Mae cannoedd o brydau iach wedi eu gweini wrth i’r Bwrdd Iechyd gyflwyno ei fenter bwyta’n iach yn ystod y pandemig COVID-19.
Mae staff o’r timau Arlwyo a Dieteteg wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Hamdden Plas Madoc, grŵp “Ni yw Plas Madoc” ac AVOW i gefnogi bwyta’n iach yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Estyniad ydyw ar gynllun a gafodd ei beilota ledled ysbytai Gogledd Cymru y llynedd, ble cafodd staff brydau a gynlluniwyd i fod yn gytbwys o ran maeth, ac yn rhad i’w cynhyrchu, gyda cherdyn rysetiau i fynd adref i roi cynnig arnynt eu hunain.
Dywedodd Glynne Roberts, Cyfarwyddwr Rhaglen Gogledd Cymru Iach ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae arnom eisiau cefnogi pobl i ddeall yn well beth yw bwyd maethlon a sut i goginio bwyd maethlon, fforddiadwy. Mae hefyd yn annog pobl i goginio mwy a gweithio gyda’r gymuned i wella sgiliau coginio.”
“Mae gan ein rysetiau gyfrannau iach o egni, protein a ffibr ac yn cyfrannu at bump y dydd ar gyfer ffrwythau a llysiau ac yn canolbwyntio ar gynhwysion cynaladwy. Ond yr un mor bwysig yw y gallwn, gyda’r prydau sy’n cael eu cynnig, ddangos ei bod yn bosibl bwydo teulu am lai na phunt y pen.”
Dywedodd Denise Chadwick, Rheolwr Cyffredinol Canolfan Hamdden Plas Madoc: “Mae’r cynllun hwn yn cynnig cyfle gwych i’r gymuned leol roi cynnig ar brydau newydd iach yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Rydym wedi ein lleoli’n ddelfrydol yng nghanol y gymuned fel y gall trigolion gael mynediad at y cynllun ar garreg y drws. Does dim costau am y bwyd ac rydym yn rhoi cerdyn rysetiau gyda phob pryd fel y gall trigolion ail-greu prydau. Mae’r adborth hyd yma wedi bod yn bositif iawn."