Ar Ddydd Nadolig, bydd miloedd o'n staff yn parhau i weithio, gan dreulio tymor yr Ŵyl gyda'u cydweithwyr yn gofalu am gleifion a'r rhai sydd angen gofal brys.
Dyma ychydig o'r aelodau hynny o staff o ysbytai amrywiol ar draws Gogledd Cymru fydd yn gofalu am eraill ac yn cefnogi'r GIG ar Ddydd Nadolig.
Mae Paul Owens, Porthor yn Ysbyty Cymuned y Waun, yn gweithio ei sifft arferol rhwng 7am a 3pm ar Ddydd Nadolig ond bydd hefyd yn rhoi syrpreis i'r cleifion trwy ymweliad arbennig gan Siôn Corn.
Bydd Paul, sy'n gweithio yn Ysbyty Cymuned y Waun ers dros bum mlynedd, yn gwisgo siwt goch ar y diwrnod wrth ddosbarthu'r anrhegion, ac mae wedi gwneud hynny sawl gwaith dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn yr ysbyty.
Dywedodd: "Mae'r Nadolig yn ddiwrnod mor arbennig yn yr ysbyty, mae'n teimlo'n hollol wahanol, mae pawb yn mynd i'r afael â'r dasg dan sylw ac yn gwneud eu gwaith wrth wisgo hetiau Nadolig ac yn ysbryd yr Ŵyl, mae'n awyrgylch da.
"Mae'r cleifion bob amser yn mwynhau gweld Siôn Corn ac rydym yn rhannu'r anrhegion ac yn sgwrsio â'r holl gleifion."
"Ar fore'r Nadolig, byddaf yn cadw at fy arfer rheolaidd o godi am 4.30am er mwyn cyrraedd y gwaith erbyn 6.30am, a byddaf yn cario ymlaen gyda'm dyletswyddau, fel bob amser.
"Mae'r ysbyty yn cynnig cinio arbennig, ond gwna' i aros hyd nes i mi gyrraedd adref a chael cinio Nadolig gyda'm gwraig, ac fe wnawn ni agor anrhegion gyda'n gilydd os yw Siôn Corn wedi galw heibio’r tŷ."
Yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, mae Ysbyty Cymuned y Waun wedi cynnal amryw o ddigwyddiadau arbennig i gleifion a staff gan gynnwys canu carolau, perfformiad bale o'r Nutcracker ac maent wedi creu Groto Siôn Corn.
Mae Susan Griffiths yn Nyrs Staff Gymunedol yn Nhywyn ers dros chwe blynedd. Mae hi wrth ei bodd yn gofalu am gleifion yn eu cartrefi eu hunain ac yn cyfarfod â'u teuluoedd.
Mae Nyrsys Cymunedol yn aml yn gofalu am bobl am gyfnodau estynedig, maent yn dod i'w hadnabod nhw a'u teuluooedd ac yn meithrin cydberthynas, gan eu galluogi i ddarparu gofal nyrsio cyfannol effeithiol.
Dywedodd: "Mwynheais weithio ar Ddydd Nadolig mewn ysbytai yn y gorffennol gan fod pawb wedi gwneud ymdrech arbennig i fod yn hapus ac i fwynhau eu hunain.
"Trwy weithio ar Ddydd Nadolig eleni, rydw i'n falch o allu rhoi cymorth i gleifion trwy ddarparu gofal nyrsio yn eu cartrefi gyda'u teuluoedd o'u cwmpas.
"Yn aml, mae'n adeg anodd i lawer o'n cleifion oherwydd eu cyflyrau meddygol.
"Os gallaf helpu i leddfu pryderon cleifion, trwy roi cymorth iddynt o ran eu hanghenion nyrsio i aros gartref, bydd hyn yn werth chweil iawn.
"Rydw i'n siŵr y bydd pawb yn falch o'm gweld i ar Ddydd Nadolig ac rydw i'n ddiolchgar am y gofal a'r cymorth y gallwn eu darparu fel gwasanaeth.
Mae Rebecca a Richard Griffiths sy'n frawd a chwaer yn gweithio fel Cynorthwywyr Domestig yn Ysbyty Gwynedd.
Ymunodd Richard â Ward Aran ar ddechrau'r flwyddyn ar ôl gweithio ar y wardiau sy'n ymwneud yn unswydd â gofalu am gleifion COVID yn ystod y pandemig.
Dywedodd: "Rydw i wir yn mwynhau fy swydd, mae gen i grŵp gwych o gydweithwyr ar Ward Aran ac y tu hwnt i'm dyletswyddau arferol, rydw i'n hoffi helpu lle bo modd trwy sgwrsio â'r cleifion.
