27/10/2023
Mae cegin newydd gael ei hadnewyddu yn Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy i helpu cleifion dwy ward i ddod yn fwy annibynnol er mwyn iddynt allu mynd adref.
Bydd y gegin yn cael ei defnyddio gan y Clwb Pobi newydd, ac fel rhan o sesiynau therapi i annog cleifion i wneud diodydd poeth, byrbrydau a phrydau poeth. Bydd hyn yn helpu Therapyddion Galwedigaethol i asesu cleifion i weld sut y byddant yn ymdopi unwaith y byddant gartref, a phenderfynu pa gymorth pellach y gallent fod ei angen.
Dywedodd Fiona Moss, Arweinydd Tîm Therapyddion Galwedigaethol: "Mae'r gegin yn helpu ein cleifion i wneud y gweithgareddau bob dydd y bydd rhaid iddyn nhw eu gwneud unwaith y byddan nhw wedi mynd adref. Bydd yn helpu cleifion gyda'u sgiliau gwybyddol a'u hyder, ac i fod yn annibynnol yn ogystal â bod yn hwb i'w lles meddwl yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty.
“Rydym yn defnyddio'r gegin i weld a yw cleifion yn gallu trefnu tasgau ac i ganfod a oes unrhyw bryderon diogelwch. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni asesu ein cleifion mewn amgylchedd tebyg i’w cartref eu hunain, i weld pa lefel o gymorth y gall fod ei angen arnynt ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty.”
Enw'r gegin yw ‘Cegin Dorothy' gan iddi gael ei hariannu’n bennaf o ystâd y diweddar Dorothy Hall. Dechreuwyd yr ymgyrch codi arian gan Fiona Moss, a Jan Williams, Metron Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy.
Llwyddwyd i godi dros £10,000 i ddatblygu’r gegin, gyda rhoddion eraill a chefnogaeth a dderbyniwyd yn ddiolchgar gan Lewod y Fflint, Bwrdd Crwn Glannau Dyfrdwy, Cyngor Cymuned Shotton a Chymdeithas Cyfeillion Glannau Dyfrdwy.
Mae Cegin Dorothy yn cynnwys offer sy’n addas i bob claf gyda phopty/hob trydan a nwy, yn ogystal ag uned sinc sy’n codi a gostwng fel y gellir asesu cleifion mewn cadair olwyn.
O ganlyniad i’r gegin newydd, mae’r Uned Adsefydlu Strôc wedi dechrau sesiwn therapi newydd, sef Clwb Pobi ar gyfer cleifion, gydag Asda yn Queensferry yn rhoi eitemau i’r cleifion eu defnyddio.
Dywedodd Jennifer Hanna, Therapydd Galwedigaethol Arbenigol Strôc: “Mae’r adborth gan ein cleifion wedi bod yn hynod o gadarnhaol. Bydd y gegin adsefydlu yn adnodd gwych i staff therapi galwedigaethol asesu a gweithio gyda’n cleifion, gan nodi’r hyn y gallwn ni ei wneud i’w helpu wrth iddynt adsefydlu a gwella ar ôl strôc.
“Rydym ni wedi gallu dechrau Grŵp Pobi er mwyn i’n cleifion allu cynnwys rhywbeth y gallant ei fwynhau yn eu sesiynau therapi. Hoffem ddiolch i Asda yn Queensferry am y troli sy’n llawn nwyddau pobi i'n cleifion eu defnyddio.”