Diweddariad - Cynlluniwyd y clinig galw heibo yn wreiddiol ar gyfer Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, ond, mi fydd wedi’i leoli yn Nhafarn Tavern, Saltney, Stryd Fawr, Saltney, CH4 8SQ rhwng 1pm a 6pm.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn lansio clinigau brechu symudol ar draws ardaloedd Sir y Fflint a Wrecsam.
Bydd y clinig symudol ar agor i chi alw heibio heb fod angen apwyntiad, a thros y bythefnos nesaf, bydd yn ymweld â’r lleoliadau canlynol yn Wrecsam a Sir y Fflint, sydd â nifer uchel o gyflogwyr mawr:
Cynhelir sesiwn Cwestiwn ac Ateb “gofynnwch i’r brechwyr” hefyd ym Mhartneriaeth Parc Caia, Ffordd Tywysog Siarl, Wrecsam, LL13 8YB, ddydd Gwener 16 Gorffennaf, 10am-2pm ar gyfer y rhai sydd â phryderon neu gwestiynau am y brechlynnau.
Bydd y ddau frechlyn yn cael eu cynnig yn y clinigau symudol ar y stad ddiwydiannol, a bydd Pfizer ar gael i’r rhai 18-39 oed yn y sesiwn C ac A, i’r rhai sy’n penderfynu ei gael.
Mae’r clinigau ar agor i unrhyw un sydd ddim wedi cael eu brechlyn cyntaf neu eu hail frechlyn tra bydd stoc ar gael. Mae’r Bwrdd Iechyd yn arbennig, yn annog y rhai 30-39 oed i alw heibio i gael eu hamddiffyn rhag COVID-19.
Yng Ngogledd Cymru, dim ond 70% o bobl 30-39 oed, sydd wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn, a tharged isaf y Bwrdd Iechyd ar gyfer bob grŵp targed yw 75%, felly mae angen 6,000 yn fwy o bobl o’r grŵp oedran hwn i ddod ymlaen i helpu i gyflawni lefel o amddiffyniad cymunedol i helpu i ddychwelyd i fywyd normal.
Meddai Tom Halpin, Arweinydd Rhaglen Frechu Covid-19 ar gyfer y Dwyrain: “Rydym yn falch o fod yn dod â brechiadau i’r ardaloedd hyn lle nad yw pobl o bosib wedi cael cyfle i ymweld â’n canolfannau brechu. Rydym yn gofyn i unrhyw un yn yr ardaloedd hyn sydd ddim wedi cael eu dos cyntaf neu ail ddos, i alw heibio i gael eu pigiad. Byddwn yn fwy na pharod i siarad gydag unrhyw un all fod â chwestiwn neu bryder ynghylch y brechlyn, gallwch drafod unrhyw bryderon heb unrhyw bwysau i gael y brechiad ar y diwrnod.
“Hoffem hefyd annog cyflogwyr ar draws yr ystadau diwydiannol i adael i’w staff ddod i glinig symudol i gael eu brechiadau er mwyn helpu i amddiffyn eu staff, cydweithwyr a’r gymuned ehangach.”
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam: “Trwy gael eich brechu, nid yn unig rydych chi’n helpu i amddiffyn eich hun a phobl eraill – rydych chi’n helpu Cymru a gweddill y DU i symud i sefyllfa lle mae llai o bobl yn ddifrifol wael, ac y gallwn ni ddysgu i fyw gyda’r feirws.
“Felly hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n anorchfygol, fe ddylech gael y brechlyn cyn gynted â phosibl. Os ydym ni eisiau dychwelyd i fywyd mwy normal, a’r brechlyn ydi’r unig ffordd y gallwn ni wneud hynny.”
Gall bob preswylydd yng Ngogledd Cymru sydd dros 18 oed drefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer y canolfannau brechu (slotiau newydd yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd); neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004 i drefnu apwyntiad.
Neu, gallwch gerdded i mewn i Ganolfan Brechu Torfol Glannau Dyfrdwy a Catrin Finch yn Wrecsam, dydd Mawrth – ddydd Sul ym mis Gorffennaf, tra bydd stoc o’r brechlyn ar gael (ac eithrio dydd Mawrth, 20 Gorffennaf yng Nglannau Dyfrdwy).