"Rydw i wedi gweithio ar eithaf tipyn o Ddyddiau Nadolig gan fy mod i wedi gweithio’n flaenorol yn y Tîm Arlwyo yn Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon.
"Rydw i'n edrych ymlaen at fod ar sifft ac at dreulio'r diwrnod gyda'm cydweithwyr a'r cleifion - dylai fod awyrgylch braf iawn yno."
Mae Rebecca yn gweithio ar Ward Ogwen ers ychydig dros ddwy flynedd ac mae hi'n dweud ei bod hi'n edrych ymlaen at sicrhau bod y cleifion ar ei ward yn cael dydd Nadolig arbennig.
Dywedodd: "Mae sicrhau bod fy ward yn lân ac yn daclus bob amser i'r cleifion yn agos iawn at fy nghalon i.
"Mae'n ward wych i weithio arni ac mae fy nghydweithwyr i mor hyfryd.
"Rydw i bob amser yn mwynhau gwneud i'n cleifion chwerthin - trwy chwerthin mae rhywun yn cael modd i fyw.
"Mae bob amser yn bwysig codi hwyliau'r cleifion gan nad oes neb yn awyddus i fod yn yr ysbyty, felly rydw i'n mynd i wneud fy ngorau i gadw pawb yn hapus ac yn llawen ar Ddydd Nadolig!"
Bydd Siân Oates, sy'n Brif Nyrs yn yr Adran Achosion Brys yn un o'r tîm prysur fydd yn trin rhai o'n cleifion â'r salwch mwyaf difrifol ar Ddydd Nadolig.
Mae Siân yn gweithio sifft hwyr ar Ddydd Nadolig ac mae'n edrych ymlaen at dreulio amser gyda'i theulu yn y bore.
Dywedodd: "Byddaf yn treulio'r bore yn agor yr anrhegion gyda'r plant ac yna, byddaf yn cychwyn ar gyfer fy sifft yn y prynhawn.
"Rydw i wedi gweithio eithaf tipyn o Ddyddiau Nadolig dros y blynyddoedd ac mae bob amser yn braf treulio'r diwrnod gyda'ch cydweithwyr, nhw yw fy nheulu gwaith.
"Rydym ni'n gobeithio y bydd yn ddiwrnod tawel yn ein hadran ni ond fel bob amser, byddwn ni yma ar gyfer y rhai lle bo angen mewn achos brys."
Mae tri Chynorthwyydd Gofal Iechyd yn gweithio ar Ddydd Nadolig yn Ysbyty Cymuned Treffynnon.
Mae Tim Dykins yn gweithio'r sifft gynnar rhwng 7.30am a 2pm a hwn fydd ei Ddiwrnod Nadolig cyntaf yn gweithio i'r GIG ers y 90au. Bydd Tim yn aros i gael ei ginio Nadolig ac i agor ei anrhegion gyda'i wraig yn y prynhawn, ac yna, yn treulio amser gyda'i blant a'i wyrion ar Ddydd San Steffan.
Dywedodd Tim: "Bydd y cleifion yn cael cinio arbennig ac mae gennym ni ddanteithion Nadoligaidd i'w rhannu. Yn ystod y cyfnod yn arwain at Ddydd Nadolig, rydym ni wedi cael ymweliadau arbennig gan y Good Companions sydd wedi dosbarthu anrhegion hefyd.
"Roedd y tro diwethaf i mi wneud sifft ar Ddydd Nadolig yn ôl yn y 90au, ac rydw i'n meddwl, efallai oherwydd COVID-19 y bydd ychydig yn wahanol, heb wisgo i fyny i'r un graddau ag o'r blaen, o bosibl, ond bydd yn awyrgylch gwych."
Mae Hannah Ashmore a Lauren Smith yn gweithio'r sifft hwyr yn Ysbyty Cymuned Treffynnon rhwng 1.30pm a 8pm.
Dywedodd Hannah: "Rydw i'n hapus i weithio ar Ddydd Nadolig, ond mae'n wahanol i sifft arferol, mae pawb mewn hwyliau eithaf da ond mae'n brysur iawn gyda llawer o ymwelwyr yno i weld y cleifion. Mae'n hyfryd gweld y cleifion gyda'u teuluoedd, ac mae pawb mor hapus bob amser.
"Byddaf yn cymryd Noswyl y Nadolig a Dydd San Steffan yn wyliau ac rydw i wedi gofyn am hynny gan fod fy holl deulu'n dod at ei gilydd ar Ddydd San Steffan ac yn treulio'r diwrnod gyda'n gilydd."
Bydd Hannah yn treulio'r bore gyda'i gŵr ac yn gwneud cinio Nadolig, ond ni fydd hi'n cael bwyta'r bwyd gan y bydd yn mynd ag ef i dŷ ei chwaer sy'n byw'n agos iddi.
