26/07/21
Rydym wedi ymuno â'r cwmni technoleg iechyd Huma i asesu a ellir helpu pobl â phroblemau'r galon yn eu cartrefi gan ddefnyddio ap sy'n adrodd ar eu cyflwr.
Ariannwyd y rhaglen beilot gan Lywodraeth Cymru, ac mae rhaglen chwyldroadol Huma yn golygu y gallai unrhyw newidiadau yn iechyd y claf neu ymateb i feddyginiaeth gael eu nodi ynghynt.
Mae’r dechnoleg yn galluogi pobl i gofnodi eu symptomau ac arwyddion hanfodol, fel pwysau a phwysedd gwaed, a fydd yn cael eu hadolygu gan y clinigydd a’u bwydo’n ôl i’r claf er mwyn cofnodi cynnydd ac unrhyw bryderon. Mae'r dechnoleg hefyd yn caniatáu i gleifion gael ymgynghoriadau drwy fideo, sy’n gallu helpu i osgoi ymweliadau diangen â chlinigau neu ysbytai.
Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru, Helpwch Ni i'ch Helpu Chi yn annog pobl i ddefnyddio ystod o wahanol wasanaethau i leddfu pwysau ar y GIG; maent yn credu bod yr ateb blaengar hwn yn un ffordd o wneud hynny, yn enwedig wrth ostwng amseroedd aros.
Dywedodd Viki Jenkins, Ymarferydd Nyrsio Uwch Methiant y Galon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, “Rydym am ychwanegu at y datblygiadau a wnaed mewn technoleg ddigidol ers dechrau'r pandemig, ac mae hwn yn estyniad o hynny, ond mae angen i ni ddeall pa mor hawdd neu anodd yw hi i bobl ddefnyddio'r rhaglen; dyma hanfod y peilot hwn.
“Mae hwn yn gyfle gwych i archwilio sut olwg fydd ar wasanaethau iechyd yn y dyfodol - mae COVID-19 wedi dangos i ni fod yn rhaid i ni groesawu arloesedd o'r math hwn.”
Fel rhan o'r treial, bydd cleifion yn derbyn offer i gymryd darlleniadau, gan gynnwys cyff pwysedd gwaed, graddfeydd pwyso ac ocsimedr curiad y galon.
Bydd arbenigwyr Cardioleg yn gallu monitro symptomau, cynnydd a chynnal ymgynghoriadau fideo pob claf o bell, er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon. Os oes angen, gellir trefnu ymweliadau â’r ysbyty i gael triniaethau ac ymgynghoriadau pellach.
Wrth i dueddiadau barhau i newid yn genedlaethol oherwydd effaith pandemig COVID-19, dywedodd Helen Northmore, Pennaeth Digidol a Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, fod ap Huma yn enghraifft o sut y bydd technoleg yn chwarae mwy fyth o rôl mewn gofal cleifion wrth symud ymlaen.
“Y llwybr traddodiadol yw bod cleifion cardiaidd yn ymweld yn rheolaidd â'r ysbyty er mwyn rhoi'r darlleniadau hyn,” meddai.
“Bydd y rhaglen hon yn rhyddhau amser clinigwyr fel y gallant fod yno ar gyfer cleifion sydd eu hangen ar frys, ac mae hefyd yn arbed y claf rhag gorfod teithio ac aros yn yr ysbyty i gael ei weld.”
Mae'r peilot yn un o bum prosiect i gael cyllid fel rhan o'r Gronfa Datrysiadau Digidol gwerth £150,000, sy’n ystyried ffyrdd newydd a chwyldroadol o ddefnyddio technoleg yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws a thu hwnt.
Dywedodd Dr Jonathan Gledhill, Pennaeth Gofal Iechyd yn Huma: “Rydym yn falch y gallwn ei gwneud yn haws i gleifion gael y gofal sydd ei angen arnynt a gweld unrhyw ddirywiad yn eu hiechyd, gan arbed amser sylweddol i glinigwyr fel y gallant ddarparu gofal lle mae ei angen fwyaf.
“Mae ein technoleg eisoes yn helpu cleifion ar restri aros am lawdriniaethau, pobl â salwch acíwt fel COVID-19 a chlefydau cronig fel diabetes.
“Mae ein hymchwil gyhoeddedig yn dangos y gallwn wneud gwahaniaeth mawr ac mae'n gyffrous treialu ffordd newydd eto o helpu cleifion.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.huma.com.
Defnyddiwch yr hashnodau #HelpuNiHelpuChi a #HelpUsHelpYou i gefnogi’r ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi.