Mae ap digidol newydd a fydd yn cefnogi cleifion ac yn helpu creu amgylcheddau dementia-gyfeillgar ar fin cael ei ddatblygu a’i brofi yng ngogledd Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio gydag arbenigwyr o Brifysgol Caerwrangon i greu’r ap, a fydd yn disodli’r asesiad ar bapur presennol a ddefnyddir i asesu pa mor ddementia-gyfeillgar yw amgylcheddau gofal.
Mae disgwyl i'r prosiect ddechrau ym mis Hydref ac yn y lle cyntaf, bydd yn cynnwys staff o 12 ward yn ein hysbytai acíwt a chymunedol a wardiau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Unwaith y bydd yr ap yn barod, bydd ar gael yn fyd-eang er mwyn ei gwneud yn haws i staff asesu a gwella amgylcheddau gofal a gwella bywydau unigolion â dementia.
Bu Sarah Waller CBE, Arbenigwr Cyswllt o’r Gymdeithas Astudiaethau Dementia ym Mhrifysgol Caerwrangon yn arwain ar ddatblygu rhaglen Cronfa’r Brenin sef Gwella’r Amgylchedd Iacháu, a oedd yn annog ac yn galluogi timau dan arweiniad nyrsys i weithio mewn partneriaeth â chleifion er mwyn gwella amgylcheddau lle y darperir gofal.
Dywedodd Sarah: “Bellach, mae tystiolaeth gynyddol bod dylunio sy’n ddementia-gyfeillgar yn hybu cynhwysiant, annibyniaeth ac ansawdd bywyd unigolion sy’n byw â dementia. Rydym yn gwybod bod canlyniadau’r asesiadau ar bapur wedi arwain at welliannau yn amgylcheddau gofal unigolion sy’n byw â dementia, eu perthnasau a’r staff sy’n gofalu amdanynt.
“Rydym yn ddiolchgar i’r Bwrdd Iechyd am ariannu’r prosiect hwn ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ar ddatblygiad a fydd yn gwneud yr asesiadau’n fwy hygyrch ac yn haws i’w defnyddio”.
Bydd staff o BIPBC yn gweithio gyda datblygwyr i greu’r ap er mwyn cymharu asesiadau papur a digidol cyn cyflwyno’r peilot i fwy o wardiau ar draws gogledd Cymru. Yna caiff yr ap ei gwblhau er mwyn cynnal asesiadau mewn ysbytai, cartrefi gofal, tai â chymorth, canolfannau iechyd a gerddi.
Dywedodd Kelly Arnold, Nyrs Ansawdd a Datblygu Ymarfer Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn BIPBC: “Mae’r prosiect hwn yn gyfle gwych i gynnwys staff, cleifion, myfyrwyr ac eraill er mwyn iddynt weld beth sy’n gweithio yn eu meysydd nhw a chymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw welliannau sydd eu hangen.
“Bydd y broses hefyd yn gyfle dysgu gwerthfawr ac yn codi ymwybyddiaeth o sut y gall hyd yn oed welliannau bach i amgylcheddau effeithio’n gadarnhaol ar gleifion â dementia.”
Dywedodd yr Athro Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Dementia yn BIPBC, “Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth yr Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu gyda’r prosiect hwn sy’n helpu ein gwaith i wella gofal ein cleifion sydd â dementia ar draws y Bwrdd Iechyd. Ar ben hynny, mae’n cefnogi ein huchelgais i gofleidio technoleg ddigidol lle gall gefnogi staff, gan arwain at well profiad i gleifion.”