Dywedodd Tehmeena Ajmal, Prif Swyddog Gweithredu BIPBC: “Oherwydd y tywydd garw ledled Gogledd Cymru, cynghorir cleifion i ganiatáu mwy o amser i deithio i’w hapwyntiadau Ysbyty.
Os oes gennych apwyntiad yn un o’n hysbytai ac yn methu â chyrraedd yno, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
“Dylai’r rhai sy’n gallu teithio’n ddiogel i’w hapwyntiadau wneud hynny oni bai bod y Bwrdd Iechyd yn cynghori fel arall. Byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â chleifion i roi gwybod os bydd clinigau neu apwyntiadau wedi’u canslo.
“Cadwch yn ddiogel yn ystod y tywydd oer. Sicrhewch fod eich cartrefi yn ddigon cynnes a’ch bod yn gwisgo digon o ddillad. Yfwch ddigon o ddiodydd poeth a chadwch wedi’ch hydradu’n dda.”