05/04/2023
Mae canolfan newydd ar gyfer adsefydlu yn dilyn strôc wedi agor yn Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy fel rhan o raglen gwerth £3 miliwn i wella gofal strôc yng Ngogledd Cymru.
Mae Carl Lamb, 59, o’r Orsedd, claf gwryw cyntaf y ganolfan adsefydlu yn dilyn strôc, wedi diolch i Feddyg Ymgynghorol Strôc newydd Sir y Fflint a Wrecsam, Nia Williams, am ei help hi yn ystod ei adferiad.
Cwympodd Carl, sydd yn saer wrth ei alwedigaeth, tra’n gweithio, a phan ffoniodd ei wraig a chlywed ei hun yn siarad, sylweddolodd fod ei leferydd yn aneglur a’i fod wedi cael strôc.
Aed â Carl i’r ysbyty agosaf yn Swydd Gaer a’i drosglwyddo i ward strôc Ysbyty Maelor Wrecsam. Yna cafodd y gwely cyntaf oedd ar gael ar gyfer dynion yn y Ganolfan Adsefydlu yn dilyn Strôc newydd yng Nglannau Dyfrdwy.
Dywedodd Carl: “Cwrddais â Nia pan gefais fy nhrosglwyddo i Ysbyty Maelor Wrecsam, a hi wnaeth fy symud i’r ganolfan adsefydlu. Mae hi'n anhygoel, hi wnaeth achub fy mywyd i a hi sydd wedi sicrhau fy mod wedi cyrraedd lle rydw i heddiw.
“Doeddwn i ddim yn gallu siarad ar ôl y strôc, roedd fy lleferydd yn dew iawn, ond mae’n llawer gwell erbyn hyn. Dydw i ddim yn gallu symud fy mraich chwith hyd yma, ac rydw i wrthi’n dysgu sut i gerdded eto, ond mae’n cymryd amser, yn bendant dydy gwella ar ôl strôc ddim yn digwydd dros nos.
“Roeddwn i’n brysur iawn cynt, doeddwn i ddim yn gallu eistedd yn llonydd am eiliad ac roeddwn yn hoffi gwneud pethau gyda fy nwylo. Rydw i wedi gorfod arafu ond rydw i'n teimlo'n bositif iawn.
“Mae fy ngwraig yn hapus iawn fy mod i yma, mae’n llawer brafiach iddi hi ddod i fy ngweld i yma yn hytrach nag ar safle acíwt. Rwy’n gobeithio y bydd fy nghi Oscar yn gallu dod i ‘ngweld i cyn bo hir hefyd.”
Mae Carl wedi gwellia’n aruthrol diolch i gefnogaeth gan nifer o staff arbenigol amlddisgyblaethol gan gynnwys Ffisiotherapyddion, Nyrsys, Meddygon, Seicolegwyr, Therapyddion Iaith a Lleferydd, a Therapyddion Galwedigaethol.
Dywedodd gwraig Carl, Jo: “Roedd strôc sydyn Carl yn ergyd drom i ni fel teulu ac mae wedi bod yn anodd iawn dygymod â’r effaith ddifrifol y mae wedi’i gael arno’n gorfforol ac yn emosiynol. Pan fydd eich partner yn cael strôc mae hefyd yn cael effaith enfawr ar eich bywyd chi eich hun, ac mae Nia a'r tîm yng Nglannau Dyfrdwy yn gwybod hyn.
“Mae’r gofal a’r ystyriaeth barhaus y mae’r tîm cyfan yn ei gynnig i mi wedi bod yn gefnogaeth amhrisiadwy wrth geisio dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd i Carl. Maent yn fy annog i gymryd rhan yn rhai o’u sesiynau therapi ac rydym yn cael cyfarfodydd rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am ei gynnydd, ac i helpu Carl i osod nodau clir ar y cyd er mwyn cynyddu ei gyfleoedd i wella.
“Yn bersonol, rwy’n teimlo fy mod yn derbyn gofal ac yn gwybod bod pawb sy’n cefnogi Carl nid yn unig yn gwneud eu gwaith fel gweithwyr proffesiynol, ond hefyd eu bod nhw i gyd wedi ymroi’n llwyr i wella Carl gymaint ag yw hi’n bosib iddo wella.
“Rydw i’n hynod ddiolchgar ei fod yn derbyn gofal yng Nghanolfan Adsefydlu yn dilyn Strôc Glannau Dyfrdwy ac yn teimlo mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth, gofal a chariad rydyn ni’n dau yn ei dderbyn gan bawb yno.”
Mae ardaloedd sydd newydd eu hadnewyddu yn y ganolfan yn cynnwys y gampfa ac ystafell ymwelwyr gartrefol. Anogir cleifion i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymarferion sydd wedi'u cynllunio i hybu adferiad ac annibyniaeth, gan gynnwys tasgau hunanofal dyddiol, cerdded, cyfathrebu a thasgau gwybyddol – a phob un ohonynt yn cynyddu'r siawns o wella ar ôl strôc.
Dywedodd Nia: “Rwy’n falch iawn o weld y cynnydd mae Carl wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf, a hoffwn ddiolch iddo am ei eiriau caredig. Bydd y tîm cyfan yn gweld ei eisiau yn fawr pan fydd yn mynd adref.
“Dyma pam mae cael canolfan benodol sy’n arbenigo mewn adsefydlu yn dilyn strôc fel hon yn y gymuned mor bwysig, er mwyn hybu adferiad cleifion mewn lleoliad arbenigol gydag ystod o ymarferwyr gofal iechyd wrth law.
“Mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o’r gwaith i ddatblygu a darparu’r gwasanaeth arbenigol newydd hwn ar gyfer strôc ac yn fraint gwirioneddol i fedru gweithio gyda thîm o unigolion ymroddedig tu hwnt sy’n gweithio gyda chleifion strôc a’u teuluoedd er mwyn iddyn nhw wella cymaint â phosibl.”
Dyma’r drydedd ganolfan adsefydlu cleifion mewnol arbenigol newydd i agor yng Ngogledd Cymru gydag un yn Ysbyty Eryri, Gwynedd ac un arall yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno.
Mae’r ganolfan adsefydlu strôc yn rhan o Raglen Gwella Strôc Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd hefyd yn cynnwys gwasanaeth ataliol newydd, lle bydd arbenigwyr yn gweithio gyda meddygon teulu i sgrinio cleifion a allai fod yn dangos arwyddion y gallent gael strôc yn y dyfodol, a Gwasanaeth Rhyddhau Cynnar â Chymorth a fydd yn helpu rhai cleifion i wella gartref, yn hytrach nag yn yr ysbyty neu leoliad clinigol.