Mae cynlluniau ar gyfer uned iechyd meddwl newydd i gleifion mewnol yn Sir Ddinbych yn awr ar gael i’w gweld i’r cyhoedd.
Gwahoddir pobl i rannu eu hadborth ar gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer yr uned 63 gwely newydd ar safle Ysbyty Glan Clwyd, cyn iddynt gael eu cyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych ym mis Hyderf.
Er y pandemig COVID-19, mae’r Bwrdd Iechyd wedi parhau i weithio gyda’r partneriaid, BAM Construction a Gleeds, i ddatblygu uned cleifion mewnol newydd.
Bydd y cyfleuster newydd, a leolir yng nghefn safle’r ysbyty, yn darparu gofal iechyd meddwl llym i gleifion mewnol sy’n oedolion o Gonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Bydd yn cymryd lle’r gofal a ddarperir ar hyn o bryd yn Uned Ablett yr ysbyty, nad yw bellach yn addas i bwrpas.
Bydd yr uned newydd yn darparu adeilad modern gyda mwy o welyau iechyd meddwl a chyfleusterau llawer gwell i staff a chleifion.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys cyflwyno Uned Asesu Dementia newydd, sy’n ymgorffori’r dystiolaeth ddiweddaraf ar amgylcheddau sy’n cefnogi dementia, i gymryd lle’r gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd yn Uned Bryn Hesketh ym Mae Colwyn. Bydd hefyd yn cynnwys ardal asesu pwrpasol mewn argyfwng.
Wedi’i adeiladu at y safonau effeithlonrwydd egni uchaf - bydd y datblygiad yn helpu i gefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfwng hinsawdd.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn bwriadu adeiladu maes parcio aml-lawr newydd ar safle Glan Clwyd hefyd i wella’r ddarpariaeth parcio ceir yn yr ysbyty ac yn archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno pwyntiau gwefru ceir trydanol.
Dan y cynlluniau, sy’n amodol ar ganiatâd cynllunio gan Gyngor Sir Ddinbych a chymeradwyaeth am gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd yr adeilad newydd wedi’i gwblhau erbyn 2024 a bydd yn costio oddeutu £64m.
Dywedodd Jill Timmins, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Ailddatblygiad yr Uned Ablett:
“Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi ymgysylltu’n sylweddol â phobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, y rheiny sy’n annwyl iddynt, ein staff ein hunain a’r rheiny o sefydliadau partner i helpu i roi gwybod am y cynlluniau cyffrous hyn. Mae hon yn bennod newydd ar gyfer gofal iechyd meddwl yn Ardal y Canol o Ogledd Cymru ac rydym eisiau i bobl leol deimlo’n falch o’r adeilad a’r gofal a ddarperir ohono.
“Ein uchelgais yw darparu uned iechyd meddwl sy’n addas i’r dyfodol ac yn darparu’r amgylchedd orau posibl i’r bobl leol i gefnogi eu hadferiad parhaus.
“Rydym yn awyddus i gael adborth gan unigolion ar draws siroedd Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint a byddwn yn annog iddynt fynd ar wefan y Bwrdd Iechyd i weld y cynlluniau a rhoi gwybod i ni beth yw eu barn.”
Croesawyd y cynlluniau gan Caniad, y sefydliad cymryd rhan i ofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl Gogledd Cymru, sydd wedi chwarae rôl allweddol yn y broses o ddylunio.
Dywedodd Peter Williams o Caniad:
“Mae gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth Caniad wedi bod yn rhan weithredol o’r broses o gynllunio’r adeilad newydd ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at y manteision y bydd yr uned newydd yn ei ddarparu i gleifion a staff.”
Mae’r cynlluniau i’w gweld ar hyn o bryd ar wefan BIPBC. Rydym yn annog unigolion i anfon adborth dros e-bost neu drwy gwblhau’r arolwg ar-lein.