Mae nyrs ymroddedig a gafodd ddiagnosis o ganser, a fu'n brwydro wedyn i sicrhau gwasanaethau o'r radd flaenaf i drigolion Gogledd Cymru drwy gydol ei bywyd gwaith, yn mynd i borfeydd newydd yn llythrennol.
Bydd Beryl Roberts, pennaeth nyrsio gwasanaethau canser Betsi Cadwaladr, yn rhoi'r gorau i ddefnyddio ei watsh boced ar ddiwedd mis Mawrth - ar ôl 37 mlynedd fel nyrs canser.
Mae’n bwriadu treulio mwy o amser ar fferm ddefaid y teulu ychydig y tu allan i Gonwy ond mae’n dweud y bydd yn parhau i fod yn nyrs banc, cymaint yw ei chariad at yr alwedigaeth a ddewisodd yn ei harddegau.
Mae wedi bod yn benderfyniad anodd rhoi'r gorau i fod yn nyrs canser amser llawn a hithau ond yn 55 oed, ond roedd yn addewid a wnaeth hi iddi hi ei hun flynyddoedd lawer yn ôl, ar ôl ei phrofiad ei hun o’r afiechyd.
Wrth astudio am ei gradd Meistr, ynghylch effaith seicolegol cael diagnosis o ganser, sylwodd ar lwmp yn ei gwddf.
Datgelodd: “Meddyliais mai lymffoma oedd y lwmp. Ond na, canser y thyroid oedd hynny. Felly bu'n rhaid i mi gael thyroidectomi rhannol, yna thyroidectomi llawn a therapi radioïodin yn Lerpwl.
“Roeddwn yn 30 ym mis Rhagfyr a chefais ddiagnosis ym mis Hydref, felly dyna oedd fy anrheg pen-blwydd. Doeddwn i ddim yn dymuno troi'n 30, roeddwn i'n dymuno parhau i fod yn ugain a rhywfaint am byth, ond ar ôl hynny, dywedais na fuaswn i fyth yn cwyno am heneiddio.”
Datgelodd Beryl y bydd gadael ei rôl yn “dorcalonnus”. Dywedodd: "Mae ar fy nheulu fy angen i ac rwy'n dymuno gwneud rhywbeth i fi fy hun. Dydw i ddim yn dymuno gadael - gallwn i barhau ond mae Covid wedi cael effaith andwyol ac rydw i wedi bod mor bryderus am bawb a phopeth.
“Does gen i ddim diwrnod olaf, rwy'n rhoi'r gorau i wneud y gwaith yn raddol. Dydw i ddim yn dymuno teimlo fy mod yn cerdded allan o'r lle am y tro olaf.”
Dechreuodd ei thaith pan oedd hi’n 16 oed, ar ôl i ffrind agos i’r teulu farw o ganser yr ysgyfaint. Radiotherapi oedd yr unig beth y gellid ei gynnig iddo. Fe wnaeth y golled effeithio arni i'r fath raddau, penderfynodd ddysgu rhagor am y clefyd.
“Yr unig beth roeddwn i'n dymuno ei wneud oedd gweithio ym maes canser,” datgelodd. “Fe wnaeth y ffaith fod rhai pobl yn cael canser ennyn diddordeb cryf ynof i. Pam bydd rhaid pobl yn gallu ymdopi â diagnosis o ganser ond nid eraill?
“Dywedodd fy mam wrthyf ‘bydd angen i ti fod yn nyrs’ a byddwn i'n wastad yn ufuddhau, felly dywedais ‘iawn, mi fyddaf i'n nyrs felly’.
“Cyn gynted ag y gwnes i gymhwyso, gwnes gais am swydd nyrs staff yn Clatterbridge. Dyna ble byddai holl gleifion Gogledd Cymru yn mynd i gael triniaeth, felly roeddwn i'n dymuno gweithio yno.”
Dywedodd mai'r trobwynt gwirioneddol ar gyfer Gogledd Cymru oedd adroddiad Calman Hine ym 1995, a wnaeth argymell ad-drefnu gwasanaethau canser a chreu canolfannau canser ac unedau canser.
Wedi hynny, agorwyd Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd, gydag uned ganser atodol yn Ysbyty Gwynedd, ac yn ddiweddarach, un yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Golygai hyn y gallai cleifion radiotherapi o Ogledd Cymru ddychwelyd o Clatterbridge i'r ganolfan newydd.
“Yn y 90au, datblygwyd llawer iawn driniaethau cemotherapi newydd a buom yn rhan o lawer o dreialon clinigol,” meddai.
