Mae Therapydd Iaith a Lleferydd sydd wedi mynd gam ymhellach ar gyfer un o'i chleifion yn HMP Berwyn wedi cael gwobr arbennig.
Cafodd Jacqui Learoyd ei henwebu ar gyfer gwobr Seren Betsi gan Katie Williams, Swyddog Datblygu Sefydliadol, a ddywedodd bod brwdfrydedd y therapydd am ei rôl wedi creu argraff fawr arni.
Cafodd Jacqui ei chanmol am ddarparu cefnogaeth ar gyfer un o'i chleifion yng ngharchar Wrecsam, a ddaeth i ddeall bod ganddo anabledd dysgu ar ôl gwrando ar stori'r dyn a thrwy asesiad. Roedd hyn o bosibl yn rhwystro ei allu i gyfleu i'r bwrdd parôl pam y dylai gael ei ystyried i gael ei ryddhau ac nid yw bellach yn peri risg i'r cyhoedd.
Dywedodd Katie: "Y tu allan i'w diwrnod gwaith yn y carchar, fe aeth Jacqui ati i ddarganfod cefnogaeth i'r dyn allu eistedd ar y bwrdd parôl i gael ei ryddhau a dechrau bywyd mewn cymdeithas ynghyd â'r gefnogaeth sydd ei angen ar gyfer ei anabledd dysgu.
"Gofynnodd Jacqui hefyd i gefnogi'r dyn ar ei fwrdd parôl nesaf a gweithiodd yn ddiflino i ddod o hyd i gyllid a'i sicrhau i'r dyn gael ei leoli mewn tŷ addas pe bai'n cael ei ryddhau.
"Mae'r broses hon wedi cymryd dwy flynedd ac nid yw Jacqui wedi rhoi'r gorau i'w hymdrechion, gan roi'r claf yn gyntaf, yn gwerthfawrogi ei hawliau ac yn eu parchu a gweithio gyda'n partneriaid i ddarparu'r canlyniad gorau posibl ar gyfer ei chlaf."
Cytunodd y bwrdd parôl i ryddhau'r dyn ac mae'r cyllid y mae Jacqui wedi'i gael wedi golygu ei fod yn awr wedi cael ei ryddhau i gymuned byw gyda chefnogaeth, ble y gall yn awr gael y datblygiad a'r gefnogaeth y mae ei angen ar gyfer ei anawsterau dysgu a chael ei integreiddio'n ôl i mewn i'r gymdeithas.
"Mae ymdrech, penderfyniad a thosturi Jacqui am ei chlaf wedi creu argraff fawr arnaf. Mae rhoi o'i hamser ei hun dros y ddwy flynedd diwethaf i gefnogi ei chlaf wir yn mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau.
"Rwy'n siŵr y bydd y claf hwn yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Jacqui ac mae ei hymdrech wedi arwain yn y pen draw at ei ryddhau.
Ychwanegol Katie, "Rwy'n falch iawn fy mod yn adnabod y ddynes ysbrydoledig hon."
Cyflwynwyd y wobr i Jacqui gan Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus y Bwrdd Iechyd.
Dywedodd: "Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno'r wobr Seren Betsi i Jacqui.
"Mae Jacqui yn aelod arbennig o staff ac mae wedi gweithio'n ddiflino am ddwy flynedd i gefnogi unigolyn bregus i sicrhau ei fod yn cael bywyd llawer gwell.
"Llongyfarchiadau Jacqui, rydych wir yn haeddu'r wobr hon .”
Mae Gwobr Seren Betsi yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff a gwirfoddolwyr GIG Gogledd Cymru.
Dywedodd Jacqui: "Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael y wobr hon, roedd yn sioc fawr!
"Mae'n golygu cymaint i mi, diolch yn fawr iawn!"