03.08.23
Mae Ysbyty Gwynedd wedi cipio gwobr genedlaethol am eu gwaith gyda chleifion sy'n byw gyda chanser gwaed anwelladwy.
Cyflwynwyd Gwobr Rhaglen Rhagoriaeth Gwasanaeth Clinigol Myeloma UK (CSEP) i dîm haematoleg yr ysbyty i gydnabod eu gofal rhagorol a’u hymroddiad i gleifion â myeloma, canser gwaed anwelladwy sy’n gyfrifol am 3,000 o farwolaethau yn y DU bob blwyddyn.
Cafwyd canmoliaeth i’r staff am eu hymdrechion i wella ansawdd bywyd cleifion a’u hawydd i addasu a gwrando ar yr hyn mae cleifion ei angen.
Yr elusen canser gwaed Myeloma UK, sydd yn cyflwyno’r anrhydedd ac mae’n cydnabod ymrwymiad ysbytai i godi safon triniaethau a’r gofal tosturiol a phersonol a roddir ganddynt.
Dywedodd Dr Earnest Heartin, Haematolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi derbyn y wobr hon. Mae myeloma yn anodd ei ganfod, oherwydd gall y symptomau fod yn amhenodol. Yn aml, mae’r diagnosis yn cael ei wneud yn hwyr – ond yn y 10 mlynedd diwethaf gwelwyd cynnydd uwch yng nghyfradddau’r rhai sy'n goroesi’r canser yma o’i gymharu â’r rhan fwyaf o ganserau eraill.
“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cleifion lleol sydd â myeloma yn gallu derbyn gofal o’r safon uchaf, boed hynny drwy dreialon cenedlaethol arloesol neu drwy ofal cefnogol.”
Ychwanegodd Victoria Jones, Nyrs Arbenigol Glinigol Haematoleg yn Ysbyty Gwynedd: “Tîm bach ydym ni, ond serch hynny rydym yn medru cynnig treialon clinigol cyfredol i bob claf â myeloma ac mae’r holl driniaethau sydd ar gael ar gyfer myeloma yn gwbl gyfoes. Wrth symud ymlaen byddwn yn parhau i geisio sicrhau gofal myeloma rhagorol ac yn parhau i ddatblygu ein gwasanaethau er mwyn bod ar flaen y gad.”
Mae myeloma yn arbennig o anodd ei ganfod gan fod y symptomau yn aml yn annelwig ac yn cael eu diystyru fel symptomau heneiddio neu fân gyflyrau eraill.
Mae’r canser yn aml wedi datblygu ac mae angen triniaeth frys erbyn i lawer o gleifion gael diagnosis. Gall hyn effeithio'n sylweddol ar y tebygrwydd y bydd claf yn goroesi ac ar ansawdd bywyd.
Cafodd Stephanie Roberts, sydd yn fam-gu i bump o blant o Borthmadog, ddiagnosis o myeloma yn 2021, wythnosau ar ôl torri ei chlun dde. Roedd hi'n 74 oed.
Erbyn iddi gael ei diagnosis o ganser, roedd ganddi friwiau, neu dyllau, yn esgyrn ei gên.
Cafodd ei derbyn ar dreial clinigol yn syth.
Mae’r gyn-athrawes yn canmol tîm yr ysbyty am weithio’n gyson i ddod o hyd i driniaethau newydd ac am ei chadw’n fyw ar hyd y blynyddoedd.
“Maen nhw'n fy nghadw i'n fyw,” meddai'r fam i ddau o blant. “Mae Dr Heartin yn arbennig, ac mae’r tîm yn gwbl wych. ‘Caredigrwydd’ yw’r gair allweddol yn y gwasanaeth yma.
“Maen nhw fel teulu, rydych yn teimlo’r cynhesrwydd maen nhw’n ei roi i chi. Pan fydd tîm fel hyn yn eich cynnal, rydych chi'n gwybod y byddwch chi'n iawn. Rydych chi’n ddiogel ym mreichiau uned sy'n gofalu amdanoch ar bob cam o’r daith. Mae’r driniaeth yma ar gyfer myeloma yn wirioneddol wych.”
