Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy fydd y trydydd lleoliad ar gyfer ysbyty dros dro i drin preswylwyr Gogledd Cymru gyda symptomau COVID-19.
Bydd oddeutu 250 gwely ychwanegol ar gael i’r GIG fel rhan o’r bartneriaeth aml-asiantaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir y Fflint, Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r trydydd ysbyty dros dro hwn yn dod â chyfanswm y gwelyau ar gael mewn lleoliadau ysbytai dros dro yng Ngogledd Cymru i oddeutu 850.
Bydd Venue Cymru yn Llandudno yn cael ei drawsnewid i ddal 350 gwely ychwanegol dros dro, a bydd Canolfan Brailsford Prifysgol Bangor yn darparu 250 gwely pellach.
Bydd y tri ysbyty dros dro yn helpu i atal derbyniadau i dri phrif ysbyty’r Bwrdd Iechyd, a helpu cleifion sydd wedi derbyn triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam i wella er mwyn dychwelyd adref.
Dywedodd Mark Polin, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydym wedi’i dderbyn gan Gyngor Sir y Fflint, Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddiogelu Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy fel y trydydd lleoliad ar gyfer ysbyty dros dro yng Ngogledd Cymru.
“Yn wir, mae ein holl bartneriaid ar draws Gogledd Cymru yn chwarae rôl hanfodol i helpu i sicrhau bod gennym y capasiti i baratoi ar gyfer cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl a fydd angen gofal dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.
“Mae gwaith arwyddocaol wedi cael ei gyflawni o fewn mater o wythnosau.
“Mae cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd ac o fewn y sefydliadau partner yn gweithio bob awr o’r dydd i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu i amddiffyn ein cymunedau.
“Mae maint y dasg yn sylweddol ond rwy’n hyderus, drwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn wneud y cynnydd cyflym angenrheidiol i gael y tri safle yn weithredol o fewn mis.”
Hefyd, mae gwaith ar y gweill i gael 1,000 o welyau ychwanegol o fewn tri phrif ysbyty’r Bwrdd Iechyd.
Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr, Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Cyngor ac AURA, ein partner gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd, wedi camu ymlaen i sicrhau fod Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ar gael fel ysbyty brys i wasanaethu cymunedau Sir y Fflint a Sir Wrecsam.
“Mae’r ddau gyngor yn darparu cefnogaeth rheoli prosiect a logistaidd i baratoi’r Ganolfan yn barod ar gyfer ei ddefnydd newydd, dros dro. Byddwn yn rhoi bob cefnogaeth i’n Bwrdd Iechyd i gael y ganolfan yn barod mewn da bryd ar gyfer y brig disgwyliedig yn y galw.
“Mae hwn yn amser i bartneriaid ddod ynghyd i amddiffyn ac arbed bywydau. Rydym yn falch o allu gwneud ein rhan."