Caewyd Tawel Fan, ward iechyd meddwl pobl hŷn yn Uned Ablett, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn Rhagfyr 2013 yn dilyn pryderon a godwyd ynglŷn ag ansawdd a diogelwch y gofal a ddarparwyd ar y ward.
Cynhaliodd y Bwrdd Iechyd ymchwiliadau mewnol a arweiniodd at rai staff yn cael eu tynnu oddi ar ddyletswyddau clinigol. O ganlyniad, cafodd cleifion eu trosglwyddo i leoliadau gofal eraill. Mae’r ward wedi bod ar gau ers hynny.
Yn Ionawr 2014 fe gomisiynodd y Bwrdd Iechyd arolygydd allanol annibynnol, Donna Ockenden, i edrych ar ofal cleifion ar y ward. Rhoddwyd diweddariad ar gynnydd i’r Bwrdd yng Ngorffennaf 2014. Ym Medi 2014, cwblhawyd adroddiad Ockenden ac fe’i rhannwyd yn syth â Heddlu Gogledd Cymru a gadarnhaodd eu bod am ymchwilio’n swyddogol i hyn. Ym Mai 2015, dywedodd yr heddlu na fyddai cyhuddiadau troseddol yn cael eu dwyn.
Yn ystod y cyfnod hwn, tynnwyd y tîm rheoli Iechyd Meddwl yn ôl o’u dyletswyddau yn hydref 2014 a phenodwyd Cyfarwyddwr Dros Dro Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu profiadol i roi arweiniad i’r uwch adran sydd yn cynnal gwasanaethau cleifion mewnol ac yn y gymuned ar draws Gogledd Cymru.
Cyhoeddwyd adroddiad Ockenden ym Mai 2015 gan ddenu cryn sylw gan y cyfryngau. Darparodd yr adroddiad olwg ar y gofal ar y ward, gan ddefnyddio gwybodaeth gan 40 aelod o staff a 15 o deuluoedd. Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod diwylliant y ward wedi arwain at gam-drin sefydliadol. Derbyniwyd yr adroddiad gan y Bwrdd Iechyd, a phenderfynwyd bod angen ymchwilio ymhellach i ganfyddiadau Ockenden er mwyn cael darlun llawn o’r gofal a ddarparwyd ar y ward cyn iddi gau.
Ym Mehefin 2015, rhoddwyd y Bwrdd Iechyd mewn Mesurau Arbennig gan Lywodraeth Cymru ac roedd gwasanaethau iechyd meddwl yn un o’r meysydd a adnabuwyd a oedd angen gwella’n sylweddol.
Ym Medi 2015, comisiynodd y Bwrdd Iechyd ymchwiliad llawn annibynnol gan HASCAS.
Dechreuodd y Bwrdd Iechyd adolygiad marwoldeb thematig i'r holl farwolaethau ar Ward Tawel Fan yn ystod 2013/14 i ddynodi unrhyw feysydd i'w gwella. Nid yw adolygiad marwoldeb yn ymchwiliad, ond yn hytrach yn adolygiad clinigol i adnabod ble gall gofal a thriniaeth gael ei wella. Drafftiwyd yr adroddiad hwn ond ni chafodd ei gwblhau na'i dderbyn/ei gymeradwyo'n ffurfiol, a chomisiynwyd yr adolygiadau annibynnol y soniwyd amdanynt uchod a'u blaenoriaethu. Er mwyn bod yn agored a thrylwyr, rydym wedi cyhoeddi fersiwn wedi ei olygu o'r adolygiad marwoldeb thematig. Mae'r golygiadau'n cynnwys tynnu enwau unigolion a gwybodaeth eraill y gellir adnabod pobl ohono yn unol â chyfreithiau diogelu data.
Gorffennaf 2017
Datganiad I'r Wasg Donna Ockenden, 12.07.18
Datganiad I'r Wasg BCUHB, 12.07.18
Adroddiad Llawn Donna Ockenden, Gorffennaf 2018
Adroddiad Crynodeb Gweithredol, Gorffennaf 2018
Llythyr at AC ac AS yn amlinellu camau a gwelliannau yn dilyn cyhoeddi Adolygiad Donna Ockenden ar Lywodraethu (Dwyieithog), Gorffennaf 2018
Llywodraeth Cymru - Datganiad Ysgrifenedig - Cyhoeddi Adolygiad Llywodraethu Donna Ockenden, 12.07.18
Mai 2018
Llythyr Tawel Fan gan y Prif Weithredwr Mai 2018
Adroddiad Llawn HASCAS, Mai 2018
Adroddiad Crynodeb Gweithredol, Mai 2018
Datganiad i’r Wasg, Cadeirydd ar Prif Weithredwr, Mai 2018
Sgript, Prif Weithredwr, Mai 2018
Datganiad Llywodraeth Cymru, Mai 2018
Adroddiad Donna Ockeden, Medi 2014