Neidio i'r prif gynnwy

Dros £220,000 wedi ei roddi i brynu offer hanfodol yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae dros £220,000 wedi ei roddi i  Ysbyty Maelor Wrecsam tuag at offer hanfodol diolch i wirfoddolwyr Gwasanaeth Gwirfoddol Maelor.

Yn flynyddol, mae Gwasanaeth Gwirfoddol Maelor yn rhoddi arian a godwyd drwy eu caffi yn yr ysbyty tuag at brynu offer ychwanegol ar gyfer y staff.   

Mae'r arian wedi helpu i brynu eitemau megis peiriannau ECG ar gyfer yr Uned Dydd Cardioleg a sganiwr y bledren ar gyfer yr Adran Achosion Brys. 

Rhoddwyd dros £28,000 hefyd i'r Adran Trawma ac Orthopaedeg i brynu offer llawfeddygaeth adolygu clun newydd.

Er bod llawdriniaethau adolygu clun dewisol wedi eu gohirio oherwydd COVID-19, mae'r offer newydd yn gwella'r gofal i'r cleifion hynny sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty ac angen llawdriniaeth frys ar gyfer toriadau o amgylch eu clun newydd cyfredol.

Un o'r cleifion hynny oedd Sylvia Evans, o'r Wyddgrug, a syrthiodd yn ei chartref ac a oedd angen triniaeth frys i drwsio toriad ar ei chlun newydd.

Dywedodd: "Yn yr 1970au cefais ddwy glun newydd ac rwyf wedi bod yn ymdopi'n dda ond yn anffodus, syrthiais yn fy nghartref a chefais fy nerbyn i Ysbyty Maelor. 

"Roeddwn i mewn cymaint o boen a dywedwyd wrthyf y byddai angen llawdriniaeth ar fy nghlun dde i drwsio'r toriad.

"Roedd y driniaeth a gefais yn un gyflym iawn ac roeddwn yn teimlo'n llawer gwell ar ei hôl, rwy'n ddiolchgar iawn am y gofal a dderbyniais yn y Maelor, ni allaf eu canmol ddigon."

Dywedodd Mr Ibrahim Malek, Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopaedeg, bod cael yr offer ar gael yn barod wedi gwella profiad y claf ac wedi lleihau eu harhosiad yn yr ysbyty. 

Dywedodd: "Nid oedd gennym unrhyw offer adolygu clun arbenigol iawn sy'n ofynnol i gyflawni'r llawdriniaethau heriol hyn yn y Maelor cyn hyn.

"Fel arfer, byddem yn llogi'r offer gan gwmni pan fyddai eu hangen, a fyddai'n costio £1000 bob tro roedd eu hangen arnom ar gyfer y math yma o lawdriniaeth.

"Weithiau roedd yn rhaid i gleifion aros ychydig o amser i’r offer gyrraedd yr ysbyty cyn cael eu gwirio gan staff, eu dadheintio a sicrhau eu bod yn barod i’w defnyddio, neu roedd angen trosglwyddo'r cleifion i wahanol ysbytai yn bellach o’u cartref gan achosi mwy o oedi diangen cyn y driniaeth yn ogystal ag anghyfleustra i'w teulu.

"Mae'r mathau yma o doriadau yn hynod boenus felly mae'n bwysig bod ein cleifion yn cael eu trin cyn gynted â phosib. 

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Wasanaeth Gwirfoddol Maelor am y rhodd hael sy'n sicrhau bod cleifion yn cael eu llawdriniaeth yn brydlon gan leihau eu harhosiad yn yr ysbyty, sy'n ofnadwy o bwysig i ni yn ystod COVID-19.”

Oherwydd y pandemig, nid yw'r elusen yn gallu darparu eu gwasanaeth caffi yn yr ysbyty oherwydd y cyfyngiadau cyfredol ond maent yn gobeithio dychwelyd pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny. 

Dywedodd Nia Williams, Rheolwr Cymorth Partneriaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Unwaith eto, mae Gwasanaeth Gwirfoddol Maelor wedi cefnogi llawer o wahanol adrannau, gan brynu offer na fyddai'r Bwrdd Iechyd o reidrwydd wedi gallu eu cefnogi. 

"Mae hyn wedi cael effaith mor gadarnhaol ar ysbryd staff, ac mae'r gwahaniaeth i'r gwasanaethau a phrofiad y claf yn anhygoel.   Mae'r gwirfoddolwyr sy'n gwasanaethu'r MVS yn rhan o deulu Maelor, gwerthfawrogir y cymorth maent yn ei roi i'r ysbyty yn fawr iawn."