Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi nodi’r nifer uchaf erioed sydd wedi cael brechiad y ffliw yn ei gymunedau ar draws Gogledd Cymru.
Ers i’r ymgyrch ddechrau ym mis Medi 2020, mae 294,700 o bobl wedi cael eu pigiad hyd yma, sy’n cynrychioli cynnydd ym mhob grŵp cymwys ar flynyddoedd blaenorol.
Gyda rhaglen frechu COVID-19 hefyd wedi hen ddechrau, mae’r Bwrdd Iechyd wedi defnyddio’r llwyddiant hwn i gynnal ymgyrchoedd brechu ar raddfa fawr.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus: “Mae hwn yn llwyddiant sylweddol o ran yr ymdrech i gadw’r cyhoedd yn ddiogel rhag y firws peryglus a hyd yn oed angheuol hwn.
“Mae pawb sydd wedi bod yn rhan o gyflawni’r ymgyrch eleni wedi gweithio mor galed i fodloni’r targedau uwch. Mae ein brechwyr, Meddygfeydd, fferyllfeydd cymunedol a nyrsys ysgol wedi gwneud gwaith gwych, yn enwedig wrth ystyried y pwysau ychwanegol wrth ddarparu’r brechiad oherwydd mesurau diogelwch COVID-19.
“Mae hyn hefyd yn dangos ein gallu i gyflawni ymgyrchoedd brechu ar raddfa fawr, sydd mor bwysig gan ein bod yn awr yn cynyddu ein hymgyrch brechiad COVID-19.”
Ar ddechrau tymor y ffliw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei raglen frechu fwyaf erioed yng Nghymru, gan gynyddu bob targed ym mhob grŵp ‘mewn perygl’ gyda’r nod o leihau effaith posibl y Ffliw sy’n cylchredeg gyda COVID-19.
Diolch i gefnogaeth gan Feddygon Teulu a phartneriaid fferyllfa, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhagori’r targed o 75% ar gyfer brechu’r rhai dros 65 oed ym mhob un o’r chwe sir ar draws Gogledd Cymru, gydag Ynys Môn a Sir y Fflint yn ddau allan o dri awdurdod lleol yng Nghymru a ragorodd gyda 80% o bobl wedi cael y brechiad.
Roedd cynnydd hefyd yn nifer y plant ysgol a gafodd eu brechu, gan ragori’r targed 75% ar draws bob grŵp oed, cynnydd o 7.9% o’i gymharu â’r llynedd.
Eleni, gwelwyd nifer cadarnhaol o staff gofal iechyd yn cael y brechiad, gyda mwy na 12,500 wedi cael y brechiad.
Dywedodd Jo Whitehead, Prif Weithredwr: “Hoffem ddiolch i’r cyhoedd ac i’n staff am ddod ymlaen a chael y pigiad ffliw'r gaeaf hwn, ac i’r holl staff iechyd sydd yn rhan o’i ddarparu. Mae brechiadau mor bwysig yn y frwydr i amddiffyn pobl Gogledd Cymru.
Mae’r ymgyrch brechu rhag y ffliw yn parhau ar waith, ac mi fydd yn parhau hyd nes ddiwedd mis Mawrth. Mae digon o stoc ar gael ar hyn o bryd, gan gynnwys ar gyfer y rhai yn y grŵp sydd newydd gael ei gyflwyno, sef, pobl rhwng 50-64 oed.
Am fwy o wybodaeth ynghylch a ydych chi’n gymwys i gael pigiad y ffliw a ble gallwch ei gael, edrychwch ar https://bipbc.gig.cymru/cyngor-iechyd/imiwneiddiooldold/y-ffliw/