26/02/2021
Mae pobl sy'n byw ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu hatgoffa y bydd yr holl diroedd ysbyty'n ddi-fwg o ddydd Llun.
Mae deddfwriaeth newydd, sy'n cael ei chyflwyno ledled Cymru ar 1 Mawrth, yn adeiladu ar y gwaharddiad rhag ysmygu a gyflwynwyd yn 2007 a bydd yn amddiffyn mwy o bobl rhag mwg ail law niweidiol ac yn helpu'r rheiny sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi.
Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd pob rhan o diroedd ysbytai'n ddi-fwg. Gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100.
Dywedodd Richard Firth, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus: "Mae hyn yn newyddion gwych i bobl Gogledd Cymru ac yn gam pwysig ymlaen o ran amddiffyn cleifion, ymwelwyr a staff ar diroedd ein hysbytai.
"Trwy sicrhau bod ein hysbytai'n gwbl ddi-fwg, gallwn ddarparu amgylchedd diogelach ac iachach lle na fydd pobl yn dod i gysylltiad â mwg ail law.
"Rydym hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o bobl i roi'r gorau i ysmygu a byddwn yn sicrhau bod modd i bobl fanteisio ar wasanaethau'r GIG er mwyn eu cynorthwyo i wneud hynny."
Bydd y ddeddfwriaeth newydd hefyd yn berthnasol i fannau lle bydd plant a phobl ifanc yn treulio eu hamser - fel tiroedd ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal ag ardaloedd awyr agored ar gyfer gofal dydd plant a lleoliadau gwarchod plant.
Anogir y rheiny sy'n awyddus i roi'r gorau i ysmygu i fanteisio ar wasanaeth cymorth GIG Cymru, Helpa Fi i Stopio, ar 0800 085 2219 neu wefan Helpa Fi i Stopio am gymorth a chefnogaeth, gan gynnwys mynediad at feddyginiaeth roi'r gorau i ysmygu yn rhad ac am ddim.