10/03/21
Mae pobl ar draws Gogledd Cymru yn cael eu hannog i wella eu hiechyd a’u lles a rhoi’r gorau i ysmygu.
Daw’r cais fel rhan o Ddiwrnod Cenedlaethol Dim Ysbyty 2021 (10 Mawrth) a llai na phythefnos ar ôl i holl ysbytai a chanolfannau iechyd y Bwrdd Iechyd gael eu dynodi’n gyfreithiol yn safleoedd Dim Ysmygu.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd: “Mae hyn yn gyfle gwych i atgoffa pobl am y manteision amlwg o roi’r gorau i ysmygu ac i gyfeirio pobl at y gefnogaeth sydd ar gael i’w helpu nhw i wneud hynny.
“Mae ysmygu yn parhau i fod yn un o’r prif achosion dros farwolaethau a salwch yn y wlad a gall hefyd wneud niwed i’r rhai sydd yn dod i gysylltiad â mwg ail-law.
“Gyda’r gefnogaeth iawn, rydym yn credu y gall pobl helpu eu hunain ac eraill drwy roi’r gorau i ysmygu ac rydym eisiau annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau’r GIG sydd ar gael, am ddim, i wneud hynny.
“Rydym o’r farn bod gwneud hi’n anghyfreithlon i ysmygu ar dir ysbytai a mannau cyhoeddus eraill wedi bod yn gam enfawr ymlaen er mwyn amddiffyn pobl rhag niwed, ond mae yna dal mwy i’w wneud.”
Mae’r gyfraith newydd a ddaeth i rym ar draws Cymru ar 1 Mawrth 2021 yn adeiladu ar y gwaharddiad ysmygu a gyflwynwyd yn 2007, gyda’r nod o amddiffyn mwy o bobl rhag mwg ail law niweidiol, ac i helpu’r rhai hynny sy’n ceisio rhoi’r gorau i ysmygu.
Golyga’r gyfraith newydd fod pob rhan o dir yr ysbytai yn awr yn ddi-fwg a gall unrhyw un a fydd yn torri’r gyfraith drwy ysmygu wynebu dirwy o £100.
Bydd y gyfraith newydd hefyd yn weithredol mewn mannau lle mae plant a phobl ifanc yn treulio eu hamser - fel ar dir ysgolion a chaeau chwarae plant, yn ogystal â mannau y tu allan mewn lleoliadau gofal dydd a gwarchod plant.
Mae unigolion sydd yn awyddus i roi’r gorau i ysmygu yn cael eu hannog i ddefnyddio gwasanaeth cefnogi am ddim GIG Cymru, Helpa fi i Stopio, ar 0800 085 2219 neu www.helpafiistopio.cymru i gael cymorth a chefnogaeth, yn cynnwys mynediad at feddyginiaethau rhoi’r gorau i ysmygu am ddim.