“Felly, roedd hynny'n golygu fod cleifion yng Ngogledd Cymru yn cael cyffuriau newydd. Fe wnaethom ni barhau â'r datblygiadau gwyddonol hyn, ac erbyn hyn, mae gennym ni imiwnotherapi.”
Datgelodd fod 100 o gleifion bob dydd, bum diwrnod yr wythnos, bellach yn derbyn therapïau gwrth-ganser systemig - rhywbeth y mae hi'n haeddiannol falch ohono.
“Mae'n wych,” meddai. “Mae'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn anhygoel. Mae rhai cleifion yn byw yn dda gyda chanser.
“Byddant yn parhau i gael triniaethau imiwnotherapi am flynyddoedd lawer. Mae'n rhywbeth anhygoel i'n cleifion a bydd llawer ohonynt yn cael adferiad.”
Yn ôl Beryl, hyd yn oed yn ôl yn y 1990au, byddai llawer o'r cleifion hyn wedi cael diagnosis, heb dderbyn unrhyw driniaeth, ac mae'n debygol na fyddent wedi goroesi.
Dywedodd na fyddai hi, pan oedd hi'n 18 oed, fyth wedi gallu dychmygu'r holl ddatblygiadau mewn triniaethau canser a ddigwyddodd yn ystod ei gyrfa.
Dywedodd: “Trafodid hynny ar y pryd (pan oeddwn i'n 18 oed) ond roedd yn weledigaeth yr oeddem ni'n meddwl na châi'r weledigaeth honno ei gwireddu fyth.
“Mae'n debyg i fel oedd hi fel pan ddywedon nhw y bydden ni oll yn cario cyfrifiadur yn ein pocedi, cyfrifiadur personol a fyddai’n gwneud popeth i ni, ac fe ddywedon ni ‘na, byth’.
“Roedd yr un peth yn wir yn achos canser mewn gwirionedd, ond nawr mae gennym ni raglenni cemotherapi a thriniaethau ar gyfer pob math o ganser, o'r corun i'r sawdl.”
Mae Beryl wedi gweithio’n agos gyda’r elusen ganser Tenovus drwy gydol ei gyrfa, gyda’r gwasanaeth cyngor ariannol a’r gwasanaeth galw’n ôl sy’n gweithio’n agos gyda thimau clinigol i gefnogi cleifion ar ôl cael triniaeth.
Ond dywed Beryl mai ei phrofiad balchaf oedd sicrhau £1m o gyllid yn ddiweddar i gyflogi 24 o nyrsys sy'n ymarferwyr cynorthwyol arbenigol i gefnogi cleifion yn ystod eu diagnosis a'u triniaeth.
Gyda phob un yn canolbwyntio ar leoliadau penodol y clefyd, sicrhawyd cyllid hefyd gan elusen Cymorth Canser Macmillan i gynorthwyo cleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser y croen a chanser y fron.
Canmolodd Beryl y gefnogaeth a gafwyd gan arweinwyr y bwrdd iechyd i gwblhau a chyflwyno'r achos busnes.
“Rydym ni bellach yn recriwtio'r holl nyrsys hynny,” meddai. “Bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i daith y claf - a'r nyrsys clinigol canser arbenigol presennol, meddygon, fferyllwyr, radiograffwyr - pawb sy'n gweithio i helpu'r cleifion i oroesi eu triniaethau. Fe wnaiff hynny eu helpu hwy.
“Rwy'n gadael tîm amlddisgyblaethol anhygoel ac mae gweddill Cymru yn eiddigeddus iawn ohonom ni, gan fod gennym ni'r holl adnoddau newydd hyn.
Mae Beryl o'r farn ei bod hi'n gadael gwasanaeth y gellir ymfalchïo ynddo. Dywedodd: “Mae gweithio yn y sefydliad hwn wedi bod yn fraint ac yn bleser o'r mwyaf i mi.
“Rwy’n ddiolchgar iawn bod y sefydliad wedi caniatáu i mi a’m cydweithwyr ddatblygu gwasanaethau canser yn y modd y mae wedi'i wneud.”
Dywedodd Jo Whitehead, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Dymunaf ddiolch yn bersonol i Beryl am ei gwasanaeth i’r bwrdd iechyd ac am ei hymroddiad i’n cleifion.
“Er gwaethaf ei diagnosis ei hun o ganser, ei hunig ystyriaeth oedd sut y gallai ddefnyddio ei phrofiadau i helpu eraill. Dylai Beryl fod yn ysbrydoliaeth i bob darpar nyrs.
“Dymunwn iechyd da a hapusrwydd iddi wrth iddi droi dalen newydd – ac, wrth gwrs, edrychwn ymlaen at ei chroesawu yn ôl fel nyrs banc.”