Neidio i'r prif gynnwy

Gwelliannau sylweddol yn yr amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol yng Ngogledd Cymru

22 January 2026

Diweddariad ynglŷn â Pherfformiad: Amseroedd aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth (RTT)
 

Data hyd at fis Tachwedd 2025

Rydym wedi sicrhau gwelliannau sylweddol o ran cwtogi amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol cyntaf yng Ngogledd Cymru dros y 12 mis diwethaf.

Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi cynyddu nifer y clinigau a gynhelir gyda'r nos ac ar benwythnosau ar draws sawl arbenigedd. Ers 6 Medi 2025, cynigiwyd mwy na 45,000 o apwyntiadau ychwanegol ar benwythnosau, gyda 36,578 yn fwy o gleifion yn cael eu gweld. Rydym wedi gallu blaenoriaethu cleifion yn nhrefn eu hangen clinigol fel y gallant dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosibl. Fe wnaethom ni hefyd lansio gwasanaeth cymorth pwrpasol i helpu cleifion i aros yn iach a pharatoi ar gyfer triniaeth tra byddant yn aros.

 Gwelsom y gwelliannau canlynol hyd at fis Tachwedd 2025:

  • Mae nifer y cleifion sy'n aros mwy na dwy flynedd am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf wedi gostwng 88% o'i gymharu â mis Tachwedd 2024.
  • Mae cleifion yn symud trwy eu taith gofal yn gynt, gyda 42% yn aros am apwyntiad cyntaf (o'i gymharu â 55% ar yr adeg hon y llynedd), a 38% yn y camau diagnostig a phenderfynu (o'i gymharu â 29% ar yr adeg hon y llynedd)
  • Mae bron i 6,000 yn llai o gleifion yn aros mwy na dwy flynedd, gostyngiad o 58% o'i gymharu â mis Tachwedd 2024.

Er bod y data perfformiad diweddaraf yn dangos ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol, rydym yn cydnabod bod llawer iawn o waith i'w wneud o hyd. Rydym wedi ymrwymo i gwtogi amseroedd aros a sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu cyn gynted â phosibl.

Rydym yn rhannu'r diweddariad hwn ar amseroedd aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth (RTT) i gleifion yng Ngogledd Cymru i gyd-fynd â rhyddhau Crynodeb Gweithgaredd a Pherfformiad GIG Cymru (ystadegau Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth).