18.03.22
Llwyddodd cerddor ifanc a gafodd driniaeth arloesol ar gyfer Covid-19 mewn ysbyty yn Llandudno, i daro tant yn ystod ymweliad diweddar gweinidog iechyd Cymru.
Roedd Luca Bradley, 22 oed o Landyrnog yn un o’r cleifion cyntaf yng Nghymru i elwa ar arllwysiad o Sotrovimab - gwrthgorff monoclonaidd niwtraleiddio (nMAB).
Mae’n driniaeth newydd i’r rhai sydd ag imiwnedd gwan ac sy’n dal Covid-19. Mae’n rhaid ei roi o fewn pum diwrnod o gael prawf PCR positif.
Mae’r swît fewnwythiennol (IV) yn Llandudno wedi darparu dros 100 o driniaethau ac mae mwy na 155 o driniaethau wedi’u dosbarthu ar draws gogledd Cymru ers Rhagfyr 16.
Gwnaeth y gofal a dderbyniodd Luca gan brif nyrs y ward, Corinne Hocking a’i staff argraff ddofn ar Luca a aned gyda Syndrom Down. Gofynnodd a gâi o chwarae un o hoff ganeuon Corinne gan The Beatles i ddweud diolch wrthi.
Gyda’i gyfaill a’i athro cerdd, Ben McLellan, chwaraeodd Luca ‘Blackbird’ i Corinne a llwyddodd hefyd i chwarae datganiad byrfyfyr o ‘Here Comes the Sun’ i‘r gweinidog Eluned Morgan AS.
Meddai Corinne: “Cefais fy syfrdanu gan y gân chwaraeodd Luca – roedd yn chwarae o’r galon ac roeddwn dan deimlad. Canodd Luca a’i ffrind Ben, yn fendigedig.
“Gwnaeth y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu yn Llandudno a’r gwasanaeth nMAB argraff fawr ar y gweinidog. Dywedodd y byddai’n hoffi gweld cynllun tebyg drwy Gymru gyfan – am ganmoliaeth.
“Roedd Luca yn seren ac roeddwn i’n ddiolchgar dros ben. Mae’n foment na fyddaf byth yn ei hanghofio – roedd mor arbennig.”
Dywedodd Pip, mam Luca bod ei mab cerddorol “wrth ei fodd” yn gweld Corinne a’i thîm eto.
Meddai: “Roedd Luca mor falch o gael mynd i weld Corrine i ddiolch iddi am yr hyn roedd hi a’i thîm wedi’i wneud drosto.
“Roedd hi mor braf gwneud rhywbeth i’r tîm ac i’r staff ar ôl yr hyn maen nhw wedi’i wneud i bawb.
“Dim ond oherwydd yr hyn roedd y tîm wedi’i wneud , roedden ni’n gallu bod yno. Mae Luca’n fwy na bodlon siarad am ei brofiadau os yw’n helpu pobl eraill ac roedd y gweinidog yn neis iawn.”
Mae’n debyg bod Mrs Morgan wedi gweld yr ymweliad â’r ward “yn ddiddorol iawn” a chafodd hefyd daith o amgylch y Gwasanaeth Pontio.
Y syniad yw bod cleifion sydd â phecyn gofal yn ei le, yn dod o safleoedd aciwt i Ysbyty Llandudno am hyd at 96 awr.
Daeth ymweliad y gweinidog ar ôl taith i Ysbyty Gwynedd i weld y cynorthwyydd robotig newydd a fydd yn cynorthwyo gyda rhai llawdriniaethau canser cymhleth.
Yr uned ym Mangor yw’r un gyntaf yng Nghymru. Bellach, ni fydd rhaid i gleifion o’r ardal deithio i Loegr i gael eu llawdriniaethau drwy gymorth robot.