Wrth edrych yn ôl, efallai bod symptomau Stephanie, sydd bellach yn 77, wedi bod yno ers peth amser, gan gynnwys poen yn ei choes. Ond cymerodd hi mai arthritis oedd hyn.
Roedd Stephanie wedi bod yn gofalu am ddau o’i hwyrion ar Nos Galan 2020 pan benderfynodd fynd â nhw allan am dro. Ar y ffordd yn ôl, llithrodd a thorri ei chlun dde. Cafodd glun newydd y diwrnod canlynol a ‘doedd hi ddim wedi meddwl ymhellach am yr hyn ddigwyddodd. Hynny yw, tan iddi dderbyn galwad yn ddirybudd ychydig fisoedd yn ddiweddarach, yn dweud wrthi fod ganddi myeloma asymptomatig - ffurf gynnar o fyeloma sydd fel arfer yn symud ymlaen yn araf i fod yn ganser actif.
Ond cafodd gadarnhad yn fuan, yn dilyn sgan MRI, fod ganddi myeloma actif.
“Mae gan gymaint o bobl myeloma heb wybod hynny – fel fi. Roeddwn i’n meddwl mai arthritis oedd gen i”.
“Pan ofynodd Dr Heartin i fi ddod i mewn, doeddwn i ddim wedi dychryn. Roedd yn rhyddhad gwybod beth oedd yn bod a gwybod fy mod yn mynd i dderbyn gofal. Cefais ateb i bob cwestiwn oedd gennyf. Rwy’n gwybod nad oes gwella i fod, ond mae modd ei drin.”
Erbyn hyn, mae canser Stephanie wedi cilio’n rhannol, diolch byth. Ond mae effaith y driniaeth wedi bod yn drwm ac mae rhywfaint o niwed wedi digwydd i’r nerfau yn ei llaw dde. Ond mae’n benderfynol o fyw bywyd i’r eithaf a gwneud y mwyaf o bob diwrnod.
“Mae’r cyffuriau wedi achosi niwed, ond rydw i dal yma,” meddai.
“Mae bob dydd yn bwysig i mi yn ogystal â’r dyfodol. Hoffwn i fyw i weld fy wyrion a’n wyresau yn tyfu i fyny a dydw i ddim eisiau rhoi'r gorau i unrhyw beth. Rwy’n gwybod y byddaf yn mynd yn ôl ar gyffuriau chemo gan fod fy lefelau paraprotein yn codi, ac rwy’n gwybod hefyd y bydd y tîm yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’m cadw’n fyw.”
Dywedodd Jess Turner, Rheolwr Rhaglen Gwasanaethau Ymarfer Clinigol Myeloma UK: “Mae Myeloma yn ganser heriol sy’n dod yn ôl dro ar ôl tro a gall wrthsefyll triniaethau wrth i amser fynd yn ei flaen, felly mae gallu bod yn rhan o dreialon clinigol yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i fywydau cleifion. Mae ymdrechion cyson y tîm i sicrhau bod ganddyn nhw’r cyffuriau arbrofol diweddaraf, mwyaf effeithiol, yn arbennig, ac yn rhoi pob cyfle i gleifion fedru rheoli eu canser.
“Mae’r staff hefyd yn gwybod yn iawn y gall cyfnodau hir o driniaeth ddwys gael effaith fawr ar gyrff cleifion yn enwedig y bobl hynny sy’n byw’n bellach o’r ysbyty, ac maen nhw’n gweithio’n agos gydag ysbytai cymunedol i helpu cleifion i gael triniaeth yn agosach i’w cartrefi, lle bo modd gwneud hynny.
“Mae gallu cyflwyno’r wobr hon i Ysbyty Gwynedd ar ben-blwydd ein helusen yn 25 oed yn gwneud yr achlysur yma hyd yn oed yn fwy arbennig ac mae’n dangos y cynnydd aruthrol sydd wedi’i wneud wrth drin myeloma.”