Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ynglŷn ag Adroddiad AGIC ar y Gwasanaethau Mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd

Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Rydym yn croesawu’r adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynglŷn â'n Huned Famolaeth yn Ysbyty Gwynedd ac yn falch ei fod yn cydnabod ymroddiad ein staff i drin merched â charedigrwydd a pharch.

“Mae'n galonogol i ni glywed yr adborth cadarnhaol gan ferched sy’n defnyddio ein gwasanaethau, yn enwedig eu gwerthfawrogiad o’r gefnogaeth maen nhw wedi’i derbyn yn ystod eu taith mamolaeth. Rydym hefyd yn falch bod yr adroddiad hwn yn cydnabod ein gwasanaeth profedigaeth arbenigol a'n Clinig Enfys, sy'n rhoi gofal hanfodol i ferched yn dilyn colli beichiogrwydd.

“Mae adborth yr Arolygiaeth yn werthfawr ac yn rhoi cyfle i ni i wneud mwy o welliannau. Rhoddwyd cynllun gwelliant ar waith ar unwaith mewn ymateb i'w canfyddiadau ac rydym yn parhau ar y trywydd iawn i gwblhau'r holl gamau gweithredu sy'n weddill erbyn diwedd mis Gorffennaf.

“Rydym yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod y merched a'r teuluoedd sy’n defnyddio ein gwasanaethau mamolaeth ledled Gogledd Cymru yn cael gwasanaeth o'r safon uchaf.”