Neidio i'r prif gynnwy

Ewch am brawf er mwyn diogelu Ynys Gybi

21/03/2021

Mae holl drigolion a gweithwyr ar Ynys Gybi yn cael eu hannog i gymryd prawf Covid-19 wrth i ni ymateb o’r nifer cynyddol o achosion yn lleol.

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod cyfradd nifer yr achosion yng Nghaergybi ac Ynys Gybi yn sylweddol – sawl gwaith yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae’r Cyngor Sir, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid lleol, gan gynnwys y sector wirfoddol, i gymryd y camau sydd eu hangen i leihau graddfa’r lledaeniad a sicrhau fod nifer achosion yn lleihau.

Er bod cyfyngiadau yn cael eu llacio’n raddol yn genedlaethol, mae'r sefyllfa ar Ynys Cybi yn parhau’n ddifrifol iawn a bod angen glynu’n gaeth at y rheolau gofynnol - golchi dwylo, gwisgo masg a chadw pellter cymdeithasol. Mae profi cymunedol torfol yn gam pwysig tuag at adnabod cymaint o achosion positif a phosib all fod yn lledaenu’r feirws heb wybod ac atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.

Gyda 1 o bob 3 o bobl gyda Covid-19 ddim yn dangos unrhyw symptomau - mae pawb yn cael eu hannog i fynd am brawf hyd yn oed os nad ydynt yn dangos symptomau neu eisoes wedi derbyn y brechlyn. Fel hyn, gallwn atal y feirws rhag lledaenu a chychwyn codi cyfyngiadau yng nghynt.

Bydd rhaglen profi gymunedol cynhwysfawr yn cychwyn yfory (Dydd Sul, Mawrth 21ain) a bydd yn cynnwys profion ychwanegol ar gael i deuluoedd gyda phlant oed ysgol uwchradd; dosbarthu profion i gartrefi a sefydlu canolfan brofi cymunedol yng Nghanolfan Hamdden Caergybi'r wythnos nesaf.

Bydd y rhaglen brofi gymunedol yn cynnwys:

Canolfan profi Covid-19 ar gyfer preswylwyr sy'n arddangos symptomau: 

Os ydych chi'n dangos symptomau Covid-19 (gweler isod am symptomau) ewch am brawf, cyn gynted ȃ phosib os gwelwch yn dda, i’r ganolfan brofi galw-i-mewn a thrwy ffenestr y car sydd wedi'i leoli ym Maes Parcio Stanley Crescent, Caergybi.

Mae’r ganolfan brofi agor rhwng 8:00yb ac 8:00yh Dydd Llun – Dydd Sul. NID OES ANGEN GWNEUD APWYNTIAD.

Mae’n hanfodol eich bod chi a phawb yn eich cartref yn hunan-ynysu hyd nes y byddwch yn derbyn canlyniad eich prawf.

Rydym wedi ymestyn symptomau COVID-19 i gynnwys:

  • Twymyn / tymheredd uchel
  • Peswch newydd, parhaus (gyda chrachboer neu ddim)
  • Symptomau sy’n debyg i’r ffliw gan gynnwys rhai neu bob un o’r canlynol: poen cyhyrau, syrthni neu flinder, cur pen parhaus, trwyn yn rhedeg neu’n llawn, tisian parhaus, dolur gwddw ac/neu grygni, yn fyr o anadl neu’n gwichian
  • Synnwyr o arogl wedi newid neu ar goll neu yn yr un modd synnwyr blas wedi ei effeithio
  • Teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad gyda rhywun sydd wedi derbyn prawf COVID-19 positif
  • Dolur rhydd neu daflu fyny
  • Dylai unrhyw symptom newydd neu newid mewn symptomau yn rhywun sydd eisoes wedi derbyn prawf negyddol fod yn destun prawf newydd.

Gwasanaeth casglu prawf Covid-19 ar gyfer plant ysgol uwchradd (blynyddoedd 7 i 13) a’u cartrefi a swigen gartref

O yfory, Dydd Sul (Mawrth 21ain), bydd profion Covid-19 (profion LFD sydyn) ar gael i’w casglu ar droed neu mewn car o faes parcio Lower Hill Street, Caergybi.

Bydd y rhain yn benodol ar gyfer plant ysgol uwchradd (blynyddoedd 7 i 13) a’u swigen teulu (mae’n bosib y bydd plant blynyddoedd 10-13 eisoes wedi derbyn profion gan yr ysgol) nad ydynt yn arddangos symptomau Covid-19 ac am wneud prawf cyflym adref. Mae’r gwasanaeth yma hefyd ar gael i gartrefi a swigod gyda plenty mewn gofal plant, ysgol neu goleg.

