29/03/2021
Mae sefydliadau a busnesau Wrecsam wedi rhoi pecynnau rhoddion i staff iechyd meddwl sydd wedi'u lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Cafodd Hugs for Heroes ei ffurfio ym mis Ionawr 2021 gan grŵp o fusnesau ac unigolion o Wrecsam i roi pecynnau rhoddion i staff yn ystod y pandemig. Y mis hwn, dewisiodd Hugs for Heroes roi eu pecynnau rhoddion diweddaraf i Heddfan, uned yn Ysbyty Maelor Wrecsam sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl y GIG.
Nod y grŵp yw rhoi rhodd i bob un o'r 2,500 aelod staff ysbyty sy'n gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam gyda'r nod o wella moral a dangos gwerthfawrogiad yn ystod y pandemig. Mae'r pecynnau rhoddion yn cynnwys eitemau i helpu staff fynd drwy'r dydd yn cynnwys eli dwylo, siocled poeth, pethau da, bariau grawnfwyd, cylchgronau a chardiau diolch wedi'u dylunio'n arbennig.
Dywedodd Kelly Griffiths, Rheolwr Safle Clinigol Gofal Llym: "Roedd y pecynnau'n hyfryd ac annisgwyl iawn. Mae ein staff yn parhau i weithio’n galed iawn ac yn dal i fod dan bwysau’r pandemig, felly roedd yn braf cael y rhoddion, a oedd yn hollol annisgwyl. Mae newidiadau mawr wedi bod i’n huned ers i'r pandemig ddechrau, a dim ond yn awr yr ydym yn dechrau gweld staff yn mynd yn ôl i'r swyddi yr oeddent yn eu gwneud ac yn eu caru cynt, felly roedd hyn yn hyfryd.
"Mae'r rhoddion hyn yn golygu cymaint i'r staff yma, maent wedi dod â gwen i wyneb pawb pan rydym wedi bod yn eu dosbarthu o gwmpas y wardiau, mae'n dangos cymaint y mae'r gymuned yn gwerthfawrogi'r gwaith yr ydym yn dal yn ei wneud, nid yn unig gan yr uned iechyd meddwl ond gan ysbyty cyffredinol hefyd. Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sy'n rhan o’r prosiect, gan ei fod yn golygu cymaint i ni eich bod yn dal i feddwl amdanom."
Dywedodd Ruth Rees, o Martin Rees Jewellers and Prawnbrokers yn Wrecsam, a ffurfiodd Hugs for Heroes: "Mae gan lawer o fy staff aelodau teulu neu ffrindiau sy'n nyrsys, a gan fod derbyniadau i'r ysbyty wedi cynyddu'r llynedd, roeddem yn mynd yn fwy a mwy pryderus am y llwyth gwaith anghredadwy yr oedd staff gofal iechyd yn ei wynebu.
"Cefais gwsmer yn ffonio ein siop, i ymddiheuro am anghofio i adnewyddu ei benthyciad ar amser - eglurodd ei bod yn nyrs gofal dwys, a oedd wedi bod o dan lawer o bwysau. Wrth gwrs, dywedais wrthi ei fod yn hollol iawn - a bu i mi ei chanmol a diolch iddi am yr hyn y mae hi a'i chydweithwyr yn ei wneud. Dechreuodd grio, a wnaeth i mi sylweddoli cymaint o straen y mae'r bobl anhygoel hyn o dano, a sut all dangos ychydig o werthfawrogiad wneud cymaint o wahaniaeth."
Yn fuan wedyn ffurfiwyd tîm cyfan i greu Hugs for Heroes a phenderfynwyd ar y nod o anfon pecynnau rhoddion i'r staff i gyd.
Dywedodd Ruth: "Y peth gorau am y prosiect yw'r ffordd y mae pawb yn y tîm wedi mwynhau bod yn rhan ohono - mae hen ffrindiau wedi dod yn agosach, a ffrindiau newydd wedi'u creu. Mae wedi bod yn braf cael rhywbeth positif i ganolbwyntio arno yn ystod dyddiau oer a digalon y gwaharddiad symudiad.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Go Fund me Hugs for Heroes , neu chwiliwch am ‘Hugs for Heroes Wrexham’ ar Facebook.
Mae'r rheiny sy'n rhan o’r prosiect yn cynnyws, Josh Green o JDG Creative; Jacqui Blore o Piccolos Music and The Story Teller; Piccolos Crafts; Julia Chaplin o Ellis Chaplin Limited; Joss Prince o What A Sweet Shop ; Ruth Rees, Becca Martin a Lisa McGarret o Martin Rees Jeweller Pawnbroker; Emma Jones o Emma’s Miniature Gifts; Morrisons, Kellogg's, Bobbi Cockcroft, a'r artist lleol Emma Parish.