Heddiw, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi trafod adroddiad cryno terfynol ynghylch y materion cyfrifyddu a ddigwyddodd yn 2021/22. Diben hynny yw sicrhau tryloywder ac atebolrwydd ac i sicrhau y dysgir gwersi, gan roi mesurau ar waith i ofalu na fydd materion o'r fath yn digwydd yn y dyfodol.
Yn amlwg, roedd hynny’n ddifrifol a chymhleth ac mae ystod eang o adolygiadau, ymchwiliadau a phrosesau eraill wedi'u cynnal yn ei sgil.
Ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth o dwyll trwy ymchwiliadau gan Wasanaethau Atal Twyll Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r adroddiad yn amlygu’r gwersi a ddysgwyd a'r camau a weithredwyd ac erbyn hyn, mae’r systemau, y diwylliant a’r arweinyddiaeth oll wedi’u cwblhau. Mae Archwilio Cymru wedi cynnig barn archwilio ddiamod (safbwynt gwir a theg) ynghylch Cyfrifon Blynyddol y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf.
Mae cyrff allanol, trwy amrywiaeth o adroddiadau a dulliau cynnig sicrwydd, wedi cydnabod y cynnydd y mae’r Bwrdd Iechyd wedi’i wneud. Rydym wedi dysgu gwersi (a byddwn yn parhau i ddysgu gwersi) yn sgil y profiad hwn wrth i ni feithrin diwylliant sy’n rhoi pwyslais ar onestrwydd, parch a thryloywder yn holl feysydd ein sefydliad.
Nodiadau ar gyfer y golygydd
Crynodeb o'r gwersi a ddysgwyd a’r camau gweithredu:
Dolenni perthnasol:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Asesiad Strwythuredig 2024 | Archwilio Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Adroddiad Archwilio Blynyddol 2024 2024 | Archwilio Cymru