23 Medi, 2023
Mae canolfan lawfeddygol warchodedig yn Ysbyty Abergele yn hybu’r ymdrech i leihau amseroedd aros i gleifion sy'n aros am osod clun a phen-glin newydd.
Mae llawdriniaethau ychwanegol yn cael eu cynnal yn yr ysbyty cymunedol ar hyn o bryd, a hyd yn hyn, mae bron i 50 o gleifion o bob rhan o Ogledd Cymru, rhai ohonynt wedi bod yn aros dros 100 wythnos am driniaeth, wedi cael eu cymal newydd dros y pythefnos diwethaf.
Mae’r ysbyty wedi neilltuo ward orthopedig arhosiad byr ar gyfer y gwaith, a fydd yn gweithredu drwy gydol misoedd y gaeaf, yn ogystal â chyfleuster ffisiotherapi pwrpasol.
Derbyniodd Andrea Hughes o Wrecsam lawdriniaeth ar gyfer pen-glin-rhannol newydd yn gynharach y mis hwn.
“Yn ystod mis Mawrth 2020 dechreuais deimlo’r boen yma yn fy mhen-glin chwith ac yn ystod cyfnodau clo’r pandemig roeddwn yn cymryd cryn dipyn o feddyginiaeth er mwyn ymdopi â’r boen” meddai.
“Roedd yn anodd iawn gwneud y pethau arferol o ddydd i ddydd, fel mynd i mewn i'r bath neu gawod neu fynd i mewn ac allan o'r car.
“Cefais i fy rhoi ar y rhestr aros yn 2021 ac roeddwn i’n gwybod bryd hynny y byddwn i’n aros am beth amser.
“Cefais alwad ffôn tua mis yn ôl yn cynnig yr opsiwn i mi ddod i Abergele i gael fy llawdriniaeth. Derbyniais y cynnig yn syth, doedd y pellter ddim yn fy mhoeni o gwbl. Des i i mewn ar y dydd Llun ac roeddwn i adref erbyn y dydd Mawrth, roedd yn brofiad positif iawn.”
Mae llawfeddyg Andrea, y Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol Mr Yogesh Joshi, sydd yn gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam, bellach yn cynnal triniaethau bob pythefnos yn Ysbyty Abergele.
Dywedodd: “Un o fanteision sylweddol cael uned orthopedig pwrpasol yn Abergele yw’r gofal arbenigol y mae’n ei gynnig. Mae Orthopaedeg yn faes hynod arbenigol, ac mae cael uned bwrpasol yn sicrhau bod cleifion yn cael gofal arbenigol â ffocws sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion cyhyrysgerbydol.
“Mae uned orthopedig bwrpasol yn meithrin cydweithrediad rhwng llawfeddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion ac arbenigwyr eraill. Mae’r dull amlddisgyblaethol hwn yn gwella gofal cleifion ac yn caniatáu cynllun triniaeth mwy cynhwysfawr.”
Mae Mr Joshi yn un o 16 llawfeddyg o bob rhan o Ogledd Cymru sy'n defnyddio'r adnoddau yn y safle cymunedol i helpu i leihau rhestrau aros.
Rhaid i gleifion sy'n derbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Abergele fodloni meini prawf clinigol penodol, a bydd cleifion ag anghenion mwy cymhleth yn parhau i dderbyn eu llawdriniaeth yn un o'r ysbytai ardal cyffredinol. Fodd bynnag, gall pob claf ddewis cael llawdriniaeth yn ei ysbyty cyffredinol lleol eu hunain, os dymunant.
Dywedodd Mr Madhusudhan Raghavendra, Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol yn Ysbyty Glan Clwyd: “Yr hyn rydym yn anelu at ei gyflawni yw llif triniaethau hynod effeithlon i osod cluniau a phen-gliniau newydd mewn cleifion risg isel yng Ngogledd Cymru, a hynny ar draws y Bwrdd Iechyd.
“Rwy’n ffyddiog y bydd y newidiadau rydym wedi’u gwneud yn cael effaith mawr iawn o ran lleihau’r amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau orthopedig dewisol i bobl Gogledd Cymru.”
Mae Tracy Taylor, o Brestatyn, un o'r cleifion a gafodd glun newydd o dan Mr Raghavendra, wedi croesawu'r newyddion y bydd mwy o lawdriniaethau'n cael eu cynnal yn Ysbyty Abergele.
“Roeddwn yn falch iawn o dderbyn galwad i ddweud fy mod yn mynd i dderbyn fy llawdriniaeth ac mae’n wych bod gan Ysbyty Abergele’r cyfleusterau i gynnal y llawdriniaethau hyn.
“Mae’n newyddion gwych bod mwy o lawdriniaethau’n digwydd yno nawr fel bod pobl sydd wedi bod yn aros am amser hir yn gallu cael eu gweld yn gynt.”
Yn dilyn COVID-19, mae cleifion yn aros yn hirach am driniaethau ac mae’r Bwrdd Iechyd bellach yn gweithio ar gynnig i wella gofal orthopedig wrth fynd ymlaen i’r dyfodol.
Mae achos busnes wedi'i ddatblygu i fuddsoddi mewn dwy theatr llawdriniaethau newydd ac i adnewyddu Ward Aberconwy yn Ysbyty Llandudno fydd yn darparu 19 o welyau i gleifion sydd angen llawdriniaeth orthopedig nad yw'n gymhleth, a allai fod angen arhosiad byr yn yr ysbyty.
Bydd yr achos busnes ar gyfer y cynnig yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Iechyd y mis hwn a gan Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach eleni.
Os cytunir ar y cynnig, bydd theatrau hyn yn cael eu hadeiladu y tu allan i’r adran radioleg, gan ganiatáu i weithgarwch theatr presennol Llandudno barhau.
Dywedodd Adele Gittoes, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’r ffordd newydd hon o weithio yn Ysbyty Abergele yn rhan bwysig o’n cynlluniau i fynd i’r afael â’r rhestrau aros a gynyddodd yn ystod COVID-19.
“Mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn Ysbyty Abergele yn enghraifft o wireddu cysyniad ac yn rhywbeth yr ydyn ni’n gobeithio ei ailadrodd yn Ysbyty Llandudno. Bydd hyn yn helpu i ehangu ein gallu llawfeddygol ac yn galluogi cleifion o bob rhan o Ogledd Cymru i gael mynediad at ofal arbenigol yn gyflymach.”