Mae glanhawr ysbyty wedi cael gwobr arbennig am ei gwaith ‘eithriadol’ yn ystod y pandemig COVID-19.
Cafodd Diana Rooney, Cynorthwyydd Domestig yn Uned Iechyd Meddwl Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd ei henwebu am wobr Seren Betsi gan ei chydweithwyr, a oedd yn ei chanmol am fynd ‘gam ymhellach’ i’w chleifion.
Mae’r wobr fisol yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff a gwirfoddolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cyflwynwyd y wobr i Diana, sydd wedi gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd ers dros 30 mlynedd, gan ei chydweithwyr yn ystod seremoni annisgwyl.
Dywedodd Sarah Caunce, Rheolwr Ward Dinas: “Mae gan Diana berthynas wych â’r holl staff ac mae’n gwneud yn dda â chleifion ar y ward.
“Mae’n cymryd rhan yn ein sesiynau datblygu ward ble rydym yn trafod sut i gefnogi rhai o’n cleifion mwyaf bregus.
“Mae hi’n agos atoch ac mae cleifion yn teimlo y gallant fynd ati am sicrwydd a sgwrs gyfeillgar.
“Does dim byd yn ormod i Diana – mae hi’n unigolyn eithriadol ac mae’r ymdrech mae hi’n ei roi yn berffaith. Mae’n aelod gwerthfawr a hanfodol o’n tîm yn Uned Ablett.”
Ychwanegodd Hannah Roberts, Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd ar Ward Dinas: “Yn ystod y pandemig COVID-19 mae hi wedi mynd gam ymhellach i sicrhau bod pob man yn hollol lân a bod y ward yn ddiogel.
“Mae hi bob amser yn cymryd amser ychwanegol i ddiheintio arwynebau yn drylwyr ac mae’n wybodus iawn am bob agwedd o reoli haint.”
Dywedodd Diana: “Cefais fy synnu fy mod wedi cael fy enwebu hyd yn oed, felly mae ennill y wobr wedi bod yn rhyfeddod llwyr.”
Dywedodd Rod Taylor, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau: “Mae ein staff Domestig yn chwarae rôl hanfodol i sicrhau y gallwn ddarparu gofal diogel ac effeithiol, ac maen nhw wedi bod yn allweddol yn ein hymateb i’r pandemig COVID-19.
“Ar ran y Bwrdd, hoffem longyfarch Diana am y wobr gwbl haeddiannol hon a diolch i’n holl staff Domestig am eu gwaith caled ac ymroddiad parhaus.”