Mae nyrs o Ogledd Cymru wedi ennill gwobr academaidd am ei gwaith i asesu sut gall gwelliannau i wasanaethau gael effaith bositif ar ofal cleifion.
Y Nyrs Arbenigol Diabetes Carolyn Thelwell yw enillydd 2020 Gwobr Frederick Banting Prifysgol Abertawe.
Mae’r wobr yn cydnabod addysg ac ymchwil nodedig fel rhan o astudio i gwblhau gradd.
Mae Carolyn, sy’n gweithio gyda chydweithwyr yn y gymuned ac ysbytai yn y Rhyl a’r ardal i gefnogi pobl sy’n byw â Diabetes, wedi astudio am ddwy flynedd am radd Meistr mewn Arfer Diabetes o Brifysgol Abertawe.
Mae diabetes yn gyflwr am oes sy’n achosi i lefelau glwcos pobl fynd yn rhy uchel. Mae inswlin, hormon a gynhyrchir gan y pancreas, yn rheoli faint o glwcos sydd yn y gwaed.
Roedd Frederick Banting yn ffisigwr o Ganada a enillodd wobr Nobel am feddygaeth yn 1923 am ddarganfod inswlin ar y cyd â gwyddonydd meddygol arall John James Rickard Macleod. Hyd at eu darganfyddiad, roedd diabetes Math 1 yn gyflwr marwol i bobl.
Dyfernir y wobr i’r myfyriwr sydd wedi cael y sgôr uchaf yn ei draethawd hir MSc. Roedd gwaith Carolyn yn werthusiad a phortffolio 15,000 gair ar sut gellir gwneud gwelliannau i reolaeth cleifion mewn clinigau is-arbenigedd.
Dywedodd Carolyn, sy’n byw yn yr Wyddgrug: "Rydw i wrth fy modd â fy ngwaith, rydw i’n credu bod diabetes yn bwnc difyr iawn. Rydw i wrth fy modd yn gallu helpu pobl sy’n byw â diabetes i ddarganfod atebion, a rhoi’r sgiliau iddynt hunan reoli.”
"Mae grymuso a chefnogi cleifion wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac mae diabetes yn rhywbeth anferthol yng Nghymru. Mae gan tua 8 y cant o’r boblogaeth ddiabetes, yr uchaf o bedair gwlad y DU.
“Mae’r ffigwr presennol o 209,000 o drigolion Cymru i fod i godi i tua 300,000 erbyn 2030, felly mae wir yn bryder iechyd cyhoeddus y mae angen i ni ymdrin â hi.
“Ni allwn fod wedi ennill y wobr hon na chwblhau fy ngradd meistr heb gefnogaeth fy nghydweithwyr.
“Mae cael y cyfle i wneud yr MSc mewn Arfer Diabetes wedi rhoi sgiliau a gwybodaeth gwell i mi fydd o fudd i gleifion a chydweithwyr.”
Mae gwaith Carolyn fel Nyrs Arbenigol Diabetes yn cynnwys cefnogi cydweithwyr gofal cychwynnol â rheolaeth pobl o ddiabetes.
Mae diabetes yn gyflwr hir dymor cymhleth sy’n cyfrannu at risg cardiofasgwlar uwch a gall effeithio ar ansawdd bywyd pobl. Mae angen rheolaeth ofalus o’r diabetes ei hun a ffactorau risg cysylltiedig, yn cynnwys pwysedd gwaed, cholesterol a phwysau.
Drwy gydweithio, mae arbenigwyr diabetes fel Carolyn a chydweithwyr mewn gofal cychwynnol yn helpu pobl i reoli eu diabetes a lleihau’r cymhlethdodau iechyd y mae’n ei achosi.
Dywedodd Gill Harris, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwregiaeth: “Nid camp fechan yw cwblhau MSc ochr yn ochr â’ch ymwymiadau proffesiynol, ond i’w gael gyda rhagoriaeth a chael y wobr hon, mae’n brawf i ymroddiad a gwaith gwych Carolyn.
“O gofio’r pwnc, mae’n deyrnged briodol bron i 100 mlynedd wedi i Frederick Banting ennill y wobr Nobel, bod Carolyn wedi cael y gydnabyddiaeth hon.
“Mae’n wych iddi hi, ein cleifion ac yn eiliad falch iawn i Betsi.”