Mae pencampwr iechyd deintyddol yng nghartref preswyl yn Llangollen yn rhoi gwên ar wyneb preswylwyr diolch i gymorth gan dîm Gwasanaeth Deintyddol Cymuned y Bwrdd Iechyd.
Mae Tracey Lloyd, pencampwr Gwên am Byth, sy'n gweithio yng nghartref preswyl Llangollen Fechan, yn helpu preswylwyr i wella iechyd eu cegau a'i gynnal ar ôl cwblhau hyfforddiant gan y tîm iechyd deintyddol.
Mae'r Rhaglen Gwên am Byth yn golygu bod gofalwyr yn cael hyfforddiant mewn iechyd y geg, gan helpu i breswylwyr yn y cartref i aros ar y blaen â'u hylendid deintyddol.
Mae'r hyfforddiant yn helpu staff mewn cartrefi gofal a phreswyl i rannu arferion iechyd y geg da i breswylwyr. Mae'r hyfforddiant hefyd yn eu helpu i adnabod arwyddion problemau iechyd y geg posibl megis pydredd dannedd, problemau â'r deintgig, neu ganser y geg hyd yn oed.
Mae ymchwil hefyd yn dangos fod gwell iechyd y geg yn gallu arwain at fwy o hyder a lleihad mewn unigedd cymdeithasol. Mae hylendid y geg gwael hefyd yn gysylltiedig â risg cynyddol o glefyd y galon, endocarditis, atal strôc, arthritis rhewmatoid a chyflyrau’r ysgyfaint.
Yn Llangollen Fechan, mae Tracey wedi cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod iechyd y geg cleifion yn y cyflwr gorau.
Yn dilyn hyfforddiant gan Wasanaeth Deintyddol Cymuned Sir Ddinbych, mae'n awr yn trosglwyddo ei harfer da â gofalwyr eraill yn y cartref.
Dywedodd Angela Walmsley, Addysgwr Iechyd Deintyddol ar gyfer ardal Sir Ddinbych: "Mae ymdrechion Tracey wedi bod yn anhygoel.
"Mae bob amser yn rhoi 110 y cant, yn dod i mewn ar ddyddiau y mae i ffwrdd o'r gwaith i gyfarfod â ni, mae'n enghraifft wych o sut mae cael pencampwr hylendid y geg mewn cartref gofal yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i breswylwyr.
"Mae'n awr yn rhannu'r hyfforddiant rydym wedi ei ddarparu ag aelodau eraill o staff yma, ac mae'r tîm wedi gwneud ymrwymiad gwych i hyfforddi pawb yma mewn hylendid y geg erbyn 2020."
Mae'r cynllun wedi golygu bod staff mewn 119 cartref preswyl yng Ngwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam wedi cael hyfforddiant, yn ogystal â nifer o leoliadau eraill yng Ngwynedd a Sir y Fflint.
Dywedodd Tracey: "Roedd y gwaith papur a’r hyfforddiant yn syml i'w cwblhau, ac mae ein preswylwyr yn awr yn gweld y manteision o hylendid y geg gwell.
"Rydym yn awr yn hyfforddi aelodau eraill y tîm yma yn awr, ac yn gwella bob amser. Mae gennym fwy o waith i'w wneud, ond rydym yn gwybod y bydd yn helpu'r holl breswylwyr eraill yma."
Dywedodd Sian Chelton, Rheolwr Hyrwyddo Iechyd Deintyddol: "Mae enghreifftiau fel Llangollen Fechan yn dangos pa mor bwysig ydi cynlluniau megis Gwên am Byth, i gefnogi hylendid y geg da ymysg grŵp o unigolion a oedd yn draddodiadol yn anodd eu cyrraedd.
"Mae canolbwyntio ar hylendid y geg yn darparu ystod o fanteision iechyd, yn cynnwys gwell maeth, osgoi haint y geg ac osgoi'r risg o gymhlethdodau megis niwmonia anadlol.
"Ond yr un mor bwysig mae'r effaith gymdeithasol o gael dannedd gwell, cryfach. Mae hyder cynyddol sydd gan breswylwyr cartref gofal o ganlyniad i hylendid gofal gwell yn helpu i fynd i'r afael ag unigedd a heriau o ran cyfathrebu, sydd yn ei dro yn gwella eu lles meddyliol a chymdeithasol.