NID OES ANGEN GWNEUD APWYNTIAD. Bydd y safle ar agor o 9.30yb – 4.30yp am wythnos. Nid yw’r safle yma ar agor i’r cyhoedd yn ehangach.

Os yw’r prawf cyflym LFD yn bositif, yna bydd rhaid i chi fynd i’r ganolfan brofi sydd wedi'i leoli ym Maes Parcio Stanley Crescent, Caergybi, mor fuan ȃ phosib, o fewn 24 awr, ar gyfer prawf er mwyn cadarnhad. Yn y cyfamser, dilyn hunan ynysu.

Pecynnau profi Covid-19:

O ddydd Llun (Mawrth 22ain), bydd pecynnau profi Covid-19 yn cychwyn cael eu dosbarthu i’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio fwyaf ar Ynys Cybi. Rydym yn annog pawb i gymryd y prawf ar ôl iddynt ei dderbyn (hyd yn oed os nad ydych yn dangos symptomau) Byddent yn cael eu casglu yn hwyrach ar gyfer eu cludo i’r labordai i’w dadansoddi.

Canolfan brofi gymunedol newydd Covid-19 ar gyfer preswylwyr nad ydynt yn arddangos symptomau

O ddiwedd wythnos nesaf (wythnos yn cychwyn 22ain Mawrth), bydd canolfan brofi gymunedol Covid-19 newydd yn weithredol yng Nghanolfan Hamdden Caergybi. Mae trigolion sydd ddim yn dangos symptomau Covid-19 yn cael eu hannog i gael prawf er mwyn atal lledaeniad pellach o’r feirws. Ni fydd rhaid i chi hunan-ynysu tra’n disgwyl eich canlyniad.

PEIDIWCH ag ymweld â'r ganolfan brofi gymunedol yng Nghanolfan Hamdden Caergybi os ydych chi'n arddangos symptomau Covid-19. Os oes gennych symptomau, ewch am brawf i’r ganolfan brofi galw-i-mewn a thrwy ffenestr y car sydd wedi'i leoli ym Maes Parcio Stanley Crescent, Caergybi.

Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, “Rydym i gyd yn bryderus am y cynnydd mewn achosion yng Nghaergybi ac mae angen gweithredu i ymateb fel cymuned i amddiffyn ein trigolion.”

 “Drwy brofi mwy o bobl, yn cynnwys y rhai heb symptomau, rydym yn gallu dod o hyd i fwy o achosion positif o’r firws a thorri’r gadwyn drosglwyddo.”

 “Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Ynys Môn ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi’r gwaith sylweddol hwn dros yr wythnosau nesaf ac annog cymaint o’n trigolion â phosibl i wneud eu rhan i geisio dwyn y firws hwn dan reolaeth.”

 Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae’r sefyllfa ar Ynys Gybi yn un difrifol. Mae’r data presennol yn dweud y cyfan. Mae’r feirws yn lledaenu o fewn y gymdeithas ac yn fygythiad sylweddol i iechyd pobl.”

 “Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol er mwyn cadw trigolion Caergybi ac Ynys Cybi yn ddiogel. Dyma’r brif flaenoriaeth yn y sefyllfa yma. Bydd profi cymunedol torfol yn ein helpu i ddeall faint o’r feirws sydd yn y gymuned a’r lefel o drosglwyddiad yno.” 

 Ychwanegodd, “Mae’n hanfodol bod pawb sydd yn byw neu’n gweithio ar Ynys Gybi yn cael prawf ac yn bwysicach byth ein bod ni gyd yn dilyn y rheolau er mwyn diogelu ein teuluoedd, ffrindiau a’r gymuned.”

  • Peidiwch â mynd i mewn i dai pobl eraill
  • Gweithiwch gartref os gallwch
  • Gwisgwch orchudd wyneb lle mae angen
  • Golchwch eich dwylo’n rheolaidd
  • Cadwch 2 fetr oddi wrth bobl sydd ddim yn byw gyda chi
  • Peidiwch â chasglu mewn grwpiau y tu mewn neu du allan - oni bai am aelodau eich cartref
  • Agorwch y ffenestri i adael awyr iach i mewn

Bydd rhagor o wybodaeth am y ganolfan profi gymunedol yng Nghanolfan Hamdden Caergybi yn cael ei rannu ar wefan y Cyngor Sir a’i gyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau nesaf.

Caiff y profi ei gynnal drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Sir Ynys Môn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr , Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gwirfoddolwyr lleol a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda chymorth logistaidd gan y Lluoedd Arfog.