Bydd yr ysbyty newydd, a fydd yn cael ei adeiladu wrth ochr yr Ysbyty Brenhinol Alexandra presennol, yn cynnwys cyfleusterau modern, addas i bwrpas ar gyfer gwasanaethau newydd a gwasanaethau cyfredol ar y safle.
Mae gwasanaethau newydd yn cynnwys:
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymeradwyaeth i ni fynd ymlaen at gam nesaf y prosiect datblygu, a elwir yn Achos Busnes Llawn. Mae hyn yn cynnwys datblygu manylion ystafelloedd manwl, a gweithio drwy ganiatâd cynllunio ar gyfer y prosiect.
Mae'r cam hwn o'r gwaith yn cynnwys cwblhau cost y datblygiad. O ganlyniad i'r darn hwn o waith, yn anffodus nid ydym wedi gallu cytuno ar gost dderbyniol gyda'n partner cadwyn cyflenwi cyfredol ar gyfer y gwaith er mwyn symud ymlaen at y cam nesaf. Rydym felly wedi gwneud penderfyniad anodd i ail-dendro am bartner cadwyn cyflenwi ar gyfer y datblygiad.
Mae'r partner cadwyn cyflenwi yn gyfrifol am holl agweddau'r gwaith adeiladu a chynllunio'r datblygiad. Yn dilyn cyngor gan ein partneriaid Cynghori Cyfreithiol a Chost, rydym wedi penderfynu sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau o gronfeydd cyhoeddus ar gyfer y prosiect hwn.
Mae'r amser sydd ei angen i ail-dendro ar gyfer y prosiect, ynghyd â'r gofyn i'r partner cadwyn cyflenwi newydd gyfarwyddo ei hunain gyda'r cynllun, yn debygol o gymryd hyd at chwe mis. Yn ystod yr amser hwn byddwn yn symud ymlaen ag agweddau eraill yr Achos Busnes Llawn terfynol y gellir eu trefnu yn awr, gan gynnwys cynllunio ar gyfer symud rhai gwasanaethau cyfredol dros dro yn ystod y cyfnod adeiladu.
Rydym yn awr yn ceisio cyflwyno Achos Busnes Llawn ym mis Medi 2020, gyda'r bwriad o ddechrau adeiladu yn gynnar yn 2021.