19.01.2026
Cau mynediad i’r maes parcio anabl dros dro: 20–21 Ionawr 2026
Bydd y mynediad i’r maes parcio anabl a ddangosir yn y ddelwedd yma ar gau o 6pm ar 20 Ionawr 2026 tan 12pm ar 21 Ionawr 2026 er mwyn caniatáu codi craen ar frys sy’n gysylltiedig â gosod gwaith trydanol endosgopi.
Er mwyn lleihau tarfu gymaint â phosibl, bydd lleoedd parcio anabl ychwanegol ar gael am y diwrnod y tu ôl i Ward Alaw.
Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi a diolchwn i chi am eich dealltwriaeth.
16.01.2026
O ddydd Sul, 18 Ionawr, bydd Uned Endosgopi dros dro wedi'i lleoli ym maes parcio'r adran famolaeth yn Ysbyty Gwynedd am gyfnod o tua phum mis.
Cyflwynir y cyfleuster dros dro hwn i helpu lleihau amseroedd aros ar gyfer triniaethau endosgopi diagnostig. Bydd yn helpu cleifion sydd wedi bod yn aros yn hirach nag yr hoffem am ymchwiliadau pwysig. Bydd yr uned yn cynyddu capasiti endosgopi a’n galluogi i weld mwy na 1,500 o gleifion yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n gam allweddol wrth fynd i'r afael â'n rhestrau aros a gwella mynediad amserol at ofal i'n cleifion.
Bydd yr uned dros dro yn cael ei lleoli ar safle Ysbyty Gwynedd oherwydd bod hyn yn caniatáu i ni ddarparu ystod ehangach o driniaethau endosgopi yn ddiogel. Byddai lleoli'r uned ar safle nad yw'n safle acíwt yn cyfyngu'n sylweddol ar yr ystod o driniaethau y gallwn eu cynnig ac yn lleihau'r budd i gleifion sy'n aros am ofal.
O ganlyniad, bydd gostyngiad dros dro yn nifer y lleoedd parcio sydd ar gael ym maes parcio'r adran famolaeth. Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn cael effaith amlwg ar gleifion, staff ac ymwelwyr, ac rydym wrthi'n gweithio i nodi ble gellir ail-ddarparu lleoedd parcio mewn mannau eraill ar safle'r ysbyty.
Ymddiheurwn am unrhyw aflonyddwch ac anghyfleustra y gallai hyn ei achosi a gofynnwn i gleifion, ymwelwyr ac aelodau'r cyhoedd ystyried dulliau trafnidiaeth eraill lle bo modd, neu ganiatáu amser ychwanegol wrth deithio i'r ysbyty i sicrhau bod digon o amser i ddod o hyd i le parcio cyn apwyntiadau.
Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bod y mesurau pwysig hyn yn cael eu rhoi ar waith i wella mynediad at ofal i'n cleifion.