Mae Canolfan Cefnogi COVID yn awr ar gael yng Nghaergybi a fydd yn darparu pecynnau profi a chefnogaeth i’r rheiny sy’n byw yn y gymuned.
O ddydd Mawrth, 11 Mai bydd preswylwyr yn gallu trefnu apwyntiad gyda’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn y dref ar Ynys Môn i gael Profion Llif Unffordd (LFT).
Defnyddir Profion Llif Unffordd i ddynodi pobl sydd â COVID-19 nad ydynt yn dangos unrhyw symptomau. Nid yw oddeutu 1 o bob 3 unigolyn sydd â’r firws yn dangos unrhyw symptomau, ac os na fydd yn cael ei ganfod byddant yn parhau i ledaenu’r firws.
Mae profi’r rheiny nad oes ganddynt unrhyw symptomau yn bwysig yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Gall pob achos positif a ddynodwyd helpu i atal mwy o heintiau.
Croesawodd Annwen Morgan, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, gynllun peilot newydd y fenter Profi, Olrhain, Diogelu mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor ar Bopeth Ynys Môn.
Dywedodd: “Mae hon yn fenter sy’n torri tir newydd, sy’n tynnu sylw at yr hyn a ellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth yn effeithiol. Bydd y fenter newydd yn cefnogi ac yn amddiffyn yr unigolion mwyaf bregus yn ein cymuned yn sgil y pandemig Coronafirws.
“Mae’r firws wedi cael effaith mawr ar yr ynys dros y 12 mis diwethaf, ond bellach mae’r sefyllfa yn gwella’n sylweddol. Ein nod yw sicrhau bod y cynllun, sydd wedi’i leoli yn swyddfeydd Cyngor ar Bopeth Ynys Môn, yn gallu adeiladu ar y momentwm cyfredol drwy roi cyngor a chefnogaeth a fydd yn helpu pobl i oresgyn yr heriau amrywiol y maent yn ei wynebu heddiw.”
Yr oriau agor fydd 10am - 2pm dydd Llun i ddydd Gwener drwy apwyntiad. Gellir trefnu apwyntiad drwy ffonio’r tîm yn y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ar 01407 762278 (unrhyw adeg rhwng 9am a 4pm bob dydd).
Dywedodd Jackie Blackwell, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Ynys Môn: “Mae hwn yn beilot cyffrous iawn sy’n dod â gwasanaeth cyfannol amhrisiadwy wrth wraidd ein cymuned. Rydym wrth ein bodd mai ni yw’r Ganolfan gyntaf o’i fath i’w sefydlu yn Ynys Môn.
“Gall y rheiny sy’n byw yng Nghaergybi nôl prawf llif unffordd o’n swyddfa yng Nghaergybi drwy drefnu apwyntiad, ac os oes ganddynt faterion brys eraill bydd un o’n cynghorwyr hyfforddedig ar gael i helpu. Gall hyn amrywio o faterion gwaith, egni, dyledion, budd-daliadau, eithrio digidol a chefnogaeth iechyd meddwl.”
Y Ganolfan Cefnogi COVID yw’r fenter gyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru, a bydd Canolfannau Cefnogi tebyg yn cael eu datblygu mewn siroedd eraill dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’n bwysig bod y profion mor gyfleus a hygyrch â phosibl felly rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth a Chyngor Sir Ynys Môn i gynnig y gwasanaeth hwn yng Nghaergybi.
“Hoffem annog cymaint o bobl â phosibl i drefnu apwyntiad i gael y pecynnau profi. Wrth i’r cyfyngiadau barhau i lacio, bydd profi pobl asymptomatig yn rheolaidd yn bwysig iawn i atal y firws rhag lledaenu yn ein cymunedau.”