Mae fferyllydd o Ysbyty Maelor Wrecsam, a ddisgrifiwyd gan ei chydweithwyr fel 'athrawes wrth reddf', wedi derbyn gwobr arbennig.
Gwobrwywyd y wobr 'Athro Clinigol y Flwyddyn', a noddwyd gan Brifysgol Bangor, i Holly Stokes yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni.
Mae Holly yn mynd uwchlaw yn ei rôl, drwy roi gwersi ychwanegol, rhoi adborth gwerthfawr, newid ei harddull addysgu er mwyn gweddu i'w chynulleidfa a gwrando ac ymateb yn gadarnhaol i adborth. Mae'n adolygu ac yn asesu sut mae'n darparu ei deunyddiau hyfforddi yn ogystal â'i dulliau asesu yn rheolaidd.
Yn awr mae'n astudio at lefel diploma gyda'r bwriad o wneud ei Gradd Meistr y flwyddyn nesaf ar ôl cwblhau Tystysgrif mewn Addysg Feddygol.
Dywedodd Karen Pritchard, Fferyllydd Arweiniol Diogelwch Cleifion ar gyfer Ardal y Dwyrain BIPBC, a enwebodd Holly ar gyfer y wobr: "Mae Holly wedi'i geni i addysgu - mae hyn yn cael ei atseinio gan adborth yr ysgol feddygol swyddogol lle mae Holly yn cael ei chymeradwyo'n rheolaidd hefyd.
"Yn ystod ymweliadau Monitro Ansawdd ac mewn adroddiadau lleoliad mae gan ein myfyrwyr y cyfle i enwi gweithwyr proffesiynol y maent wedi dod ar eu traws sydd wedi gwella'r lleoliad yn sylweddol fel profiad dysgu ac mae Holly wedi cael ei henwebu sawl gwaith gan y myfyrwyr.
"Yr effaith y mae’n ei gael ar ofal cleifion yw gwell sgiliau rhagnodi sydd o fudd i'r sefydliad gan y bydd llawer o'r myfyrwyr hyn yn cael eu cyflogi gan BIPBC fel meddygon iau yn y dyfodol.
"Mae Holly wedi bod yn ganolog o ran trefnu a hwyluso ymarferiad senario ar alwad i fyfyrwyr meddygol wrth iddynt baratoi at eu rôl fel meddygon iau hefyd, sydd yn mynd uwchlaw ei rôl.
“Darparodd Holly hyfforddiant rhagnodi ymarferol dwys i fyfyrwyr meddygol y flwyddyn olaf. Dangosodd y canlyniadau bod yr holl fyfyrwyr wedi dangos gwelliant mawr yn eu hyder a'u gallu. Cyflwynwyd y gwaith hwn yn y gynhadledd STEME (Rhannu Rhagoriaeth Hyfforddi mewn Addysg Feddygol) ac enillodd gwobr yr ail orau yn ei gategori."
Mae'r gwobrau, a noddwyd gan Centreprise International, yn dathlu cyraeddiadau arbennig staff y GIG ar draws Gogledd Cymru.
Dywedodd Jeremy Nash, Prif Weithredwr Centerprise International: "Roedd yn fraint cael bod yn brif noddwr yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Staff y Bwrdd Iechyd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Roedd y gwobrau'n gyfle gwych i gydnabod yr holl bobl anhygoel sy'n gweithio i’r GIG ar draws Gogledd Cymru.
“Mae Centerprise yn ymrwymedig i gefnogi'r gymuned Cymreig a'r GIG yn gyfartal. Rydym yn falch i gael ein cynrychioli yn y gwobrau, a oedd yn ddathliad gwych o ymdrechion ardderchog y Bwrdd Iechyd a'i staff ymroddedig."
Dywedodd Dr Lynne Williams, a gyflwynodd y gwobrau ar ran Prifysgol Bangor: “Roedd yn amlwg o enwebiad Holly ei bod yn gofalu’n fawr am y myfyrwyr y mae’n cefnogi yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
“Dangosodd pob un o’r tri ymgeisydd a ddaeth i’r brig ymrwymiad amlwg i ddarparu hyfforddiant o ansawdd a datblygu sgiliau gweithwyr gofal iechyd yng Ngogledd Cymru.”