Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'r gwasanaeth sganio PET-CT

07.01.2026

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi gorfod gwneud newidiadau dros dro i'w wasanaeth sganio symudol PET-CT, y gwahoddwyd cynigion i’w redeg drwy dendr. Mae PET-CT yn wasanaeth delweddu arbenigol sy'n cael ei weithredu mewn tri safle ledled Cymru.

Ni fydd y gwasanaeth, sy’n cael ei weithredu fel arfer yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ar  gael am sawl wythnos, wrth i faterion contractio, comisiynu a thrwyddedu gael eu cwblhau.

Rydym wedi bod yn cydweithio â Chydbwyllgor Comisiynu (JCC) GIG Cymru a'n cydweithwyr yn y rhwydwaith sganio PET-CT yng Nghaerdydd ac Abertawe, i liniaru unrhyw darfu ar  ein gwasanaeth yng Ngogledd Cymru.

Mae hynny’n golygu y bydd cleifion sy’n gorfod cael sgan PET-CT yn gorfod teithio i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd neu i Ysbyty Singleton yn Abertawe yn ystod y cyfnod hwn. Mae capasiti cyfyngedig ychwanegol hefyd wedi'i sicrhau yn Ysbyty Christie, ym Manceinion, ac rydym yn gweithio i sicrhau rhagor o apwyntiadau yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod y gallai cleifion fod yn bryderus ynghylch y teithio a'r tarfu ar wasanaethau lleol, yn ystod cyfnod sydd eisoes yn un pryderus. Gallwn eich sicrhau ein bod yn deall y pryderon hynny yn iawn a bydd ein staff yn cysylltu â phobl yr effeithir arnynt ac yn cynnig cymorth iddynt.

Dywedodd Tehmeena Ajmal, Prif Swyddog Gweithredu BIPBC: "Mae amgylchiadau na allwn eu rheoli yn golygu bod oedi o ran sefydlu contract newydd ar gyfer y gwasanaeth sganio PET-CT symudol, sy'n ymweld â Wrecsam yn wythnosol.

"Dymunaf ymddiheuro i'r bobl hynny y mae angen sgan PET-CT arnynt am y tarfu dros dro hwn. Gallaf eich sicrhau ein bod yn cydweithio â’n partneriaid yn y rhwydwaith a sefydliadau eraill i leihau unrhyw ddiffyg yn y gwasanaeth hwn. Felly peidiwch â phoeni, byddwch yn cael eich gweld.

"Mae'r broses o gysylltu â chleifion, i roi gwybod iddynt ble a phryd y bydd eu sganiau yn digwydd, eisoes ar y gweill.

"Nid yw'n anarferol i ni gydweithio â phartneriaid mewn rhannau eraill o Gymru a'r gogledd-orllewin i gynnig gwasanaethau arbenigol iawn. Rwyf am ddiolch i JCC GIG Cymru a'n partneriaid am eu hymrwymiad i dderbyn ein cleifion."

Byddwn yn hysbysu cleifion a rhanddeiliaid yn rheolaidd tra bydd y tarfu ar ein gwasanaeth yn parhau. Byddwn yn dechrau neilltuo apwyntiadau yn ein gwasanaeth lleol i bobl y mae arnynt angen sgan PET-CT cyn gynted ag y bydd y mater hwn wedi’i ddatrys.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio i sefydlu canolfan meddygaeth niwclear o'r radd flaenaf yng Ngogledd Cymru, a bydd sganiwr PET-CT statig yn y ganolfan honno. Rydym yn gobeithio y bydd y ganolfan hon yn weithredol erbyn diwedd 2027.