Dywedodd Carol Shillabeer, y Prif Weithredwr: "Mae'r Bwrdd Iechyd yn croesawu cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet am asesiad ar lefel Cymru gyfan o sicrwydd ym maes gwasanaethau mamolaeth a’r newyddanedig, ac mae'n cefnogi'r gwaith pwysig hwn a'r ymrwymiad cyffredin i ddysgu gwersi ledled y GIG yng Nghymru.
"Fel sefydliad sy’n dysgu, rydym yn ymdrechu'n ddiddiwedd i wella ansawdd, diogelwch a phrofiad gofal i bob dynes, baban a theulu. Rydym yn cydnabod y bydd gwasanaethau yn wynebu heriau o bryd i'w gilydd ac rydym yn dal i fynd ati’n ddiwyro i nodi meysydd i'w gwella a gweithredu mewn ymateb iddynt.
"Yn ystod y degawd diwethaf, rydym wedi gwireddu newidiadau sylweddol i gryfhau ein gwasanaethau mamolaeth a’r newyddanedig, ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar sail y cynnydd hwn. Ein huchelgais yw bod ymhlith y goreuon yng Nghymru a'r DU.
"Mae gwrando ar ferched, teuluoedd a staff yn bwysig iawn i ni ac rydym yn ymrwymo i ymateb i farn a safbwyntiau wrth lunio gwasanaethau yn y dyfodol. Mae'r adolygiad cenedlaethol yn cynnig cyfle hanfodol i fyfyrio, dysgu a gweithio ar y cyd ar draws byrddau iechyd i gyflawni gofal mwy diogel, mwy tosturiol a mwy ymatebol.
"Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu'n gadarnhaol â'r adolygiad ac at gyfrannu at welliannau ystyrlon a pharhaol i bob teulu ledled Cymru."