Mae tîm o Wirfoddolwyr Awdioleg sy’n rhoi Cefnogaeth gyda Chymhorthion Clyw wedi derbyn gwobr am roi o’u hamser i helpu cleifion ar draws Gogledd Cymru.
Enillodd y tîm wobr ‘Cyfraniad Gwirfoddol Nodedig’, a noddwyd gan Castell Howell Foods, yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni.
Mae’r gwasanaeth gwirfoddol ar gael i bob oedolyn sydd â chymorth clyw’r GIG yng Ngogledd Cymru, ac mae’n cael ei gefnogi gan yr Adran Awdioleg ond yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Mae’r gwasanaeth hwn yn ychwanegu gwerth at y Gwasanaeth Awdioleg drwy roi cymorth a chefnogaeth ymarferol i gymheiriaid.
Mae’r gwirfoddolwyr wedi sefydlu clinigau galw heibio rheolaidd i gleifion yn eu cymunedau lleol. Mae’r clinigau hyn yn awr ar gael mewn dros 30 o leoliadau ar draws Gogledd Cymru.
Mae’r gwasanaeth galw heibio yn caniatau gwirfoddolwyr i gefnogi cleifion gydag aildiwbio mowldiau o’r glust, mân wasanaethu cymhorthion clyw, ailosod batris a glanhau mowldiau o’r glust. Yn ychwanegol at hyn mae’r gwirfoddolwyr yn rhoi cefnogaeth i unigolion, gofalwyr a theuluoedd o ran defnyddio a chynnal a chadw cymhorthion clyw, yn rhoi cefnogaeth o ran ymdopi ag anawsterau clyw, yn rhoi awgrymiadau ar strategaethau cyfathrebu defnyddiol ac yn uwch gyfeirio at wasanaethau eraill fel bod angen.
Mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn ymweld â phobl nad ydynt yn gallu cyrraedd y clinigau yn eu cartrefi eu hunain ar gyfer cynnal a chadw cymhorthion clyw yn rheolaidd, ac maent yn cefnogi cleifion cymhorthion clyw mewn cartrefi gofal hefyd.
Dywedodd Susannah Goggins, Prif Wyddonydd Clinigol yn adran Awdioleg BIPBC, a enwebodd y gwirfoddolwyr am y wobr: “Ar gyfartaledd mae’r gwirfoddolwyr yn gweld 226 claf mewn sesiynau galw heibio yn y gymuned bob mis ar draws Gogledd Cymru ac yn gwneud 53 ymweliad bob mis i gartrefi unigolion.
“Maent yn dod â chymaint o frwdfrydedd i’r rôl, gan rannu eu profiad o golli clyw a sut maent yn goresgyn heriau. O ganlyniad, mae’r rheiny yng Ngogledd Cymru sydd â chymhorthion clyw’r GIG yn cael budd o brofiad byw eraill, gan gynyddu eu hyder, gwella eu hannibyniaeth a gwella ansawdd bywyd eu hunain a’r rheiny o’u cwmpas.”
Mae’r gwobrau, a noddwyd gan Centreprise International, yn dathlu cyraeddiadau arbennig staff y GIG ar draws Gogledd Cymru.
Dywedodd Jeremy Nash, Prif Weithredwr Centerprise International: "Roedd yn fraint cael bod yn brif noddwr yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Staff y Bwrdd Iechyd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Roedd y gwobrau'n gyfle gwych i gydnabod yr holl bobl anhygoel sy'n gweithio i’r GIG ar draws Gogledd Cymru.
“Mae Centerprise yn ymrwymedig i gefnogi'r gymuned Cymreig a'r GIG yn gyfartal. Rydym yn falch i gael ein cynrychioli yn y gwobrau, a oedd yn ddathliad gwych o ymdrechion ardderchog y Bwrdd Iechyd a'i staff ymroddedig."
Dywedodd Natalie Aitken, a gyflwynodd y wobr ar ran y noddwr Castell Howell Foods: “Roedd ymdrechion y Gwirfoddolwyr Awdioleg i gefnogi pobl sydd ag anawsterau clyw yng Ngogledd Cymru yn ysbrydoledig iawn.
“Gall pob un o’r enwebiadau a oedd ar y rhestr fer fod yn falch iawn o’u hymdrechion i gefnogi’r GIG yng Ngogledd Cymru, ac roeddem wrth ein bodd gallu dathlu eu cyraeddiadau yng Ngwobrau’r Bwrdd Iechyd.”