18 Rhagfyr, 2023
Mae clinig newydd wedi cael ei sefydlu yn Ysbyty Alltwen ar gyfer cleifion sy'n derbyn diagnosis Lymffoedema.
Bydd y clinigau sydd ar gael yn ystod yr wythnos a gynigir yn Ysbyty Tremadog yn cynorthwyo cleifion sy'n byw ym Meirionnydd a Dwyfor a'r cyffiniau ac maent yn cynnig mynediad at ofal arbenigol, gan gynnig gwasanaeth sydd ar gael yn agosach i'r cartref ar yr un pryd.
Cyflwr hirdymor sy'n achosi chwyddo ym meinweoedd y corff yw Lymffoedema. Gall effeithio ar unrhyw ran o'r corff, ond fel arfer, mae'n datblygu yn y breichiau neu'r coesau. Mae'n datblygu pan nad yw'r system lymffatig yn gweithio'n iawn. Mae'r system lymffatig yn rhwydwaith o sianeli a chwarennau trwy'r corff cyfan sy'n helpu i drechu heintiau a gwaredu hylif gormodol.
Dywedodd Paula Lawrence, Arweinydd Addysgu'r Gymuned Lymffoedema Genedlaethol yng Nghymru a Rheolwr Nyrsio Clinigol Lymffoedema Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae'n bleser gennym ni weld bod y gwasanaeth hwn bellach ar gael yn Alltwen.
"Ryw ddeng mlynedd yn ôl, roedd gennym ni wasanaeth ar y ward, felly mae'n wych gweld ei fod yn dychwelyd ar ffurf clinig arbenigol a bod yr arbenigedd ar gael i'n poblogaeth leol.
"Nod y gwasanaeth ychwanegol hwn yw rheoli'r rhai sydd â Lymffoedema oherwydd canser ac nad yw'n gysylltiedig â chanser, a bydd hynny'n cael effaith enfawr ar fywydau'r rhai sy'n byw gyda'r cyflwr." "Mae hyn yn cynnwys cyngor arbenigol ar drefniadau therapi cywasgu, ymarferion, gofal croen a defnyddio offer arbenigol er mwyn helpu i leihau cyfaint o ran aelodau'r corff.
Dywed Kaylie Wyatt, Arbenigwr Nyrsio Clinigol sy'n cynnal y clinigau yn Ysbyty Alltwen, ac a ddychwelodd i'r ardal er mwyn cyflawni’r rôl benodol hon, ei bod yn edrych ymlaen at gynorthwyo'r cleifion yn yr ardal leol.
Dywedodd: "Mae gen i gefndir ym maes nyrsio ardal ond rydw i bob amser wedi bod â diddordeb mewn Lymffoedema.
"Yn anffodus, mae'r cyflwr hwn yn cael cymaint o effaith negyddol ar fywydau ein cleifion felly mae'n hynod bwysig i ni allu cynnig cymaint o gymorth â phosibl, a hynny mor agos â phosibl i ble maen nhw'n byw.
"Mae'n wych gweld sut y gall ein cleifion ddatblygu gyda'r cymorth cywir, rydw i wedi gweld llawer o gleifion yn magu mwyfwy o hyder ac yn adennill eu hunanbarch unwaith eto.
"Rydw i'n teimlo ein bod ni'r anrhydeddu'r gymuned trwy gynnig y gwasanaeth hwn yn lleol, a chan fy mod i'n hanu o'r ardal fy hun, mae'n golygu llawer i mi."
Mae clinigau lymffoedema hefyd yn cael eu cynnig yn Ysbyty Dolgellau, Ysbyty Tywyn, Ysbyty Eryri ac Ysbyty Penrhos Stanley.