25.01.23
Mae bachgen yn ei arddegau oedd angen triniaeth gofal dwys ar ôl dal firws y ffliw wedi diolch i dimau’r ysbyty a achubodd ei fywyd.
Cafodd Jack Hollingsworth, 19, ei ruthro i Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd brynhawn 15 Rhagfyr, 2022 ar ôl iddo fynd yn ddifrifol wael yn ei gartref yn Llangristiolus, Ynys Môn.
Cafodd ei asesu gan feddygon a argymhellodd ei fod yn cael ei roi mewn coma a gofalu amdano yn yr Uned Gofal Dwys fel mater o frys.
Wrth ddisgrifio’r dyddiau yn arwain at yr eiliad dirdynnol a arweiniodd at gyrraedd yr ysbyty, dywedodd ei fam, Claire Hollingsworth: “Roedd Jack wedi bod yn sâl ers rhai dyddiau, roedden ni i gyd yn meddwl ei fod yn annwyd gwael neu hyd yn oed yn COVID.
“Daeth y prawf COVID yn ôl yn negyddol a thua diwedd yr wythnos aeth yn fwy sâl, roedd ganddo dymheredd uchel iawn a chyfradd curiad calon cyflym iawn.
“Allwn i ddim aros yn hirach, rwy’n gyn nyrs felly roeddwn i’n gwybod nad oedd fy mab yn dda iawn ac roeddwn i’n teimlo bod risg y gallem ei golli.
“Fe wnes i yrru Jack yn fy nghar i'r adran a rhedeg i mewn i gael rhywfaint o help. Roedd y derbynnydd yn gallu gweld pa mor wyllt oeddwn i a rhybuddiodd y staff clinigol ar unwaith a'i ruthro’n syth i mewn i’r Adran Ddadebru.
“Roedd hi’n amlwg bod Jack yn hynod o sâl wrth i’r tîm benderfynu bod angen rhoi peiriant anadlu iddo’n syth. Hon oedd eiliad waethaf fy mywyd, i weld fy mab fel yna.”
Datgelodd canlyniadau profion fod Jack wedi dal y ffliw, a oedd wedi datblygu'n niwmonia.
Am y 10 diwrnod nesaf arhosodd mewn coma gyda'i fam a'i dad, John, a'i gariad Erin wrth ei ochr.
Dywedodd y Meddyg Ymgynghorol Gofal Critigol, Dr Terry Collingwood, a dderbyniodd Jack i’r Uned Gofal Dwys o’r Adran Achosion Brys: “Pan gyrhaeddodd Jack gyda ni yn yr Uned Gofal Dwys roedd ei gyflwr yn un a oedd yn peryglu ei fywyd.
“Roedd angen cymorth meddygol cymhleth arno i oroesi’r 48 awr gychwynnol. Yn ystod y cyfnod hwnnw cawsom gyngor ac arweiniad gan y gwasanaeth Methiant Anadlol Arbenigol yn Ysbyty Glenfield yng Nghaerlŷr ar y ffordd orau o reoli cyflwr Jack, ac roeddem yn hynod ddiolchgar am hynny.”
Ar Noswyl Nadolig, dechreuodd Jack ddangos arwyddion o welliant a gwnaeth y tîm Gofal Critigol y penderfyniad i ddod ag ef allan o'r coma.
“Yn ystod y 10 diwrnod roedd Jack mewn coma roedd yna adegau roedden ni’n meddwl ein bod ni’n mynd i’w golli.
“Ni ddylai rhiant byth orfod gweld eu plentyn mor sâl ac roedd yn dorcalonnus i ni fel rhieni weld ein babi yn cael ei awyru.
“Mae Jack yn hynod ffit, ac yntau newydd gwblhau diploma uwch mewn gweithgareddau awyr agored ond dangosodd sut y gall unigolyn ifanc gael ei lethu’n sydyn gan y ffliw ar ôl iddynt gyrraedd pwynt pan fydd eu system imiwnedd wedi llosgi allan. Ar y pwynt hwnnw, dirywiodd o fod yn fachgen â salwch tebyg i ffliw i fod yn ddifrifol wael ymhen ychydig oriau.
“Roedd yn ein hatgoffa pa mor beryglus y gall ffliw fod, hyd yn oed i’r rhai sy’n ifanc ac yn heini a byddem yn parhau i annog unrhyw un sy’n gymwys i gael eu pigiad ffliw ar ôl gweld beth y bu bron iddo ei wneud i’n mab,” ychwanegodd Claire.
Diolch byth, gwellodd Jack yn gyflym a llwyddodd i adael yr ysbyty ar Ŵyl San Steffan, mewn pryd ar gyfer ei ben-blwydd yn 19 ar 27ain o Ragfyr.
Ymwelodd Jack a'i rieni â'r Uned Gofal Dwys yn ddiweddar i ddiolch i'r staff a fu'n gofalu amdano yn ystod dyddiau tywyllaf eu bywydau.
Dywedodd Jack, sydd bellach yn edrych ymlaen at ddychwelyd i fynyddoedd Eryri: “Roedd yn wych dod yn ôl i weld y staff oedd yn gofalu amdanaf, gan fy mod mewn coma dydw i ddim yn cofio sut olwg oedd ar yr un ohonyn nhw. Roedd yn hyfryd cwrdd â nhw a diolch iddynt yn bersonol.
“Byddaf yn ddiolchgar am byth iddynt am achub fy mywyd.”
Ychwanegodd Claire: “Rydym eisiau diolch i’r ysbyty, yn enwedig y tîm Gofal Critigol a staff yr Adran Achosion Brys am yr holl ofal a chymorth y maent wedi’u rhoi i ni.
“Roedden ni’n teimlo ein bod ni’n derbyn cymaint o ofal yn ystod y cyfnod hwnnw ac roedd y gofal roedden nhw’n ei ddarparu i Jack yn anhygoel.
“Rydym yn hynod ddiolchgar iddyn nhw a phopeth a wnaethant.”
Roedd Dr Collingwood a'r tîm Gofal Dwys yn falch iawn o weld pa mor dda y mae Jack wedi gwella ers gadael yr ysbyty.
Dywedodd: “Gall helpu claf fel Jack fod yn heriol iawn ac mae angen mewnbwn gan lawer o bobl sy’n gweithio mewn sawl arbenigedd gwahanol, gan gynnwys nyrsio, ffisiotherapi, radioleg a gwasanaethau labordy yn ogystal â’r gwasanaethau cymorth amrywiol fel staff cadw tŷ, gweinyddol a phorthora.
“Mae’n destament enfawr i’r tîm cyfan yma yn Ysbyty Gwynedd fod rhywun mor sâl â Jack pan gyrhaeddodd wedi gallu gwella’n rhyfeddol.
“Roedden ni i gyd wrth ein bodd yn gweld Jack eto ac rydym mor falch o’i weld yn gwneud mor dda.”