23 Tachwedd, 2023
Mae Clinig Deintyddol Cymunedol newydd wedi agor yn swyddogol yn Ysbyty Bryn Beryl.
Mae’r adeilad newydd yn cynnwys ystafelloedd triniaeth ddeintyddol eang, ystafell ddadheintio ac ystafell glinigol ac offer arbenigol newydd fel cadeiriau y gellir eu haddasu i alluogi pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn i gael mynediad hawdd at ofal.
Mae’r clinig, sy’n wasanaeth cyfeirio yn unig, yn gartref i dîm deintyddol ymroddedig sy’n cynnwys nyrsys, therapyddion, deintydd a chynorthwyydd gofal iechyd, sy’n darparu gofal deintyddol i bobl na ellir eu trin yn hawdd mewn practis cyffredinol, megis cleifion sydd â chyflyrau iechyd penodol, anabledd dysgu neu broblem iechyd meddwl.
Dywedodd yr Uwch Nyrs Ddeintyddol, Carolyn Prytherch-Roberts: “Mae ein clinig newydd yn darparu cyfleusterau clinigol rhagorol ar gyfer cleifion a staff, gyda phob un ohonynt yn cael eu cynnal mewn lleoliad ffantastig yn Ysbyty Bryn Beryl.
“Yn y gorffennol, roedd ein gwasanaeth yn cael ei weithredu o Glinig Deintyddol Canolfan Iechyd Yr Ala ym Mhwllheli hyd at 2017. O'r fan honno, cawsom ein trosglwyddo i uned symudol ym Mryn Beryl. Fodd bynnag, roedd yn rhaid i’n cleifion sy’n defnyddio cadair olwyn deithio i Fryn y Neuadd ar gyfer eu triniaeth gan nad oeddem yn gallu darparu ar eu cyfer.
“Bellach mae gennym y cyfleusterau i ddarparu ar gyfer y mathau yma o gleifion fel nad ydynt yn gorfod teithio ymhellach am eu triniaeth mwyach, sy’n newyddion ffantastig.”
Mae’r clinig i fod i ddechrau gweld cleifion yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dywed Shirley Williams, Nyrs Ddeintyddol Arbenigol, bod agoriad y clinig yn hwb enfawr i’r gymuned.
Dywedodd: “Rydym wedi gwirioni bod y cyfleuster hwn ar gael i ni ac mae llawer mwy hygyrch i’n cleifion.
“Mae gennym safle bws a safle parcio wrth ymyl ac rydym mewn lleoliad canolog gwych. Rydym yn teimlo ein bod yn wasanaeth ychwanegol i’r ysbyty ac rydym bellach yn gallu ymweld â chleifion ar y ward sydd angen ein gofal yn ogystal â darparu sgrinio ar gyfer y cleifion hŷn.
“Mae gennym dîm gwych yma ac mae cymaint o gyfleoedd ar y gweill yn y dyfodol lle’r ydym yn gobeithio gweld mwy o nyrsys deintyddol mewn hyfforddiant yn ymuno â ni – rydym yn awyddus iawn i feithrin ein nyrsys ein hunain ac mae gennym dîm gwych yma i’w cefnogi.”
Bydd y Practis Deintyddol Cymunedol yn cynnig gwiriadau, pelydrau-x deintyddol, digennu a llathru, llenwadau, coronau dur gwrthstaen ar gyfer plant, tynnu dannedd a gwaith prosthetig i gleifion sydd angen cymorth ychwanegol.
Dywedodd Peter Greensmith, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Gwasanaethau Deintyddol Gogledd Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae gwella mynediad lleol at ofal deintyddol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru ac i ni’n hunain ac mae’n arbennig o bwysig i wasanaethau deintyddol cymunedol, o ystyried cymhlethdod y mathau yma o gleifion.
“Bydd y clinig deintyddol newydd hwn yn Ysbyty Bryn Beryl yn darparu ystod lawn o wasanaethau deintyddol i boblogaeth Pwllheli ac ardal ehangach Llŷn.”