02.08.23
Mae meddygon iau wedi graddio Ysbyty Gwynedd fel y lle gorau yng Nghymru i hyfforddi mewn Anesthetig a Meddygaeth Gofal Dwys.
Dangosodd canlyniadau Arolwg Hyfforddi Cenedlaethol diweddar gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol bod y meddygon dan hyfforddiant yn graddio’n uchel ansawdd yr oruchwyliaeth, y profiad a’r addysgu y maen nhw’n ei dderbyn.
Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cynnal arolwg hyfforddi blynyddol i gael darlun cynhwysfawr o feddygon dan hyfforddiant ar draws yr holl arbenigeddau ledled y DU.
Dywedodd Dr Edward Farley-Hills, Arweinydd Clinigol ar gyfer Anesthetig a’r Uned Gofal Dwys: “Rydym yn derbyn hyd at 10 o hyfforddeion bob blwyddyn a bob amser yn sicrhau eu bod yn derbyn cyfnod sefydlu cynhwysfawr dros eu dyddiau cyntaf er mwyn iddynt ymgyfarwyddo’n llwyr â’r mathau o offer a’r canllawiau lleol cyn iddynt hyd yn oed gael gweld claf. Yna maen nhw’n cael eu mentora gan feddyg ymgynghorol a enwyd drwy gydol eu hyfforddiant gyda ni.
“Rydym yn falch iawn o dderbyn y canlyniadau hyn ac nid yn unig mae’r Uned Gofal Dwys wedi dod allan ar y brig yng Nghymru ond yn y pum uchaf yn y DU. Mae gennym feddylfryd tîm cefnogol gwych yn yr adran ble rydym yn gwneud ein gorau i roi profiad holistaidd i’n hyfforddeion.”
Adran Anesthetig Ysbyty Gwynedd yw’r unig uned o hyd yng Nghymru i gael ei gwobrwyo ag Achrediad Gwasanaethau Clinigol Anesthesia (ACSA) gan Goleg Brenhinol yr Anesthetyddion (RCoA).
“Er bod yr adran gyfan wedi cyfrannu at y canlyniadau gwych hyn, mae angen cydnabod pobl benodol am eu gwaith rhagorol yn addysgu a threfnu. Dr Suman Mitra, Dr Will Sutcliffe, Dr Emyr Huws, Dr Terry Collingwood ac yn olaf ond nid y lleiaf, ein Rheolwr Adran, Karen Capon sy’n ein trefnu ni i gyd,” ychwanegodd Dr Farley-Hills.
Dywed Dr Huws, a hyfforddodd fel cofrestrydd yn Ysbyty Gwynedd ond sydd wedi dychwelyd fel Meddyg Ymgynghorol erbyn hyn, fod yr amgylchedd cyfeillgar a theuluol yn yr ysbyty’n apelio at lawer o’r meddygon iau sy’n dod i’r adran i hyfforddi.
Dywedodd: “Rydw i’n hanu o’r ardal leol a hyfforddais yn Ysbyty Gwynedd rhwng 2017-2018 yn yr Adran Anestheteg.
“Yn ystod fy nghyfnod o hyfforddi yn yr adran, derbyniais gymorth ar gyfer arholiadau gan uwch Feddygon Ymgynghorol a’r cyfle i wella fy sgiliau a ffynnu yn fy rôl.
“Roedd bob amser yn fwriad gen i ddychwelyd am i mi fod yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol a chael gweithio ym mro fy mebyd. Ryw flwyddyn yn ôl, derbyniais swydd Meddyg Ymgynghorol Locwm gyda’r bwriad o ddechrau mewn swydd barhaol yn y dyfodol agos.
“Rydw i’n teimlo’n lwcus i fod yn rhan o dîm sy’n buddsoddi gymaint yn eu hyfforddeion, ac rydw i’n gobeithio, fel uwch aelod o’r tîm erbyn hyn, y gallaf helpu i fod yn rhan o annog ein hyfforddeion i ddod yn ôl atom ni i weithio yn y dyfodol hefyd.”
Dywedodd Dr Suman Mitra, Anesthetydd Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd a Thiwtor Coleg RCoA, bod canlyniadau’r adborth yn adlewyrchu’r gwaith caled a’r brwdfrydedd gan bawb yn yr adran.
Dywedodd: “Mae pob addysg a hyfforddiant effeithiol yn gofyn am amgylchedd dysgu ffafriol, grŵp cyfadran ymroddedig ochr yn ochr â chwricwlwm cynhwysfawr. Rwy’n teimlo ein bod wedi gallu creu’r ddau gyntaf i gyflwyno’r trydydd a chynorthwyo’r meddygon iau i ddod yn anesthetyddion abl.
“Rwyf eisiau parhau i gynorthwyo’r addysgwyr hyd eithaf fy ngallu, fel y caiff carfanau’r dyfodol o feddygon iau brofiad rhagorol yn Adran Anesthetig Ysbyty Gwynedd.”