Mae mam a gafodd driniaeth ar gyfer canser y fron yn ystod y pandemig COVID-19 yn annog eraill i beidio ag osgoi triniaeth yn ystod yr adeg ansicr hon.
Sylwodd Hayley Blackwell, 48 oed, a mam i un plentyn, ar newid yn siâp ei bron yn ystod anterth y pandemig ym mis Mai, a chysylltodd â'i Meddyg Teulu ar unwaith.
Cafodd y Dirprwy Brifathro yn Ysgol Eirias ym Mae Colwyn ei chyfeirio at Glinig Mynediad Cyflym y Fron yn Ysbyty Llandudno am asesiad.
Dywedodd: "Sylwais ar newid yn siâp fy mron ac wrth i mi yrru yn y car clywais hysbyseb ar y radio yn annog pobl i beidio ag anwybyddu symptomau neu newidiadau i'r corff sy'n peri pryder yn ystod y pandemig.
"Ni wnes feddwl ddwywaith cyn ffonio fy Meddyg Teulu ac yn dilyn sganiau ac asesiadau yn Llandudno cefais wybod fod canser arnaf ar 13 Mai, ac roedd angen iddynt dynnu'n lwmp roeddent wedi'i ganfod yn gyflym.
"Pythefnos yn ddiweddarach roeddwn yn cael fy lwmpectomi yn Ysbyty Glan Clwyd ble cynhaliwyd biopsi o'r chwarennau lymff a darganfuwyd canser - rwy'n cofio'n diwrnod yn dda gan fy mod yn eistedd y tu allan i'r ysbyty yn y car gyda fy ngŵr a fy mab ifanc. Rhoddais gusan ffarwel i fy hogyn bach a dywedais y byddwn yn ei weld yn hwyrach ymlaen.
"Cefais fy ail lawdriniaeth bythefnos yn ddiweddarach ar 15 Mehefin ble tynnwyd fy chwarennau lymff, sydd yn awr yn glir.
"Y diwrnod hwnnw rhoddais gusan ffarwel i fy hogyn bach eto, ac ar yr un pryd roeddwn yn teimlo'n lwcus iawn, yn lwcus fod y canser wedi cael ei ddarganfod mewn pryd."
Mae Hayley yn awr yn dechrau triniaeth cemotherapi ac mae'n dymuno diolch i'r timau ysbyty sydd wedi gofalu amdani.
"Er gwaethaf effaith y COVID-19 ar y GIG, cefais driniaeth, sylw a gofal o'r radd flaenaf. Nid oes gennyf unrhyw beth drwg i'w ddweud am unrhyw weithred nac unigolyn oedd yn rhan o fy ngofal.
"Cefais fy synnu pa mor gyflym roedd popeth yn datblygu a gwnaeth fy llawfeddyg Mr Khattak a'i dîm argraff fawr arnaf, nid yn unig wnaethant feddwl am achub fy mywyd ond fe wnaethant hefyd ystyried beth fyddai'r effaith seicolegol hir dymor pe byddwn yn cael mastectomi.
"Mae pawb yn wahanol ac mae bob claf yn cael gofal unigol ond rwyf wir yn ddiolchgar bod hyn wedi cael ei ystyried fel rhan o fy nghynllun triniaeth," ychwanegodd.
Dywedodd Mr Ilyas Khattak, Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Llandudno, fod gwasanaeth y fron wedi parhau i gael ei gynnal drwy gydol y pandemig i sicrhau bod cleifion yn parhau i gael gofal prydlon.
Dywedodd: "Penderfynwyd yn gynnar yn ystod y pandemig y byddai llawdriniaethau a chlinigau canser y fron yn parhau, er, oherwydd yr ymbellhau cymdeithasol, roedd yn rhaid i ni newid y ffordd rydym yn darparu ein clinigau.
"Mae'r staff i gyd yn awr yn gwisgo PPE ac mae gennym glinigau wedi'u haddasu fel ein bod yn gweld llai o gleifion ym mhob sesiwn fel ein bod yn gallu cadw pobl mor ddiogel â phosibl.
"Rydym yn blaenoriaethu ein cleifion sydd â risg uchel, sydd wedi cael diagnosis neu sy'n debygol o gael diagnosis canser, ond bydd y rhai sydd â symptomau sy'n peri pryder yn cael eu gweld, nid ydym yn anghofio neb.
"Rwy'n falch iawn o'r ffordd mae ein tîm wedi gweithio dros y misoedd diwethaf, mae bob un yn unigolyn ymroddedig ac mae pawb wedi gweithio'n dda gyda'i gilydd.
"Rydym wedi gallu llwyddo i barhau gyda'n rhestrau theatr yn wythnosol ac rwy'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth y timau rheoli yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd am eu cefnogaeth gyda hyn.
"Rydym yn falch iawn o glywed adborth mor gadarnhaol gan Hayley ac yn dymuno'n dda iddi gyda'i hadferiad."
Mae Hayley, sydd ar fin dechrau ei chwrs o gemotherapi i ddileu unrhyw gelloedd canser sydd ar ôl a lleihau'r clefyd rhag dychwelyd, yn annog eraill i beidio ag anwybyddu symptomau sy'n peri pryder yn ystod y pandemig.
"Roeddwn yn gwybod fod angen i mi fynd i weld fy Meddyg Teulu, er fy mod yn meddwl mae'n siŵr nad oedd dim byd o'i le ac os oedd yn rhywbeth difrifol na fyddai lle yn yr ysbyty oherwydd y sefyllfa barhaus.
"Mae'n bwysig iawn bod unrhyw un sydd wedi sylwi ar rywbeth gwahanol am eu bronnau neu wedi darganfod lwmp yn siarad â'u Meddyg Teulu ar unwaith.
"Peidiwch ag anwybyddu'r symptom lleiaf. Peidiwch â gadael unrhyw beth i siawns. Peidiwch â meddwl bod y COVID-19 yn cymryd drosodd y GIG a bod yr hyn rydych yn ei brofi yn dod yn ail i hynny," ychwanegodd.