Rhoi cleifion yn gyntaf fu ethos y tîm adferiad/PACU bob amser a gwnaeth gweithrediadau barhau ar ddechrau'r pandemig, er gwaetha'r ffaith bod llawer o staff wedi cael eu hadleoli, heb gwyno.
Cafodd gwasanaeth PACU newydd ei sefydlu ynghanol pandemig Covid-19 er mwyn gwella dulliau monitro cleifion ar ôl llawdriniaeth. Mae'r adran hefyd wedi gwella cyfathrebu â chlinigwyr a phartneriaid ar draws yr ysbyty ac mae'n parhau i chwilio am ffyrdd o wella gwasanaethau.
Mae'r gwasanaeth PACU newydd wedi arbed llawer o welyau gofal critigol rhag cael eu defnyddio'n ddiangen, sy'n golygu eu bod yn rhydd ar gyfer cleifion sydd ag anghenion mwy brys a chleifion sy'n ddifrifol wael. Mae llai o lawdriniaethau dewisol wedi cael eu canslo mewn achosion lle na fyddai unrhyw wely HDU wedi bod ar gael yn flaenorol. Erbyn hyn, gallant aros yn PACU a dychwelyd at y ward y bore canlynol.
Mae aelodau sefydledig o'r tîm wedi croesawu aelodau newydd gan gynnig profiad ehangach o'r ysbyty, gan ganiatáu iddynt ddod yn rhan o grŵp hynod fedrus ac ymrwymedig.
Maent wedi dangos cymhelliant, egni, gwytnwch a dyfeisgarwch, gan weithio mewn meysydd eraill fel ITU, trefnu hyfforddiant uniongyrchol ac yn helpu gyda'r rhaglen frechu.
Maent wedi profi eu bod yn dîm hynod gefnogol a pharod eu cymorth.