09/07/2021
Yr wythnos hon dathlodd brechwyr Covid-19 yng Ngogledd Ddwyrain Cymru eu bod wedi brechu 200,000 o bobl gyda’u dos cyntaf.
Hefyd, yn yr un wythnos, cyrhaeddodd Canolfan Frechu Torfol Glannau Dyfrdwy a Chanolfan Frechu Lleol Catrin Finch ym Mhrifysgol Glyndŵr, eu cerrig milltir eu hunain, o frechu 100,000 o bobl yng Nghanolfan Glannau Dyfrdwy a 50,000 yng Nghanolfan Catrin Finch, gyda’u dos cyntaf neu ail ddos o’r brechlyn Covid-19.
Meddai Thomas Halpin, Arweinydd Prosiect Brechiadau Covid-19 ar gyfer y Dwyrain: “Mae’r timau yn y canolfannau brechu a’r Meddygfeydd MT wedi gweithio’n ddiflino dros y chwe mis diwethaf i amddiffyn mwyafrif mawr o boblogaeth Gogledd Cymru, ac mae’r cerrig milltir hyn yn amlygu ymroddiad a gwaith caled y tîm cyfan i amddiffyn pobl Wrecsam a Sir y Fflint.
“Er gwaethaf y llwyddiant, mae nifer o bobl 30-39 oed o hyd sydd ddim wedi dod yn eu blaenau i gael eu dos cyntaf. ‘Dydi hi byth yn rhy hwyr i newid eich meddwl ac mae trefnu apwyntiad nawr yn haws nag erioed gyda’r gwasanaeth ar-lein a derbyn pobl unrhyw adeg yng Nglannau Dyfrdwy a Catrin Finch, o ddydd Mawrth - ddydd Sul bob wythnos ym mis Gorffennaf (ar wahân i ddydd Mawrth 20fed yng Nglannau Dyfrdwy) tra bydd y stoc o frechlynnau yn para.”
Mae bron i naw ym mhob deg oedolyn cymwys yng Ngogledd Cymru wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19 tra mae dwy ran o dair wedi cael yr amddiffyniad llawn a gynigir gan y ddau ddos. Fodd bynnag, mae’r niferoedd sydd wedi derbyn y brechlyn ymysg pobl 30-39 oed ar hyn o bryd yn 69%.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ei gwneud hi’n haws i bobl gael eu dos cyntaf neu ail ddos (ar ôl wyth wythnos) ar ddyddiad, amser ac mewn lleoliad cyfleus. Gall pobl drefnu apwyntiad ar-lein (mae slotiau newydd yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd), neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004.
Neu, galwch heibio i unrhyw un o’n clinigau brechu agored heb drefnu apwyntiad ac os bydd cyflenwad yn caniatáu, gall pobl dderbyn brechlyn. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn cynnig clinigau brechu ‘pop up’ mewn mannau prysur, megis meysydd parcio archfarchnadoedd neu mewn ardaloedd lle mae’r gyfradd brechu yn isel. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi’n lleol ac rydym yn annog pobl i alw heibio.
Meddal Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn parhau i fod yn bryderus, tra’n penderfynu derbyn y brechiad COVID-19 neu beidio, bod nifer o bobl ifanc yn amcangyfrif yn rhy isel y risg o ddatblygu ‘COVID-hir’, all fod yn arbennig o wanychol.
“‘Does dim gwahaniaeth beth yw’ch oed neu pa mor ffit ac iach ydych chi, gall symptomau COVID-19 fod yn ysgafn i rai pobl ond i eraill gall eu gadael gyda niwed tymor hirach, gyda COVID-19-hir yn para am o leiaf 12 wythnos. Gall y brechiad
Covid-19 eich amddiffyn yn erbyn salwch difrifol posibl a sgîl-effeithiau tymor hirach gwanychol Covid-hir, felly rydym yn gofyn i’r rheiny sydd ddim wedi cael eu brechiad cyntaf neu ail (wyth wythnos ar ôl y cyntaf) i ddod ymlaen a chael eich amddiffyn.”
Cafodd bron i un ym mhob 5 person 25-34 oed (18.2% y cant) symptomau COVID-hir fel blinder, poen yn y cyhyrau a thrafferth canolbwyntio 12 wythnos ar ôl eu heintio, yr uchaf o unrhyw grŵp oedran yn ôl adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.