04.08.23
Mae Cymorth Canser Macmillan wedi buddsoddi dros £400,000 ar gyfer chwe rôl canser y croen arbenigol newydd yng Ngogledd Cymru i helpu i fodloni galw cynyddol am ofal a thriniaeth.
Gan weithio mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd, mae buddsoddiad Macmillan yn dilyn adolygiad gweithlu nyrsys canser arbenigol a gynhaliwyd yn 2020 sy’n dynodi canser y croen fel blaenoriaeth amlwg.
Mae’r cyllid, sydd ond wedi’i wneud yn bosibl drwy haelioni codwyr arian a chefnogwyr Macmillan, wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu tair rôl nyrs glinigol arbenigol, yn ogystal â thair swydd ymarferydd cynorthwyol.
Gyda’r holl staff bellach wedi’u hymgorffori yn eu rolau newydd, y nod yw sicrhau bod mwy o bobl gyda chanser y croen ar draws y rhanbarth yn cael cynnig gweithiwr allweddol i’w helpu drwy daith gofal canser cymhleth.
Bydd y staff arbenigol hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i sicrhau bod pobl gyda chanser yn cael asesiad anghenion cyfannol, fel bod eu holl bryderon – boed yn gorfforol, emosiynol neu ariannol – yn cael eu cofnodi mewn cynllun gofal manwl a phersonol.
Mae ymchwil diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos faint yn union y disgwylir i'r galw am driniaeth a gofal canser y croen godi.
Mae datganiad cyntaf o ystadegau swyddogol ar ganser y croen di-felanoma (NMSC) - y math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru - wedi dangos cynnydd o 7.1% mewn achosion canser di-felanoma rhwng 2016 a 2019, gyda Chymru’n cofnodi’r gyfradd uchaf o’r math hwn o ganser yn y DU.
NMSC oedd 43 y cant o'r holl achosion newydd o ganser yng Nghymru yn 2019, gyda 15,102 o achosion cyntaf, o gymharu â chyfanswm o 20,058 o achosion o'r holl fathau eraill o ganser wedi’u cyfuno.
Dywedodd Phil Ralfs, un o Nyrsys Clinigol Arbenigol newydd Macmillan sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Gwynedd: “Rwyf wedi gweithio mewn gofal iechyd am fwy na 22 mlynedd, ac mae’n fraint o’r mwyaf cael gweithio gyda Macmillan i helpu i wella lefel y gofal sy’n cael ei gynnig i gleifion canser y croen yng Ngogledd Cymru.
“Fel tîm newydd, byddwn yn gweithio ar draws Gogledd Cymru ac ein nod yw bod yno i’n cleifion yn ystod pob cam, gan helpu sicrhau eu bod yn cael y gofal personol sydd eu hangen arnynt, ac i’w llywio drwy bob cam o’u triniaeth.”
“Rydym yn ymwybodol bod nifer yr arbenigwyr canser angen cynyddu yng Nghymru os ydym am reoli’r niferoedd cynyddol o bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser, ac mae’n wych cael bod yn rhan o’r ymateb hwnnw.”
Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau ar gyfer Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: “Tros y blynyddoedd diwethaf, mae Macmillan wedi buddsoddi mwy na £1 miliwn i helpu i wella gwasanaethau gofal canser yng Ngogledd Cymru, ac ni fyddai unrhyw un ohonynt wedi bod yn bosibl heb ymdrechion dygn ein codwyr arian.
“Tynnodd ymchwil diweddar gan Macmillan sylw at y brys y mae angen i ni dyfu capasiti'r gweithlu gofal canser yng Nghymru. Mae angen i nifer y nyrsys canser arbenigol yn unig gynyddu 80% os yw Cymru am gefnogi'r 230,000 o bobl y rhagwelir eu bod yn byw gyda chanser yng Nghymru erbyn diwedd y ddegawd.
“Dyna pam ein bod mor falch o’n partneriaeth barhaus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r buddsoddiad hwn – mae’n ein symud gam ymhellach i sicrhau bod staff gofal canser arbenigol yn cael eu lleoli lle maent eu hangen fwyaf.”
Dywedodd Nicky McLardie, Cyfarwyddwr Nyrsio Cynorthwyol ar gyfer Ardal y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Mae'r swyddi hyn o ganlyniad i gydweithrediad llwyddiannus rhwng y Bwrdd Iechyd a Chymorth Canser Macmillan. Y nod yw darparu profiad gofal rhagorol i bobl sy'n cael diagnosis o ganser y croen.
“Bydd y Gweithwyr Allweddol Clinigol Arbenigol a’r Ymarferwyr Cynorthwyol yn gweithio gyda thimau clinigol Dermatoleg ac Oncoleg i wella’r llwybr clinigol er mwyn sicrhau Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ar gyfer pobl Gogledd Cymru. Bydd y timau yn dynodi anghenion cleifion drwy asesiad anghenion cyfannol, a chyd-greu Cynllun Gofal a Chymorth ar gyfer pobl sy’n byw gyda chanser y croen. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl gleifion yn cael eu trin fel unigolion a phartneriaid yn eu gofal eu hunain.
“Bydd y rôl hefyd yn cynnwys gweithio ar y cyd gyda thimau clinigol eraill mewn canolfannau trydyddol, gwasanaethau cymunedol a gofal sylfaenol er mwyn gwella profiad a chanlyniadau ar gyfer pobl sy’n byw gyda chanser y croen ar draws Gogledd Cymru.
“Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda Macmillan a gweddill tîm BIPBC wrth geisio cael hyn i ddwyn ffrwyth ac rwy’n falch iawn o fod wedi cymryd rhan.”
Mae Macmillan yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu, ac rydym yma i unrhyw un sydd â chanser yn ogystal â’u teuluoedd. Am gyngor, gwybodaeth neu sgwrs, gallwch ein ffonio yn rhad ac am ddim ar 0808 808 0000 neu gallwch ymweld â macmillan.org.uk