Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad am y Mesurau Arbennig 2026

5 Mawrth 2026

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hadroddiad ar y cynnydd a wnaed ers i'r Bwrdd Iechyd gael ei uwchgyfeirio i'r lefel uchaf – Mesurau Arbennig.

Mae'r adroddiad yn dangos y cynnydd a wnaed dros y tair blynedd diwethaf wrth i ni fynd i'r afael ag ystod o heriau sylweddol, yn sefydliadol ac o ran darpariaeth gwasanaethau. Mae hefyd yn amlwg bod angen gwelliannau brys i sicrhau bod ein cymunedau'n cael mynediad amserol at wasanaethau diogel a chynaliadwy.

Gwyddom fod llawer o bobl yn dal i aros yn rhy hir i gael eu trin, boed hynny drwy driniaethau wedi'u cynllunio neu ofal mewn argyfwng. Mae hyn yn annerbyniol, rydym wedi ymrwymo i'w newid ac mae wedi bod yn flaenoriaeth dros y 12 mis diwethaf.

Mae nifer o feysydd lle mae angen i ni wella ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth o wasanaethau hefyd (e.e., yn y meysydd fasgwlaidd, wroleg, orthodonteg, offthalmoleg a dermatoleg), ac mae gennym gynlluniau ar waith i'w gwella.

Er bod yr adroddiad yn tynnu sylw'n briodol at y meysydd pryder hyn, mae hefyd yn cydnabod faint o waith a wnaiff y sefydliad. Ers ei uwchgyfeirio i Fesurau Arbennig, mae'r Bwrdd wedi cadarnhau diwygiadau llywodraethiant ac arweinyddiaeth, wedi cryfhau rheolaethau ariannol ac wedi gwella ei systemau ansawdd a diogelwch.

Mae rhai enghreifftiau allweddol o’r gwelliannau a wnaed yn cynnwys:

  • Gostyngiad o 66% yn nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth. Mae'n werth nodi'r gostyngiad o 84% mewn arosiadau dwy flynedd o hyd ar gyfer triniaethau orthopedig; gostyngiad o 57% ar gyfer llawdriniaethau cyffredinol a gostyngiad o 65% ar gyfer triniaethau ENT.
  • Mae nifer yr asesiadau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc a gwblhawyd o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y cyfeiriad wedi gwella o 57.8% ym mis Chwefror 2023 i 90% ym mis Rhagfyr 2025. Mae cydymffurfiaeth yn erbyn y safon 80% wedi'i chynnal am y 18 mis diwethaf.
  • Y Bwrdd Iechyd sydd wedi cynnal y nifer uchaf o ymgynghoriadau gan Fferyllwyr-bresgripsiynwyr Annibynnol yng Nghymru. Mae hyn yn gwella mynediad ar yr un diwrnod ar gyfer mân anhwylderau ac yn ein galluogi i wneud y defnydd gorau o feddyginiaethau, gan leddfu'r pwysau ar feddygon teulu ac adrannau achosion brys.
  • Bydd agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a rhaglen fferylliaeth newydd ym Mhrifysgol Bangor yn helpu i ddatblygu'r gweithlu yng Ngogledd Cymru. Yn ogystal, eleni gwelwyd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio yn cwblhau eu graddau ar gontract comisiynu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), sy'n rhaglen sydd wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam.
  • Mae contractau deintyddol newydd y GIG sy'n werth mwy na £6.5m wedi'u sicrhau, sy'n cynyddu mynediad at ofal deintyddol arferol a brys.

Gan edrych tua'r dyfodol, mae cynlluniau ar waith i barhau i gryfhau gwasanaethau'r GIG ledled Gogledd Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys agor hwb lawfeddygol newydd yn Ysbyty Llandudno, cymeradwyo buddsoddiad i drawsnewid Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl a chyflwyno systemau digidol newydd i reoli cofnodion a phresgripsiynau cleifion, ymhlith mentrau eraill.

Ategir hyn gan y gwaith diflino sy'n mynd rhagddo i gyflwyno model gweithredu cryfach ar gyfer y sefydliad sy'n canolbwyntio ar sut y gallai gofal, gwasanaethau, timau a systemau ddiwallu anghenion cleifion a staff nawr ac yn y dyfodol.

Dywedodd, Dyfed Edwards, Cadeirydd: “Mae adroddiad heddiw yn tynnu sylw at daith welliant y Bwrdd Iechyd dros y tair blynedd diwethaf.

“Mae’n iawn pwysleisio’r angen brys i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol yr ydym yn dal i’w hwynebu o ran darparu mynediad amserol at wasanaethau diogel a chynaliadwy i’n cymunedau. Fodd bynnag, rwy'n falch o weld ei fod hefyd yn tynnu sylw at y gwaith da sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, gan ddangos enghreifftiau o'r meysydd lle rydym wedi cymryd camau sylweddol ymlaen. 

“Rydym yn cydnabod maint yr heriau o’n blaenau, ond dylai’r gwelliannau rydym eisoes wedi’u cyflawni roi hyder i ni. Mae'r cyfan yn dangos ymroddiad ein staff a pharodrwydd timau ar draws y Bwrdd Iechyd i wella'r ffordd rydym yn gweithio er budd cleifion. Y dasg nesaf yw adeiladu ar y momentwm hwn a dal ati i gryfhau ein gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.”