29.04.22
Caiff diwedd Ramadan ei nodi ym mhedwar ban byd dros benwythnos Gŵyl y Banc, pan fydd mis Islamaidd ymprydio a myfyrio ysbrydol unigol a phersonol yn dod i ben.
Mae ein staff a gweithwyr gofal iechyd allweddol Mwslimaidd yn edrych ymlaen at nodi Eid Al-Fitr mewn ffordd fwy traddodiadol eleni yn dilyn dwy flynedd o gyfyngiadau oherwydd COVID-19.
Mae gŵyl Eid yn gweld teuluoedd yn dod at ei gilydd i ddathlu cyflawniad y mis hwn. Yn draddodiadol, mae'n cynnwys dod ynghyd, cael prydau bwyd ac ymweld â theuluoedd a ffrindiau, yn ogystal â mynd i weddïau arbennig mewn mosgiau.
Mae Dr Imran Sharif, Meddyg Iau sy'n gweithio ar Ward Glaslyn yn Ysbyty Gwynedd, yn edrych ymlaen at groesawu ei deulu i Fangor am y tro cyntaf ar gyfer y dathliadau.
Dywedodd: "Rydw i wedi bod yn ymprydio ers i mi fod yn blentyn bach ac mae rhywun yn dod i arfer â hynny ond gall ychydig ddiwrnodau cyntaf ymprydio fod yn anodd wrth i chi ddod i arfer â mynd heb fwyd.
"Yn ystod yr ympryd, byddaf yn sicrhau fy mod i'n cymryd digon o ddiod a bwyd yn ystod Suhoor (pryd o fwyd cyn y wawr) ac Iftar (pryd o fwyd ar ôl i'r haul fachlud) er mwyn fy nghadw i fynd yn ystod oriau gwaith, ond, mae'n anodd weithiau pan fyddaf yn gweld fy nghydweithwyr gyda choffi amser cinio!
"Er bod yna adegau anodd, mae fy ffydd yn fy ngadw i fynd a dyna'r rheswm pam rydym ni'n ymprydio yn ystod Ramadan. Mae hefyd yn braf cael cefnogaeth gan fy nghydweithwyr nad ydynt yn Fwslimiaid a phan fyddaf yn ymprydio, nid oes angen i mi boeni am gymryd egwyl ginio a gallaf sicrhau fy mod i'n canolbwyntio ar fy llwyth gwaith trwy gydol y dydd heb i ddim dorri ar draws."
Gwnaeth Dr Sharif, sy'n hanu o Falaysia'n wreiddiol, adleoli i Ogledd Cymru gyda'i wraig yn 2018 ac erbyn hyn, mae'n edrych ymlaen at ei ddathliadau Eid cyntaf gyda'i deulu gartref ym Mangor.
"Dros y ddwy flynedd diwethaf oherwydd y cyfyngiadau, nid ydym wedi gallu dathlu Eid yn y ffordd arferol felly mae'n gyffrous iawn i mi gael croesawu fy rhieni am y tro cyntaf ac i rannu'r dathliadau gyda nhw," ychwanegodd.
Dywedodd Sue Green, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Hoffwn ddymuno Eid hapus iawn i bob un o'n staff a'n cymunedau Mwslimaidd - rydw i'n gobeithio y byddwch chi gyd yn mwynhau'r dathliadau!"