12/02/2021
Mae prosiect newydd i gefnogi teuluoedd i gael mynediad at fitaminau am ddim yn Wrecsam a Sir y Fflint yn cael ei lansio'r wythnos hon.
Mae Healthy Start yn gynllun cenedlaethol sy'n rhoi fitaminau atodol i deuluoedd cymwys. Caiff merched beichiog, babanod a phlant dan bedair oed gynnig fitaminau sy'n cynnwys maetholion hanfodol fel asid ffolig a fitamin D.
Dywedodd Andrea Basu, Dietegydd Iechyd Cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC): "Mae tabledi merched Healthy Start yn rhoi'r nifer cywir o asid ffolig a fitamin D i gefnogi beichiogrwydd iach, ac mae'r diferion fitamin i fabanod a phlant yn cynnwys dos hanfodol o fitamin D i helpu i adeiladu eu hesgyrn a diogelu iechyd eu hesgyrn ar gyfer y dyfodol."
Eglura Andrea ei bod yn arbennig o bwysig cymryd fitamin D fel ychwanegiad gan nad yw'r rhan fwyaf o ddietau bob dydd yn cynnwys digon ohono.
Dywedodd: "Rydym yn cael y rhan fwyaf o'r fitamin D sydd ei angen arnom drwy amlygu ein hunain at yr haul, ond yn ystod misoedd y gaeaf, ac wrth gwrs yn ystod y cyfnod o waharddiad symudiad cyfredol, rydym yn treulio llawer mwy o amser y tu mewn. Yr unig ffordd y gallwn sicrhau ein bod yn cael digon o fitamin D yw drwy gymryd ychwanegiad, a gall Healthy Start helpu teuluoedd ifanc i gyflawni hyn.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn clywed am y cynllun drwy eu Bydwraig neu eu Hymwelydd Iechyd, ond gwyddom fod y pandemig COVID-19 wedi effeithio ar allu teuluoedd i gael mynediad at fitaminau."
Mae'r prosiect newydd yn gweithio gydag wyth fferyllfa leol a fydd yn stocio'r fitaminau.
Dywedodd Andrea: "Mae fferyllfeydd wedi'u lleoli'n ddelfrydol yn ein cymunedau ac rydym eisiau ei gwneud mor hawdd â phosibl i deuluoedd gael y fitaminau sydd eu hangen arnynt ac y maent yn gymwys i'w gael.
"Mae bywyd yn anodd i lawer ohonom ar hyn o bryd, yn enwedig i deuluoedd ifanc, a gall Healthy Start roi cefnogaeth werthfawr."
I'r teuluoedd sydd wedi cofrestru â Healthy Start yn barod mae angen iddynt fynd â'u taleb werdd i unrhyw un o'r fferyllfeydd canlynol i nôl eu fitaminau.
Mae'r fferyllfeydd sy'n rhan o'r cynllun yn cynnwys Fferyllfeydd Rowlands ym Mrynteg, Cefn Mawr, Stryd y Capel, Hightown, Johnstown a Chilgant St Georges a fferyllfeydd Morrisons yn Saltney a Chei Connah.
Bydd teuluoedd yn cael taleb newydd drwy'r post bob wyth wythnos y gallant fynd â nhw i'r fferyllfa. Golyga hyn y gall merched barhau i gymryd y fitaminau yn ystod eu beichiogrwydd a rhoi nhw i'w plant yn ystod y blynyddoedd cyn ysgol pan fyddant fwyaf bregus.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.healthystart.nhs.uk. Mae'r cynllun hefyd yn rhoi talebau bwyd wythnosol y gellir eu defnyddio ar gyfer eitemau fel llaeth, ffrwythau a llysiau ffres, wedi rhewi ac mewn tun a chorbys ffres, wedi sychu ac mewn tun.
Gellir llwytho ffurflen gais oddi ar y wefan, ei argraffu a'i anfon drwy ddefnyddio'r cyfeiriad rhadbost.