Ni fydd Hannah yn cael ei chinio Nadolig tan 8.30am, a bydd ei gŵr yn ei baratoi iddi pan fydd yn dychwelyd adref.
Bydd Lauren yn treulio'r bore gyda'i phartner, a'i phlant Oakley, 10 oed, ac Amelia a fydd yn 6 oed ar Nos Galan. Bydd Lauren yn codi'n gynnar i agor anrhegion gyda'i theulu.
Dywedodd: "Hwn fydd y tro cyntaf i mi weithio ar Ddydd Nadolig, felly rydw i'n ansicr beth i'w ddisgwyl a dweud y gwir, ond bydd yn braf gweld y cleifion gyda'u teuluoedd, a threulio amser gyda nhw. Rydw i'n edrych ymlaen ato gan nad oes gen i neiniau a theidiau felly mae'n braf helpu i ofalu am y cleifion ac i dreulio'r diwrnod gyda nhw.
"Nid yw cinio Nadolig yn apelio ataf i ryw lawer felly dywedais y byddwn i'n gweithio'r sifft hwyr. Rydym ni'n bwriadu dod ag ychydig o ddanteithion i'r gwaith i gael bwffe bach ac i gael ambell fyrbryd bach i'w bwyta trwy gydol y dydd, ac yna, byddaf yn mynd i ymweld â'm rhieni-yng-nghyfraith ar ôl y gwaith ac efallai y byddaf yn cymryd platiad yno."
Mae Lauren Davies, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, o Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug, yn gweithio sifft y Nadolig am y drydedd waith ac mae'n edrych ymlaen at helpu i sicrhau bod y diwrnod yn un arbennig iawn i gleifion a staff.
Dywedodd Lauren: "Byddaf yn dechrau am 7.30am felly byddaf yn mynd yn syth i'r gwaith ac yn gwneud fy nhasgau arferol pan fyddaf yn cyrraedd. Rydw i'n gobeithio y byddaf yn helpu i ychwanegu naws Nadoligaidd at yr ystafell ddydd i'r cleifion gael mynd yno ac eistedd gyda'i gilydd, a byddwn ni'n cynnig cinio twrci blasus iddynt, a byddant yn cael bwffe yn ddiweddarach yn y dydd.
"Rydw i'n mynd i aros nes bwyta fy nghinio Nadolig gyda'm partner ar ôl i mi gyrraedd adref, gan y byddaf yn gorffen am 2pm. Mae Diane, ein cydlynydd gweithgareddau, wedi bod yn wych hefyd gan ei bod wedi gosod addurniadau o amgylch yr ysbyty lle bo modd, ac mae hi wedi gwneud gweithgareddau tlysau a chracyrs Nadolig ar gyfer y cleifion.
"Rydw i'n hapus i weithio ar Ddiwrnod Nadolig gan ei bod yn hyfryd gweld y cleifion a'u teuluoedd, ac rydym ni hefyd yn ceisio helpu rhai cleifion sy'n gallu gadael am ychydig ddiwrnodau i fynd adref i dreulio amser gyda'u teuluoedd gartref. Mae hefyd yn braf treulio amser gyda chleifion nad oes ganddynt deuluoedd ac a fyddai wedi bod ar eu pennau eu hunain pe na baent yn yr ysbyty gyda ni."
Bydd Lliwen Griffith-Williams sy’n Weithredwr Switsfwrdd yn Ysbyty Gwynedd yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael cyswllt â'u hanwyliaid ar Ddydd Nadolig eleni.
Mae Lliwen yn gweithio yn Swyddfa'r Switsfwrdd ers bron i ddwy flynedd, a hon fydd yr ail waith iddi weithio sifft ar Ddydd Nadolig.
Dywedodd: "Mae gweithio ar y switsfwrdd yn fwy heriol nag y byddai rhai pobl yn meddwl, rydym yn derbyn lefel uchel iawn o alwadau bob dydd. Rydym ni'n trosglwyddo galwadau'n fewnol, yn delio â galwadau brys a daw nifer fawr o'r ymholiadau gan y cyhoedd a'r rhai sy'n awyddus i gysylltu â'r wardiau i gael gwybod ble mae eu hanwyliaid.
"Rydw i'n eithaf mwynhau gweithio ar Ddydd Nadolig, mae ychydig yn dawelach a bydd y rhan fwyaf o'r galwadau gan deuluoedd yn gofyn am gael eu trosglwyddo i'r wardiau i gael diweddariadau ar eu hanwyliaid felly rydym ni'n gwneud ein gorau glas i sicrhau bod eu galwadau'n cael eu hateb cyn gynted â phosibl."