21 Hydref, 2020
Mae llawdriniaeth fawr canser y bledren wedi dychwelyd i Ogledd Cymru yn dilyn ymgyrch recriwtio lwyddiannus am lawfeddygon newydd.
Gwnaeth y Llawfeddyg Ymgynghorol newydd mewn Wroleg ac Oncoleg y Pelfis, Mr Mohamed Abdulmajed, gynnig y Systectomi gyntaf y mis diwethaf yn Ysbyty Gwynedd.
Llawdriniaeth i dynnu'r bledren wrinol yw systectomi. Yn achos dynion, mae tynnu'r bledren gyfan fel arfer yn cynnwys tynnu'r brostad a'r fesiclau semenol. Yn achos merched, gallai systectomi radicalaidd hefyd gynnwys tynnu'r groth, yr ofarïau a rhan o'r wain.
Byddai cleifion lle bo angen y math yma o lawdriniaeth wedi cael eu hanfon yn flaenorol at ysbytai yn Lerpwl, Manceinion, Casnewydd neu Lundain am eu llawdriniaeth.
Dywedodd Mr Abdulmajed, a ddechreuodd yn ei rôl yn y Bwrdd Iechyd ym mis Awst: “Mae systectomi yn un o'r llawdriniaethau mwyaf ym maes Wroleg.
“Gall y llawdriniaeth gymryd hyd at bum awr, yn hwy o bosibl, ac yn achlysurol, efallai y bydd yn gofyn am gymorth gan lawfeddygon eraill mewn arbenigeddau eraill, fel colorectol a gynaecoleg.
“Mae ar gleifion angen gofal dilynol gydol oes ar ôl y math yma o lawdriniaeth.
“Trwy sicrhau bod y llawdriniaeth hon ar gael i gleifion yng Ngogledd Cymru, mae'n golygu eu bod bellach yn gallu cael eu llawdriniaeth yn agosach i'w cartrefi a chael mynediad at yr un tîm arbenigol ag y cynigiodd y llawdriniaeth honno ar gyfer eu gofal dilynol yn y dyfodol.
“Mae hon yn adeg gyffrous i ni ym maes Wroleg ac rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda'm cydweithwyr i lunio ein gwasanaethau canser Wroleg er budd ein cleifion yng Ngogledd Cymru."
Gareth Roberts, 73 oed, o'r Fflint oedd yr unigolyn cyntaf mewn tair blynedd i fynd trwy'r weithred yn Ysbyty Gwynedd ar ôl cael gwybod bod angen llawdriniaeth arno ar ôl i'w ganser y bledren ddychwelyd.
Dywedodd: “Cefais ddiagnosis yn y lle cyntaf am ganser y bledren ryw ddwy flynedd yn ôl a derbyniais gwrs cemotherapi.
“Dros yr haf, es i am wiriad i Ysbyty Maelor Wrecsam, yn dilyn fy sganiau a biopsi, gwnaethant ddarganfod bod y canser wedi dychwelyd.
“Bryd hynny, cefais wybod y byddai angen systectomi arnaf - bu'r broses gyfan yn sydyn iawn o'r adeg honno ymlaen.
“Roeddwn yn gwybod bod y math yma o lawdriniaeth yn cael ei chynnig y tu allan i Ogledd Cymru felly pan gefais wybod y byddwn yn ei chael yn Ysbyty Gwynedd, rhyddhad mawr oedd gwybod na fyddai'n rhy bell i ffwrdd".
“Alla' i ddim canmol y gofal rydw i'n ei gael ddigon, mae pawb wedi bod yn wych, o'r llawfeddyg i bob un o'r tîm ar ward yr ysbyty, ac rydw i'n meddwl ei bod yn wych bod y llawdriniaeth hon bellach ar gael yng Ngogledd Cymru i bobl fel minnau."
Ychwanegodd yr Athro Iqbal Shergill, Arweinydd Clinigol Wroleg yn Ysbyty Maelor Wrecsam a Chyfarwyddwr Clinigol Canolfan Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru: “Rydym yn hynod falch o groesawu Mr Abdulmajed i'r tîm Wroleg yng Ngogledd Cymru, ac mae gennym ddau lawfeddyg robotig arall yn ymuno â ni ddechrau 2021, er mwyn ein helpu i arwain y gwasanaeth systectomi ar gyfer cleifion canser y bledren.
“Mr Abdulmajed oedd Hyfforddai'r Flwyddyn yng Nghymru fel meddyg iau ac mae wedi treulio dros bump o'r deng mlynedd diwethaf mewn swyddi hyfforddi yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac yng Ngogledd Cymru. Mae hefyd yn aelod allweddol o Ganolfan Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru.
"Mae'r gwasanaeth yn caniatáu i gleifion gael llawdriniaeth yng Ngogledd Cymru, yn hytrach na gorfod teithio i Lerpwl neu Fanceinion, neu hyd yn oed Lundain, fel maen nhw wedi bod yn ei wneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
“Mawr yw ein dyled hefyd i'r Uwch Wrolegydd ym Mangor, Mr Ernest Ahiaku, sydd wedi bod â rhan annatod o'i fentora hyd yma. Mae wedi gadael rhodd ardderchog ar gyfer Wroleg yng Ngogledd Cymru.”
Gwnaeth Mr Kyriacos Alexandrou, Arweinydd Clinigol BIPBC ar gyfer Wroleg, groesawu Mr Abdulmajed i'r tîm hefyd.
Ychwanegodd: “Bydd y ddau Lawfeddyg arall mewn Canser Wroleg a benodwyd yn ddiweddar yn sicrhau y bydd cleifion yng Ngogledd Cymru yn gallu derbyn triniaeth o ansawdd uchel yn lleol yn fuan."