15/06/2022
Rydym yn falch o ymuno â digwyddiad cyntaf Diwrnod Dathlu Cenedlaethol Ystadau a Chyfleusterau’r GIG - ac i nodi’r cyfraniad enfawr a wnaed gan fyddin o arwyr cudd y GIG yng Ngogledd Cymru.
Mae mwy na 1,800 o bobl yn gweithio mewn rolau hanfodol i gynorthwyo ein hysbytai a safleoedd eraill i redeg yn esmwyth - yn cynnwys porthorion, cynorthwywyr domestig a chrefftwyr, gweithwyr golchdy ac arlwyo a llawer mwy.
Heddiw, rydym yn rhannu llond llaw o storïau - ond rydym yn gwybod bod yna lawer mwy o gyd-weithwyr ymroddedig, ymrwymedig ac ysbrydoledig ar draws ein rhanbarth.
Dywedodd Rod Taylor, cyfarwyddwr ystadau a chyfleusterau: "Allwn i ddim bod yn fwy balch i ddathlu’r ymdrech anferthol a wnaed gan bobl fedrus sy'n gweithio o fewn ein timau ystadau a chyfleusterau.
“Y rhain yw’r bobl sy'n cadw ein hysbytai i fynd: yn delio â miloedd o eitemau golchi bob diwrnod, yn bwydo miloedd o gleifion a staff, yn gwneud yn siŵr bod miloedd o eitemau o offer wedi'u harchebu a'u dosbarthu i'n wardiau. Maent yn trwsio pethau, yn gwneud yn siŵr bod pethau yn cyrraedd ble y mae angen iddynt fod, yn ein cadw'n ddiogel, yn cadw'n wardiau a'n hadrannau yn lân.
“Fe all eu rolau fod yn llai gweladwy - ond mae ein cleifion a'n holl ysbytai a gwasanaethau iechyd yn dibynnu ar eu gwaith caled.
“Fel llawer o gyd-weithwyr ar draws y bwrdd iechyd, maen nhw wedi ymateb i heriau enfawr dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf ac wedi gwneud gwahaniaeth anferth i'n hymateb i'r pandemig. Fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw am y cyfan y maen nhw yn ei wneud i gefnogi iechyd a lles pobl Gogledd Cymru.”
Mae ein porthorion yn rhan allweddol o'n tîm - yn cynorthwyo ein hysbytai i redeg yn esmwyth ac yn ymdopi â symud nwyddau hanfodol ar draws ein safleoedd. Ond maen nhw hefyd yn rhan amhrisiadwy o'r gofal rydym yn ei ddarparu, yn cynnig wyneb cyfeillgar a chlust i wrando i gleifion a all fod angen cefnogaeth ychwanegol.
Ymunodd Paul Conroy â'r tîm yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddiweddar yn dilyn 10 mlynedd o brofiad mewn rôl gyffelyb yn Swydd Gaerhirfryn. Mae'r cyn-blismon yn caru ei waith ac wrth ei fodd yn cwrdd â phobl.
“Fe allech feddwl ein bod ddim ond yn symud pobl a phethau o gwmpas, ond mae'n llawer mwy pwysig na hynny," meddai. "Mewn llawer o ffyrdd rydym yn un o wynebau'r GIG.
“Os oes rhaid i chi fynd â chlaf am sgan neu driniaeth, byddant yn gofyn a fydd o'n brifo, neu ba mor hir y gwnaiff gymryd.
“Rydw i bob amser yn ceisio siarad â'r cleifion, cyflwyno fy hun, canfod tir cyffredin a rhoi tawelwch meddwl iddynt. Fe allent fod yn bryderus, neu fe allent fod wedi bod yn aros am beth amser i gael eu gweld. Os galla i eu helpu nhw, yna rydw i’n teimlo bod gen i rywbeth i'w roi.
