o bynciau i hwyluso trafodaethau ystyrlon â defnyddwyr gwasanaeth.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus: "Bydd ein hadnoddau wedi'u hadnewyddu'n rhoi'r wybodaeth gywir i'n staff a'n partneriaid er mwyn helpu ein poblogaeth i wneud penderfyniad cytbwys ynghylch iechyd a dewisiadau ffordd o fyw.
"Mae'r cydweithio rhwng ein grwpiau partner, defnyddwyr gwasanaeth a chlinigwyr hefyd yn enghraifft wych o gydgynhyrchu. Gall pawb sydd ynghlwm wrth y cyfan ymfalchïo yn y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau."
Yn ogystal, byddem yn ddiolchgar iawn o gael eich syniadau cychwynnol ar adran newydd Hwb Dechrau Gorau, trwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn fydd yn ein helpu fel tîm i werthuso'r prosiect.