“Rydym yn delio â phobl sydd mewn sefyllfa anarferol - pobl sydd wedi cael damwain neu sydd ddim yn dda, efallai'n annisgwyl. Rydw i bob amser yn meddwl mai dyna beth yr hoffwn i bobl ei wneud i mi, neu i'm teulu."
⦿ Darllenwch mwy: Mae bwyd yr un mor bwysig â meddygaeth meddai pennaeth arlwyo Ysbyty Glan Clwyd
Mae'n hanfodol bod ein hardaloedd clinigol yn amgylcheddau diogel, felly mae ein staff domestig yn syml yn un o'r rhannau pwysicaf o'r tîm bwrdd iechyd.
Dywed y cynorthwywr domestig Karen Owen ei bod hi wirioneddol yn mwynhau ei gwaith yn cadw ein ward llawfeddygol Tegid yn Ysbyty Gwynedd yn "ddilychwin lân".
“Mae rhedeg y ward yn bwysig iawn i weithiwr domestig, rydym angen cynnal ein safonau - nid yn unig er mwyn y staff, ond y cleifion", meddai. "Mae'r cleifion yn cael blaenoriaeth.
“Dim ond gweithio fel tîm ydi o. Dydi o ddim yn weithiwr domestig yn unig, rydym yn deulu yma ar Tegid. Rydym i gyd yn tynnu gyda'n gilydd. Rydym wedi cael rhai adegau anodd oherwydd COVID - a rhai amseroedd trist - ond rydym i gyd wedi bod yno i'r gilydd.”
Canmolwyd Karen a'i chyd-weithwyr gan yr Wrolegydd Dr Ashok Bhuvanagiri.
“Mae Karen a'n staff domestig yn cadw ein wardiau yn lân iawn - sy'n helpu ar gyfer ein staff ac yn enwedig ar gyfer y cleifion," meddai.
“Maen nhw yn rhan hanfodol o'n rhwydwaith gwaith yn y wardiau. Diolch yn fawr iawn Karen - heb eich cymorth chi, allwn ni ddim mynd ymlaen i drin ein cleifion yn gywir."
Gyda dwsinau o adeiladau, a miloedd o ddarnau o offer achub bywyd ar draws ardal y bwrdd iechyd, mae'n hanfodol ein bod yn gallu galw ar dîm o grefftwyr medrus i helpu i gadw popeth mewn cyflwr da.
Mae'r plymiwr-ffitiwr Kev Jones wedi bod yn helpu i gadw Ysbyty Maelor Wrecsam a'i offer yn rhedeg ers mwy na saith mlynedd. Ond mae'n fwy na thapiau a thoiledau - mae Kev yn gwybod bod ein tîm ystadau gweithredoedd aml-bwrpas angen gallu troi eu llaw at unrhyw beth bron iawn ar fawr ddim rhybudd.
“Pan ddes i yma yn gyntaf..... does dim geiriau - achos bod y lle mor enfawr, mae rhywun yn meddwl ‘O’r nefoedd’, sut ydw i am wneud hynny, sut ydw i yn mynd i wneud y swydd?' meddai.
“Fe allech fod yn gweithio i fyny ar yr Uned Sterileiddio a Dadheintio Ysbyty ar y sterileiddiwr stêm, ac yna cewch alwad i fynd i unrhyw un o'r wardiau ac mae gennych beiriant mwydo wedi blocio, ac yna'r peth nesaf, mae theatr ar y ffôn gydag arweinwyr y tîm yn gofyn a allwch chi fynd i fyny i Theatr B neu Theatr A oherwydd nad yw'r uned trin aer yn gweithio....
“Ond rydych yn gweithio yn yr ysbyty achos eich bod eisiau darparu gwasanaeth i rywun. Dydych chi ddim yno i gael diolch - rydych yno i'w helpu nhw. Rydych yn teimlo ei fod yn werth chweil beth bynnag rydych chi'n ei wneud.”